Cymro'n torri record byd wrth werthu tarw am £189,000

  • Cyhoeddwyd
Graiggoch RamboFfynhonnell y llun, MacGregor Photography
Disgrifiad o’r llun,

Talwyd 180,000 gini am Graiggoch Rambo, gan dorri'r record flaenorol o 140,000 gini a dalwyd yn 2015

Mae ffermwr o sir Conwy wedi torri record byd ar ôl gwerthu tarw am £189,000 mewn mart yng ngogledd Lloegr.

Graiggoch Rambo oedd tarw pedigri Limousin cyntaf Gerwyn Jones, sy'n ffermio yn Nebo ger Llanrwst.

Talwyd 180,000 gini amdano, gan dorri'r record flaenorol o 140,000 gini a dalwyd yn 2015.

Dyma oedd ei dro cyntaf yn teithio i'r mart yng Nghaerliwelydd hefyd.

Ar gyfartaledd, cafodd teirw eu gwerthu am £10,651 ar y diwrnod ond disgrifiwyd Rambo fel "y gorau i ni erioed ei weld" gan feirniaid a phrynwyr.

'Erioed freuddwydio fysa'n mynd am gymaint'

Cafodd Rambo ei eni yn Nhachwedd 2020 ac fe gafodd ei ganmol am ei led, dyfnder ei gyhyrau a'i gywirdeb ar ei draed.

Disgrifiad o’r llun,

Gerwyn Jones: "Mae'n neis fod o'n gwneud y pres 'ma ond mae 'na lot o gostau hefyd cofiwch!"

Fe fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio, meddai ei berchnogion newydd, sef partneriaeth o ffermwyr o ardaloedd Penrith a Stockport.

Yn ôl Gerwyn, sy'n ffermio gyda'i dad Emyr a'i daid Goronwy, roedd 'na ddipyn o sioc am y swm terfynol, er ei fod yn gwybod bod Rambo yn darw o safon.

"Es i fyny i Carlisle ddydd Iau, yr inspection ydy'r peth cynta' cyn y feirniadaeth ar y dydd Gwener," meddai.

"Es i drwy hwnnw, a mae'r pwysa'n dechrau wedyn, y siarad amdano fo, bod o'n mynd i wneud y pres mawr 'ma a ballu. Ond mi weithiodd pethe ddydd Sadwrn!

"Mae'n neis bod o'n gwneud y pres yma, ond mae 'na lot o gostau hefyd cofiwch!"

'Anifail hardd'

Ychwanegodd bod maint y gwerthiant wedi cymryd peth amser i'w brosesu ar lefel bersonol.

"Diwrnod neu ddau ar ôl i mi ddechrau cael yr holl alwadau ffôn a negeseuon ac ati, fe ddechreuodd suddo 'mod i wedi gwneud rhywbeth yma ac wedi cyflawni rhywbeth."

Er mai Rambo oedd y tarw pedigri cyntaf i Gerwyn ei fagu, mae ei lwyddiant yn golygu ei fod yn awyddus i roi cynnig arall arni cyn gynted â phosib.

Disgrifiad o’r llun,

Goronwy: "Oedd o'n anifail bendigedig"

Dywedodd ei daid, Goronwy, sy'n 92 oed: "Es i ddim i'r sale ond roeddwn i 'di bod yma yn ei weld o cyn iddo fynd, a ro'n i'n meddwl fod o am wneud record.

"Alla'i ond dymuno i Gerwyn ddal i fynd a chael cystal hwyl arni yn y blynyddoedd i ddod.

"Oedd o'n anifail bendigedig, yn yr oed ydw i, dwi 'rioed 'di gweld anifail 'run fath a fo, a dwi 'di gweld lot ar hyd y blynyddoedd!

"Oedd o'n anifail hardd."

Pynciau cysylltiedig