Dathlu 10 mlynedd ers sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
ColegFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Degawd ers sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neges y Prif Weithredwr yw bod "y daith yn parhau".

Pan sefydlwyd y coleg yn 2011, y nod oedd sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol yr oedd modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 2010/11, roedd 3,005 o fyfyrwyr llawn amser yn astudio o leiaf rywfaint o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn 2019/20, roedd y nifer wedi codi i 4,740, ac mewn digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth, bydd y sefydliad yn datgan ei fwriad i sicrhau'r un cynnydd yn y sector ôl-16.

Dywedodd Dr Ioan Matthews bod "cymaint wedi ei gyflawni yn ystod degawd cyntaf y Coleg ond does dim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau".

Erbyn hyn mae modd astudio rhan o gwrs gradd mewn 33 allan o 37 prif grŵp pwnc yn y Gymraeg.

Mae 1,135 o staff mewn prifysgolion yn medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae dros 1,900 o fyfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau is-raddedig i ddilyn eu hastudiaethau trwy'r Gymraeg.

'Agweddau wedi newid'

Ychwanegodd Dr Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: "Ers sefydlu'r Coleg yn 2011, mae agweddau wedi newid ac mae'r tirwedd wedi newid.

"Mae addysg cyfrwng Cymraeg prifysgol yn cael ei gydnabod nawr fel rhywbeth sy'n hollol dderbyniol ac i'w groesawu ac mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o'r ddarpariaeth a ddatblygwyd ers sefydlu'r Coleg.

"Mae hynny wedi paratoi'r tir i'r Coleg allu camu i faes addysg ôl-16, ac ar gychwyn degawd newydd dyma ydy un o'n prif flaenoriaethau."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim modd i Dr Alwena Morgan astudio'r Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg pan oedd hi'n fyfyrwraig yn 2005

Un sy'n teimlo ei bod hi wedi elwa yn ei gyrfa ers ffurfio'r coleg yw Dr Alwena Morgan, darlithydd cyfrwng Cymraeg mewn Biofeddygaeth yn Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe.

"Doeddwn i byth wedi dychmygu gyrfa ble fydden i wedi gallu cyfuno Gwyddoniaeth a'r Gymraeg," meddai.

"Rwy'n teimlo mor falch fy mod wedi gallu datblygu fy Nghymraeg, yn enwedig ar ôl i mi ei golli mwy neu lai ar ôl mynd i'r brifysgol.

"Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg, rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi cael y swydd yma sydd yn golygu bydd cenhedlaeth newydd o wyddonwyr fydd yn gallu gweithio yn hollol ddwyieithog, ac yna cenhedlaeth arall ar eu holau nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw cyn-gadeirydd y coleg Gareth Pierce tra'n cerdded mynyddoedd Eryri y llynedd

Yn ystod y digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth bydd cyfle i gofio cyfraniad sylweddol cyn-Gadeirydd y Coleg, Gareth Pierce, a fu farw'n sydyn llynedd, a bydd Dr Matthews yn cyhoeddi bod y Coleg yn lansio Gwobr Prentisiaethau arbennig er cof amdano.

Yn ogystal, mae llyfryn a fideo wedi'u cynhyrchu sy'n crisialu hanes sefydlu'r Coleg, y llwyddiannau hyd yma a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Y dyfodol

Wrth edrych i'r dyfodol mae'r Coleg yn dweud eu bod yn bwriadu parhau â'r gwaith o ddenu hyd yn oed mwy o fyfyrwyr i astudio elfen o'u cwrs gradd trwy'r Gymraeg, a chynyddu'r buddsoddiad mewn darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16.

Yn ogystal, maen nhw am gefnogi'r Llywodraeth i sicrhau bod digon o athrawon gyda sgiliau Cymraeg yn hyfforddi i ddysgu yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd.

Eleni am y tro cyntaf roedd y Coleg yn gyfrifol am ariannu 20 o swyddi darlithio mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, dau ym mhob un o'r 10 coleg.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r iaith yn perthyn i ni gyd," medd Ifan Phillips

Dywed Ifan Phillips o Grymych, prentis Gwaith Trydanol yng Ngholeg Sir Benfro, ei fod wedi elwa o allu astudio drwy'r Gymraeg.

"Mae astudio rhan o fy nghwrs drwy'r Gymraeg wedi fy ngalluogi i astudio yn fy mamiaith, iaith rwy'n fwy cyfforddus yn siarad, a dwi hefyd wedi gwella fy Nghymraeg sydd wedi fy ngalluogi i gyfathrebu gyda chwsmeriaid ar lefel broffesiynol.

"P'un ai rydych chi'n astudio doethuriaeth yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dilyn prentisiaeth, mae'r iaith yn perthyn i ni gyd."

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews: "Os yw myfyriwr yn mentro i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu cwrs addysg bellach, brentisiaeth neu radd trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, yna'r gobaith yw y byddan nhw'n aros yn eu cymunedau gan sicrhau swyddi dwyieithog, magu teulu dwyieithog yn lleol, dod yn rhan o'r gymuned a chadw'r Gymraeg yn iaith fyw ar lefel broffesiynol a chymdeithasol.

"Mae cymaint wedi ei gyflawni yn ystod degawd cyntaf y Coleg ond does dim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau - rôl y Coleg dros y degawd nesa ydy cryfhau ac atgyfnerthu'r hyn sydd wedi ei ddechrau - mae'r daith yn parhau!"