Golwg newydd ar gymeriadau'r Mabinogi ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Un o'r cerrig sydd ar y llwybr celf ym Mhontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cerrig sydd ar y llwybr celf ym Mhontypridd

Mae chwedlau Rhiannon, Pwyll, Branwen a Blodeuwedd o'r Mabinogi wedi bod yn hysbys ers cenedlaethau, ond bellach fe fydd modd dysgu mwy am rai o'r cymeriadau hynny ar eu newydd wedd trwy lwybr celf ym Mhontypridd.

Mae nifer o gerrig stori wedi'u gosod o gwmpas y dref i gyd-fynd â chyhoeddi cyfrol ddwyieithog newydd 'The Mab' - lle mae 11 o awduron gwahanol wedi creu straeon newydd yn seiliedig ar y chwedlau hynafol.

Cafodd y llwybr ei ddadorchuddio ym Mharc Ynysangharad ddydd Iau fel rhan o weithgareddau Gŵyl Llyfrau Plant Pontypridd.

Disgrifiad o’r llun,

"Ardderchog" oedd disgrifiad un o'r plant cyntaf i weld y celf ddydd Iau

Disgrifiad o’r llun,

Geraint ac Enid o'r Tair Rhamant sy'n cael sylw un o'r cerrig ar y llwybr ym Mhontypridd

Mae'r llwybr yn dechrau yn Amgueddfa Pontypridd.

Mae 11 o gerrig wedi'u gosod mewn tri lleoliad gwahanol yn y dref ac yn tynnu sylw at hanesion Blodeuwedd, Pwyll, Rhiannon ac eraill.

"Be' ni'n gobeithio yw bod pobl yn mynd i gerdded y llwybr ar draws Pontypridd, edrych o gwmpas Pontypridd a chael eu hysbrydoli gan Bontypridd a straeon y Mab", meddai cyfarwyddwr Gŵyl Llyfrau Plant Pontypridd, Cerith Mathias.

Disgrifiad o’r llun,

Un o awduron “The Mab”, Eloise Williams, gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton

Un o'r awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol yw Eloise Williams a ysgrifennodd stori Blodeuwedd ar ei newydd wedd.

"Mae hon yn un o'r straeon enwoca' ac roedd ychydig bach o bwysau i'w gael yn iawn," meddai.

"Roedden ni eisiau cyhoeddi fersiwn fodern o'r Mabinogi - fersiwn bydd plant a phobl ifanc yn gallu ei ddarllen yn hawdd a'i fwynhau.

"Dwi'n meddwl ei fod yn drueni mawr nad yw rhagor o bobl yn gwybod am y straeon hyn."

'Dod â'r Mabinogi yn fyw'

Mae'r 11 stori yn 'The Mab' wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg gan yr awdures Bethan Gwanas sy'n cydnabod iddo fod yn dipyn o her trosi gwaith cynifer o awduron gwahanol.

Ond mae'n gweld gwerth arbennig mewn cyflwyno'r chwedlau hynafol i blant heddiw.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n syniad gwych - mae'n syniad mor dda pam bod neb arall wedi 'neud o cynt?

"Dwi wrth fy modd efo'r ffaith bod o'n dod â'r Mabinogi yn fyw i genhedlaeth newydd o blant, a gobeithio dros y ffin hefyd i bobl weld bod gynnon ni'n straeon ein hunain.

"Ella bo rhein wedi cael eu haltro fymryn ond mae hanfod y Mabinogi yna - mae gynnoch chi'ch Blodeuwedd a'ch Rhiannon a'ch Pwyll... mae rheina i gyd yno felly mae hanfod y straeon yna."

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton wrth un o’r cerrig ar lwybr ‘Y Mab’

Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ym Mhontypridd y cyfle cyntaf i brofi'r llwybr celf, ac roedd Ioan sy'n 8 oed ac Annabel sy'n 9 wrth eu bodd.

"Rydw i'n hapus bod fi yma heddiw i ddysgu am yr hen chwedlau gwahanol o'r Mabinogi," meddai Annabel.

"Rydw i'n meddwl mae'r chwedlau yn ardderchog," meddai Ioan.

"Mae'n wych mai dim ond Pontypridd sy'n cael gwneud hyn - mae'r llyfr yn dod mas gynta' i Bontypridd ac yna i weddill y byd."