Menyw o Ben-y-bont yn cyfaddef lladd ei mab dyflwydd oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cyfaddef lladd ei mab dyflwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr llynedd.
Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 12 Awst 2021, ddiwrnod wedi iddo gael ei ganfod mewn cyflwr difrifol mewn tŷ yn ardal Broadlands.
Fe wnaeth Natalie Steele, 32, bledio'n euog ddydd Gwener i ddynladdiad am nad oedd hi yn ei iawn bwyll.
Yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth Natalie Steele ymddangos trwy gyswllt fideo o uned seiciatrig.
Clywodd y llys ei bod yn dioddef o "seicosis ac iselder seicotig".
Clywodd cwest i farwolaeth Reid ym mis Medi ei fod wedi marw ar ôl cael ei ddal dan ddŵr.
Mewn gwrandawiad blaenorol roedd Steele wedi pledio'n ddieuog i lofruddio'i mab.
Fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ei phle o ddynladdiad ddydd Gwener, ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 3 Mai eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021