Cau dwy uned geni babanod yn sgil prinder bydwragedd

  • Cyhoeddwyd
Geni adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dwy uned geni babanod yn y de ddwyrain wedi cau dros dro oherwydd prinder staff, yn ôl Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Dywedodd y bwrdd na fydd yr unedau yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn ailagor tan ddiwedd mis Hydref.

Mae'r penderfyniad wedi'i wneud i "sicrhau diogelwch a chefnogi bydwragedd sydd o dan bwysau sylweddol," yn ôl y bwrdd.

Ychwanegodd llefarydd nad oes disgwyl i'r newid effeithio ar nifer fawr o enedigaethau.

Wrth gyhoeddi'r newid ar Facebook, dywedodd y bwrdd iechyd: "Bydd yr uned geni yn Ysbyty Ystrad Fawr yn parhau wedi'i staffio'n llawn rhwng 08:30 a 16:30.

"Ond tu allan i'r oriau hynny, mi fydd [y gwasanaeth] yn dychwelyd i POD geni gyda bydwraig yn mynychu ar gyfer genedigaethau yn unig.

"Mae opsiynau geni adref a'r ardal eni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Aneurin Bevan yn parhau i fod ar gael."

Ychwanegodd y datganiad bod y penderfyniad wedi'i wneud gan ystyried mamau a babanod newydd a bod disgwyl i'r "nifer o enedigaethau a fydd yn cael eu heffeithio i fod yn isel".

Roedd nifer y genedigaethau yn ysbytai Nevill Hall a Brenhinol Gwent yn 20 a 24 dros y 12 mis diwethaf, yn ôl y bwrdd iechyd.