Maes B: 'Mae am fod yn fwy ac yn well eleni’

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cledrau Maes B 2019Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Y Cledrau ar lwyfan Maes B yn 2019

Ymysg yr holl bethau sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19 mae un o draddodiadau blynyddol pwysicaf nifer o Gymry ifanc: Maes B. Ond nawr mae'r trefnwyr yn gobeithio bod newidiadau i'r ŵyl am wneud yn iawn am hynny a'i gwneud hi'n flwyddyn i'w chofio i gerddoriaeth gyfoes Cymraeg.

Mae'r ŵyl gerddorol, sy'n rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol, wedi ei heffeithio ers sawl blwyddyn erbyn hyn.

Ar ôl siom canslo dwy noson olaf 2019 oherwydd storm, chafodd yr ŵyl ddim ei chynnal yn 2020 na 2021 oherwydd Covid. Mae effaith hynny, a chanslo cymaint o ddigwyddiadau cerddorol eraill, wedi gadael ei farc.

Disgrifiad o’r llun,

Gorfod gadael Llanrwst yn gynnar oherwydd tywydd garw

"Mae o fel right of passage i fynd i gig cynta' ti neu gŵyl cynta ti, a mae o mor delayed i gymaint o bobl ifanc nawr," meddai Elan Evans, sy'n rhan o dîm Clwb Ifor Bach sy'n trefnu Maes B eleni ar ran yr Eisteddfod.

"Ni'n cymryd e'n ganiataol ond mae o'n siapio pwy wyt ti fel person. Roedd hynny'n rhan enfawr o fy mhlentyndod i, mynd i gigs, a dyw'r criw yma ddim wedi gallu cael hynny.

"Mae 'da fi chwaer sy'n 17 a fi'n gweld sut mae ei bywyd hi wedi ei effeithio achos y pandemic ac ma' nghalon i'n torri dros bobl ifanc achos mae eu byd wedi ei fflipio upside down.

Disgrifiad,

Sgwrs gydag Elan Evans ac Ifan Pritchard am ŵyl Maes B 2022

"Mae hefyd wedi effeithio'r sin achos does dim lot o fandiau newydd wedi dod allan yn ddiweddar. Ma'n anodd ffeindio'r bandiau newydd yna i roi'r cyfleoedd yna iddyn nhw ond nawr yn slo bach fi'n dechrau gweld mwy ohonyn nhw'n dechrau popio fyny nawr achos mae pethau wedi ail agor a mae'r sin wedi gallu trwsio a recyfro o'r pandemig."

Felly dywed Elan ei bod hi a'i chyd-drefnwyr yn teimlo cyfrifoldeb i drefnu gŵyl i'w chofio eleni ac wedi penderfynu cael dau lwyfan byw yn lle'r un arferol. Bydd hyn yn galluogi mynd o un perfformiad i'r llall heb wastraffu amser yn setio fyny, gan roi lle i 30 o fandiau yn lle'r 16 arferol. Bydd llwyfan DJio gyda cherddoriaeth electroneg hefyd.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

DJ Dilys ar lwyfan DJio yn 2019

"Roedda ni'n teimlo bod rhaid i ni fynd all out ar gyfer y Maes B... doedd e dim ond yn deg bod ni yn rhoi parti go iawn 'mlaen iddyn nhw," meddai Elan.

"Ma'r tîm yn rili excited i roi e mlaen a ni'n rili gobeithio neith pobol fwynhau e achos mae am fod yn fwy ac yn well eleni gobeithio.

"Hefyd mae 'na gymaint o artistiaid sy'n eistedd ar albyms sydd ddim wedi cael eu clywed lot gan gynulleidfaoedd byw so roedda ni'n awyddus iawn i allu rhoi cyfleodd i fandiau ond yn amlwg gydag un llwyfan ma'n dod a'r niferoedd ti'n gallu bwcio reit lawr."

Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Pritchard, prif leisydd Gwilym yn derbyn un o wobrau Selar ar ran y band yn 2019, cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gloi nos Wener ym Maes B y flwyddyn honno. I'r dde ohono mae un o drefnwyr Maes B eleni Elan Evans, un o gyflwynwyr Gwobrau Selar 2019

Roedd aelodau'r band Gwilym, gafodd eu dewis i gloi nos Wener yn 2019, ymysg nifer gafodd eu siomi pan wnaeth y storm roi stop ar y Maes B diwethaf. Yn ôl eu prif leisydd Ifan Pritchard, sydd hefyd yn rhan o griw Gigs Tŷ Nain sydd wedi bod yn trefnu digwyddiadau dros gyfnod y pandemig, mae Maes B yn bwysig i fandiau a ffans cerddoriaeth Cymraeg.

Meddai: "Maes B a Tafwyl ydi'r ddau enw fasa chdi'n rhoi fyny yna fel gig sy'n perthyn eu hunain i edrych fel gigs mawr Prydain - Reading, Leeds, Glastonbury ac yn y blaen, efo sain da, goleuo da. Mae o'n awyrgylch proffesiynol."

Tydi Ifan ddim yn gallu datgelu os fydd Gwilym yn perfformio eleni (bydd rhestr o'r bandiau sy'n chwarae yn cael ei rhyddhau mewn ychydig wythnosau) ond fel un sy'n cefnogi cerddoriaeth Gymraeg mae'n croesawu'r newidiadau.

Mae dweud bod cyflwyno llwyfan DJ ym Maes B rai blynyddoedd yn ôl wedi annog mwy o Gymry Cymraeg i DJio. Ei obaith ydi bod dyblu'r nifer o fandiau ym Maes B eleni, fydd yn digwydd rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn 3-6 Awst, am gael yr un effaith ac ysbrydoli to newydd o gerddorion, a rhoi llwyfan i artistiaid sydd heb gael sylw eto.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau pabell DJ Maes B yn 2019

"Faint o artistiaid sydd wedi creu cerddoriaeth dros y cyfnod clo, heb allu gigio fo, a rŵan mae'r Steddfod yn dod rownd," meddai. "Dwi'n edrych ymlaen i weld pa artistiaid ifanc sy'n dod rownd, ella yn 16-17 ac efo laptop a gwybod sut i ddefnyddio'r rhaglenni ac wedi bod yn chwarae o gwmpas achos doedd 'na ddim byd arall i neud a ffeindio allan 'dwi'n caru gwneud hyn' a rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg.

"A faint o bobl sydd wedi methu allan ar ddwy flynedd o fynd i Maes B. Mae Maes B ynghyd a Gwobrau Selar a Tafwyl ella, yn lle alli di fynd fel rhywun ifanc a phrofi gigs a thyfu fyny dipyn bach yn y Gymraeg, so hwn fydd y tro cynta' i lot fwy o bobl nag erioed a dwi'n rili edrych mlaen i weld be' sy'n digwydd."