Etholiadau lleol: Diwrnod llawn olaf o ymgyrchu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf bleidleisio

Mae'n ddiwrnod ola'r ymgyrchu cyn yr etholiadau lleol yfory.

Bydd yna bleidleisio'n digwydd ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyda chyfanswm o 1,234 o gynghorwyr i gael eu hethol.

Am y tro cyntaf mewn etholiadau cyngor yng Nghymru mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidlais.

Ac mae pleidleisio cynnar yn cael ei dreialu mewn rhai ardaloedd.

Bydd y cyfri'n digwydd yn ystod y dydd ddydd Gwener yn hytrach na dros nos.

Mae 74 o wardiau ar draws Cymru ble bydd cynghorwyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

'Gwahaniaeth gwirioneddol'

Er i'r blaid golli dros 100 o seddi yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017, Llafur Cymru sydd â'r nifer fwyaf o gynghorwyr ar drothwy'r etholiadau diweddaraf ac mae ganddyn nhw reolaeth fwyafrifol ar saith awdurdod lleol.

Mae'r blaid, o dan arweinyddiaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gobeithio adeiladu ar ei pherfformiad cryf yn etholiad y Senedd y llynedd pan enillodd Llafur hanner y seddi ym Mae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford bod angen cynghorwyr Llafur i "weithio law yn llaw" â'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd

Dywedodd Mr Drakeford bod pleidlais ddydd Iau'n "gyfle i bleidleisio dros gynghorydd i ymuno â thîm Llafur Cymru ymroddedig a fydd yn gweithio law yn llaw gydag eich Llywodraeth Lafur Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ar draws eich cymuned ac ar draws Cymru".

"Pan ewch i'r blwch pleidleisio, pleidleisiwch dros y materion sydd o bwys i chi; dros gynghorwyr y gallwch ddibynnu arnynt pan fod pethau'n galed; dros gynghorwyr a wnaiff gyflawni pethau.

"Ond yn bennaf oll - pleidleisiwch dros yr hyn rydych chi'n rhoi gwerth arno."

'Neges glir i etholwyr'

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd yr enillwyr mawr yn 2017, gan gynyddu eu cynrychiolaeth ar fwy na hanner cynghorau Cymru a sicrhau mwyafrif yn Sir Fynwy.

Y llynedd enillodd y blaid ei nifer uchaf erioed o seddi'n y Senedd.

Ond daw'r etholiadau hyn ar adeg heriol i'r Torïaid gyda Boris Johnson yn parhau o dan bwysau'n sgil yr helynt dros dorri rheolau Covid yn Downing Street a'r argyfwng costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfle "i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel gyda'r Ceidwadwyr Cymreig", medd Glyn Davies

Dywedodd cadeirydd y blaid yng Nghymru Glyn Davies: "Byddwn yn brwydro am seddi ar draws Cymru nes i'r gorsafoedd pleidleisio gau.

"Mae'r etholiadau yma'n bwysig iawn achos maen nhw'n rhoi cyfle i bobl benderfynu pwy sy'n rhedeg y gwasanaethau hollbwysig yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

"Mae ein neges i etholwyr yn glir: mae'n ddewis rhwng mwy o'r un peth gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, neu gyfle i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel gyda'r Ceidwadwyr Cymreig."

'Pencampwyr i ymladd cornel cymunedau'

Ar ôl cipio rhywfaint o seddi yn 2017, mae Plaid Cymru'n arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd.

Ond yn dilyn canlyniadau siomedig i'r blaid fis Mai diwethaf daeth y Blaid yn drydydd yn etholiad y Senedd.

Ers hynny fodd bynnag, mae'r Blaid wedi dod i gytundeb cydweithio â Llafur ym Mae Caerdydd sydd wedi caniatáu iddi roi rhai o'i pholisïau ar waith, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price yn apelio am gefnogaeth i Blaid Cymru "barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau mwy o bobl mewn mwy o gymunedau ledled Cymru"

Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price bod cael cynrychiolaeth Plaid Cymru "yn dda i'r economi leol, y gymuned a'r amgylchedd".

"Mae cymunedau Cymru yn gryfach gyda phencampwyr Plaid Cymru yn ymladd eu cornel," ychwanegodd.

"Os ydych wedi cael llond bol ar wasanaethau lleol annigonol, os ydych wedi cael eich siomi gan Lafur a'r Torïaid, dewiswch newid yn y blwch pleidleisio.

"Pleidleisiwch dros Blaid Cymru fel y gallwn barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau mwy o bobl mewn mwy o gymunedau ledled Cymru."

Etholiadau Lleol 2022

'Mae pobl eisiau newid'

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dir yn 2017 ond roeddent yn falch o ddal eu gafael ar eu hunig sedd yn y Senedd fis Mai diwethaf.

"Ar draws Cymru mae ein hymgeiswyr yn gweithio'n galed ac yn gwrando ar bryderon preswylwyr, ac rydym wedi cael ymateb gwych," meddai arweinydd y blaid Jane Dodds.

"Ar hyd a lled y wlad rydym yn cyfarfod a phobl sydd wedi cael llond bol ar gael eu cymryd yn ganiataol a'u hanwybyddu.

"Boed hynny oherwydd sgandalau parhaus y Blaid Geidwadol, neu ddegawdau o sefyll yn stond gyda Llafur mae pobl eisiau newid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl eisiau newid o'r ddau brif blaid, medd Jane Dodds

'Pobl o flaen gwleidyddiaeth'

Mae ymgeiswyr annibynnol hefyd yn cystadlu am bleidleisiau.

Yn 2017 yr annibynwyr oedd yr ail garfan fwyaf o gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau lleol ac mae rhai wedi llwyddo i arwain cynghorau ers hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp annibynnol ar Gymdeithas Llywodraeth leol Cymru (CLlLC) bod eu hymgeiswyr "at ei gilydd, yn bobl leol gyda dealltwriaeth ragorol o'u cymunedau a gwir anghenion trigolion".

Ychwanegodd: "Fel yr ail grŵp mwyaf o fewn CLlLC roedd modd dylanwadu a lobïo ar lefel wirioneddol genedlaethol, nid yn unir trwy ddwyn y pleidiau gwleidyddol eraill i gyfri ond hefyd trwy arwain ar faterion pwysig.

"Mae'r annibynwyr wedi arwain saith awdurdod yng Nghymru, ac fel rhan o glymblaid mewn pump, gan ddod ag awdurdodau lleol yn agosach at eu cymunedau gyda'r dylanwad lleiaf o gyfeiriad San Steffan a Chaerdydd.

"Byddai pleidlais dros annibynwyr yn cynyddu pwysigrwydd anghenion lleol heb ddylanwad gwleidyddol, gan roi pobl yn gadarn o flaen gwleidyddiaeth."