Dim camau pellach ar ôl cloddio ger mynwent Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau na fydd ymchwiliad troseddol i'r hyn a gafodd ei ganfod wrth gloddio mewn mynwent yng Nghasnewydd.
Roedd Heddlu Gwent wedi cloddio ger Mynwent Christchurch yr wythnos diwethaf wrth ymchwilio i honiadau o "ddefnydd heb awdurdod" o'r tir.
Cadarnhaodd y llu bod gwrthrych wedi ei ganfod, ond nad oedd modd ei adnabod.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr heddlu na fyddai'r deunydd a gafodd ei gloddio yn destun ymchwiliad pellach.
Ni wnaeth yr heddlu gadarnhau beth a gafodd ei ddarganfod ar y safle.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Vicki Townsend: "Rydyn ni wedi cwblhau ein hymchwiliad a byddwn yn tynnu offer o'r safle.
"Dwi'n deall y gall bobl sydd ag anwyliaid wedi eu claddu yn y fynwent neu drigolion lleol fod â phryderon am ein gwaith ar y safle."
Diolchodd i'r gymuned, a dywedodd y gallai swyddogion gael eu gweld am rai dyddiau, ond nad oedd hynny'n achos pryder i bobl leol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022