Reid Steele: Cadw mam mewn ysbyty diogel am ladd mab 2 oed

  • Cyhoeddwyd
Natalie Steele

Mae mam wedi'i hanfon i ysbyty diogel am gyfnod amhenodol ar ôl cyfaddef lladd ei mab dyflwydd oed.

Roedd Natalie Steele o Ben-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fis Awst y llynedd, ar ôl cael ei ddarganfod yn ystafell ymolchi ei gartref yn ardal Broadlands, Penybont. Roedd wedi cael ei foddi mewn dŵr.

Clywodd y llys bod Natalie Steele, 32, yn dioddef o seicosys ac iselder seicotig, ac wedi bod yn sôn am weld gweledigaethau o'r diafol ac angylion, ac yn credu bod aelodau ei theulu yn mynd i niweidio hi a'i mab.

'Salwch meddwl difrifol'

Roedd hi wedi dod yn gyfeillgar gydag aelod o eglwys leol yn y misoedd cyn marwolaeth ei mab, ac wedi dechrau ymweld â'r eglwys yn rheolaidd.

Ar y diwrnod cyn marwolaeth Reid yn Awst 2021, roedd hi wedi bod mewn gwersyll yng Ngheinewydd, Ceredigion, gydag aelodau ei heglwys.

Yn ystod yr ymweliad fe ddechreuodd hi sôn am gael ei bedyddio yn y môr, a'i bod wedi'i siomi pan ddywedodd y pregethwr wrthi na fyddai'n briodol i hynny ddigwydd tan ei bod hi yn ôl yn yr eglwys ym Mhen-y-bont.

Clywodd y llys bod aelodau'r eglwys yn poeni am ei hymddygiad, ac wedi cysylltu â'i chyfaill i ddod i'w chasglu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Reid Steele yn yr ysbyty ddiwrnod wedi iddo gael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol

Pan ddychwelodd Natalie Steele i'w chartref ar 12 Awst, dywedodd ei bod hi'n credu bod aelodau ei theulu yn edrych yn "rhyfedd", a'i bod yn credu eu bod wedi'u meddiannu gan y diafol.

Fe aeth hi a'i mab i'r ystafell ymolchi i gael bath, ac ychydig wedyn fe aeth hi yn ôl lawr grisiau gan ddweud bod rhywbeth o'i le.

Fe ffeindiodd ei mam a'i llystad Reid yn gorwedd ar lawr yr ystafell ymolchi wedi'i lapio mewn tywel.

Dywedodd Natalie Steele ei bod hi wedi boddi Reid mewn dŵr er mwyn ei ddiogelu, er nad oedd hi'n deall pam bod angen gwneud hynny.

Er gwaethaf ymdrechion y teulu a pharafeddygon, bu farw Reid yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ar 13 Awst.

Dangosodd archwiliad post-mortem ei fod wedi marw o ataliad ar y galon.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Reid ei ganfod yn ei gartref yn ardal Broadlands

Clywodd y llys dystiolaeth gan ddau seiciatrydd ymgynghorol bod Natalie Steele yn dioddef o salwch seicotig mor ddifrifol, nad oedd hi'n sylweddoli yn llawn beth yr oedd hi'n ei wneud.

Roedd aelodau teulu Natalie Steele yn y llys i'w chefnogi yn ystod y gwrandawiad.

Clywodd y llys fanylion datganiad gan ei llystad, Eric Prescott, yn disgrifio Ms Steele fel mam arbennig oedd wedi'i hymrymo'n llwyr i'w mab.

Ond fe ddechreuodd pethau waethygu, wrth iddi ddechrau gweld goleuadau, a chlywed synau fel angylion, a gweld y diafol mewn pobl.

Wrth ei dedfrydu i gyfnod amhenodol mewn ysbyty diogel, dywedodd y barnwr Michael Fitton QC wrth Natalie Steele ei bod hi'n "drasiedi mawr mai chi, oedd yn ei garu gymaint, achosodd i Reid golli ei fywyd".

"Dwi'n derbyn eich bod wedi gwneud hynny tra'ch bod chi'n dioddef o salwch meddwl difrifol."

'Mam arbennig'

Mewn datganiad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd teulu Reid Steele eu bod yn credu bod y barnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth gadw Natalie Steele mewn ysbyty diogel.

Dywedodd y teulu bod eu bywydau "wedi newid am byth", a bod Reid yn fachgen "hardd, doniol, clyfar a chariadus".

Ychwanegon nhw fod Natalie Steele "wir yn fam arbennig".

Dywedon nhw: "Fel teulu, rydyn ni'n cytuno gyda phenderfyniad y barnwr heddiw.

"Bydd Natalie yn parhau i dderbyn y driniaeth sydd ei angen arni er mwyn, gobeithio, gwella gydag amser."