Llais etholwyr dall ac anabl 'yr un mor bwysig'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall gael eu "cynnwys" mewn etholiadau a'u cefnogi i bleidleisio yn annibynnol, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae'r broses o roi croes mewn bocs yn un weledol iawn ac mae etholwyr sydd â nam golwg yn dweud ei bod yn anodd bwrw eu pleidlais yn breifat ac yn gyfrinachol.
Yn ôl sefydliad yr RNIB, dim ond un ymhob pump o bleidleiswyr dall, a llai na hanner sy'n rhannol ddall, oedd yn teimlo eu bod wedi gallu pleidleisio yn annibynnol yn etholiadau diweddara'r Deyrnas Unedig yn 2019.
Tu hwnt i hynny, roedd 53% o'r rhai gafodd eu holi gan yr elusen yn dweud nad oedden nhw'n gallu darllen gwybodaeth am yr etholiad, gan gynnwys cardiau pleidleisio.
Un sy'n rhannu'r rhwystredigaeth ydy Elin Williams, 23 oed, o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy. Mae ganddi gyflwr dirywiol retinitis pigmentosa, sy'n golygu ei bod yn gweld lliwiau a golau, ond dim unrhyw fanylder.
"Ges i ddiagnosis pan o'n i'n chwech a ges i 'nghofrestru'n ddall pan o'n i'n 12," esboniodd Elin.
"Yn aml iawn dydy pleidiau ac ymgyrchwyr ddim yn gyrru gwybodaeth allan mewn ffyrdd fatha braille neu sain.
"Felly mae hynny'n golygu bod fi ddim yn cael y wybodaeth dwi angen ar y pleidiau cyn gwneud fy mhenderfyniad a bwrw fy mhleidlais.
"Mae o'n gwneud i mi deimlo bod pobl ddim yn meddwl am bobl sydd efo nam golwg neu bobl anabl yn ystod eu hymgyrchoedd. Mae o'n creu gwahaniaethu yn sicr."
'Fy hawl yn cael ei dynnu'
Yn ôl Elin, mae'r diwrnod etholiad ei hun yn gallu bod yn anodd.
"Dwi'n pleidleisio drwy'r post achos mai dyna sydd hawsa' i mi, ond dydy'r cerdyn pleidleisio ddim yn hygyrch" meddai.
"Dydy o ddim yn rhywbeth dwi'n gallu gweld felly dwi'n gorfod gofyn i rywun arall ddarllen o i mi ac wedyn ticio'r blwch ar y diwedd hefyd.
"Mae hynny'n golygu bod yr hawl i bleidleisio yn annibynnol ac yn gyfrinachol yn cael ei dynnu i ffwrdd ohona' i a dydy hynny ddim yn deimlad braf."
Mae pobl sydd â nam golwg yn defnyddio sawl gwahanol ffurf i gael gwybodaeth - o brint bras, i braille neu sain. Ond mae llawer o'r wybodaeth sy'n dod drwy'r drws am etholiadau mewn ffurf draddodiadol.
Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i orsafoedd pleidleisio gynnig fersiynau print bras o bapurau pleidleisio. Mae etholwyr yn gallu defnyddio'r rhain i'w helpu ond mae'n rhaid defnyddio'r papur swyddogol i gofnodi eu dewis.
Gyda phleidlais bost, mae etholwyr yn gallu gofyn am i'r wybodaeth gael ei anfon atyn nhw mewn ffurf fel braille neu brint bras ond, unwaith eto, mae'n rhaid marcio a dychwelyd y copi swyddogol o'r papur pleidleisio.
Mae'n rhaid i orsafoedd hefyd gynnig dyfais pleidleisio gyffyrddol ym mhob gorsaf bleidleisio, sydd wedi'i atodi i'r papur pleidleisio fel bod modd ei farcio.
Ond yr hyn nad yw'r ddyfais yn gwneud ydy dweud wrth yr etholwr pa flwch sy'n perthyn i ba ymgeisydd, felly mae'n rhaid cael cymorth aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio neu unigolyn dros 18 oed sydd wedi dod yno gyda'r etholwr.
Yr amcangyfrif ydy bod 'na 111,000 o bobl yn byw gyda nam golwg yng Nghymru, ac mae'r RNIB yn galw am wella'r cyfleusterau etholiadol i helpu pawb i allu pleidleisio yn annibynnol.
Mae'r elusen wedi cynhyrchu llyfryn yn cyfeirio at hawliau a'r gefnogaeth sydd ar gael ond yn ôl Elin Edwards o RNIB Cymru, mae angen edrych ymhellach am ysbrydoliaeth.
"Mae gwledydd eraill wedi bod yn edrych ar ffyrdd o wneud y profiad yn un mwy hygyrch," dywedodd.
"Er enghraifft, pleidleisio dros y ffôn - mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn digwydd yn Awstralia.
"Mae 'na beilot diddorol iawn wedi'i wneud gyda'r RNIB yn ddiweddar hefyd sydd yn defnyddio dyfais sain i ddarllen allan enwau'r ymgeiswyr i chi. Felly mae 'na ffyrdd o wneud a mae jyst angen yr awydd i wneud o a gwneud y gwahaniaeth."
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, maen nhw'n cydweithio gyda'r llywodraeth a'r RNIB ar welliannau ac yn dweud eu bod "wedi gwneud nifer o argymhellion fyddai'n gwneud pethau'n fwy hygyrch byth, gan gynnwys galw ar bleidiau gwleidyddol i gyhoeddi mwy o fersiynau hygyrch o ddeunydd ymgyrchu."
Etholiadau Lleol 2022
Ymateb y pleidiau
Mae Llafur, fel Llywodraeth Cymru, yn dweud eu bod wedi "ymrwymo i sicrhau bod cymryd rhan mewn etholiadau mor hygyrch a chyfleus a phosib" a'u bod wedi gofyn i swyddogion etholiadol gyhoeddi yr holl wybodaeth yn electronig.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, dylai unrhyw un sy'n gymwys i bleidleisio allu gwneud hynny ac mae'n nhw'n dweud y byddan nhw'n edrych ar wahanol ffyrdd o hwyluso pethau i grwpiau dan anfantais.
Mae Plaid Cymru'n dweud na ddylai unrhyw un wynebu rhwystrau a'u bod nhw wedi gwneud eu deunydd etholiadol mor hygyrch a phosib.
Mi fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedyn yn hoffi gweld system gofrestru am bleidlais braille.
'Llais yr un mor bwysig'
Yn y cyfamser, mae Elin Williams eisiau i farn pawb fod yr un mor bwysig o fewn democratiaeth.
"Dwi'n meddwl bod o'n dod lawr i'r camsyniad 'ma bod ni ddim eisiau bod yn annibynnol a bod ni ddim eisiau dweud ein dweud," meddai.
"Ond mae'n llais ni yr un mor bwysig ac un pawb arall ac mae mor bwysig bod pobl yn cydnabod hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017