Llywodraeth Cymru'n rhentu fferm newydd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Gŵyl y Dyn GwyrddFfynhonnell y llun, Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu oddeutu £15m i economi Cymru bob blwyddyn

Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn mynd i fod yn gyfrifol am fferm sydd wedi cael ei phrynu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Fferm Gileston, ger Tal-y-bont ym Mhowys, yn cyflogi 174 o bobl ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bwyd lleol a newid hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru a Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o bum gŵyl annibynnol fwyaf y DU, ac mae wedi bod yn cael ei chynnal ar y safle presennol yng Nghrugywel ers 20 mlynedd.

Fiona Stewart yw perchennog yr ŵyl a hi sy'n gyfrifol am ei rhedeg. Mae'n cyflogi 200 o bobl yn llawn amser ac mae 5,000 o weithwyr eraill - naill ai dros dro neu'n wirfoddol.

Yn ogystal â rhoi llwyfan i amrywiaeth o fandiau a pherfformwyr, mae'r ŵyl hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar ddigwyddiadau gwyddonol, iechyd a chynaliadwyedd.

Fe fydd y gwaith yn ymestyn i'r fferm, ac mae disgwyl i'r busnes dalu rhent masnachol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog

Dywed cynghorydd Talgarth, William Powell, a arferai fod yn Weinidog Materion Gwledig yr wrthblaid yng Nghymru, ei fod yn falch bod y llywodraeth wedi prynu'r safle a'u bod yn ei osod i Ŵyl y Dyn Gwyrdd.

"Rwy'n gwybod bod Fiona Stewart wedi bod yn awyddus i ymestyn ethos a gwerthoedd y Dyn Gwyrdd o ran cynaliadwyedd, newid hinsawdd a hyrwyddo bwyd a diod lleol," meddai.

Ar safle Fferm Gileston mae ffermdy Sioraidd, sy'n cael ei gosod i dwristiaid, 240 erw o dir ar lan Afon Wysg a safle glampio bychan. Fe fydd yn parhau i fod yn fferm weithredol.

Yn ôl ymchwil gan gwmni BOP Consulting mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu £15m i'r economi yn flynyddol, wrth i oddeutu 25,000 o bobl fynychu'r ŵyl yn ddyddiol. Mae eraill yn gwersylla yno am yr wythnos.

Mae BBC Cymru'n deall y bydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn parhau ar y safle presennol ac nad oes disgwyl i'r ŵyl symud i'r fferm.

Dyw twristiaeth ddim yn newydd i'r ŵyl - yn ystod yr wythnos cyn iddi ddechrau mae teuluoedd yn cael gwersylla ar y safle ac mae bwyd a diod lleol ar gael iddyn nhw.

"Mae gan Fiona Stewart record gref o weithio gyda chymunedau lleol," ychwanegodd y Cynghorydd Powell.

"Os gall hyn helpu adfywiad ein cymunedau a'n tref leol yna mae enw da'r Dyn Gwyrdd yn rheswm i groesawu'r newyddion."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnal gweithgareddau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a'i gobaith yw darparu mwy

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, mae gan yr ŵyl "berthynas aml-ddimensiwn" gyda'r brifysgol.

Y brifysgol sy'n gyfrifol am Ardd Einstein yn yr ŵyl - man lle mae datblygiadau gwyddonol newydd yn cael eu dysgu i blant a rhieni.

Ychwanegodd yr Athro Riordan ei fod yn disgwyl y bydd "mwy o gyfleoedd i gydweithio" wrth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ehangu ei gweithgareddau cynaliadwyedd, newid hinsawdd a bwyd lleol ar Fferm Gileston.