Dyn yn euog o ffurfio grŵp cysylltiedig â mudiad eithafol

  • Cyhoeddwyd
Alex DaviesFfynhonnell y llun, Andrew Matthews/PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Alex Davies yn euog o fod yn aelod o fudiad eithafol National Action, a hynny wedi i'r mudiad gael ei wahardd

Mae dyn o Abertawe wedi ei gael yn euog o fod yn aelod o fudiad Natsïaidd oedd wedi'i wahardd.

Roedd Alex Davies, 27, wedi parhau i fod yn aelod o National Action (NA) er i Lywodraeth y DU orchymyn bod y mudiad yn cael ei wahardd ym mis Rhagfyr 2016.

Mae Davies wedi bod yn gysylltiedig â mudiadau asgell dde eithafol ers blynyddoedd. Clywodd Llys y Goron Caerwynt mai Davies oedd y mwyaf tebygol o fod y "Natsi mwyaf ohonyn nhw i gyd" a'i fod yn derfysgwr oedd yn cuddio yng ngolau dydd.

Davies yw'r 19fed person i'w gael yn euog o fod yn aelod o National Action.

Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad neo-Natsïaidd yn 2013, ac wedi'i weld yn datblygu o fudiad bach lleol yn ne Cymru i fod ar waith ledled Prydain.

Dywedodd un arbenigwr wrth y llys mai dyma oedd y mudiad mwyaf eithafol. Roedd wedi'i ddisgrifio fel y mudiad asgell dde mwyaf eithafol ym Mhrydain ers yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yr aelodau wedi dathlu pan glywson nhw am lofruddiaeth yr Aelod Seneddol Jo Cox. Roedden nhw'n cefnogi trais gwleidyddol, ac yn annog yr hyn roedden nhw'n ei ddisgrifio fel rhyfel hil.

Roedd aelodau hefyd yn targedu pobl ifanc, gan geisio'u perswadio i ymuno â nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd National Action ei sefydlu yn 2013 gan Ben Raymond ac Alex Davies

Roedd lluniau yn dangos Alex Davies yn gwneud salíwt Natsïaidd tra roedd mewn gwersyll-garchar yn yr Almaen, ac fe glywodd y llys ei fod yn parhau i arddel agweddau asgell dde eithafol.

Clywodd y llys ei fod wedi ymuno ag adran ieuenctid plaid asgell dde y BNP pan oedd yn ei arddegau, a bod yr awdurdodau wedi ei adnabod fel un allai fod yn arddel agweddau eithafol pan oedd yn ifanc.

Roedd yn rhan o gynllun Prevent y Swyddfa Gartref - sy'n ceisio atal agweddau eithafol - pan oedd yn 15 neu'n 16 oed.

Ar ôl gadael y brifysgol fe dreuliodd tipyn o'i amser yn ceisio cryfhau National Action o'i gartref yn Abertawe.

Roedd Davies wedi'i gyhuddo o sefydlu mudiad o'r enw NS131 - neu National Socialist Anti-Capitalist Action - grŵp mwy eithafol o fewn National Action.

Fe wadodd Alex Davies hynny, gan fynnu bod NS131 yn fudiad gwahanol oedd â'r nod o hybu sosialaeth genedlaethol.

Ar ôl i National Action gael ei wahardd, fe ddechreuodd Davies ddangos diddordeb mewn sefyll mewn etholiadau, gyda'r bwriad o ledaenu ei gredoau.

Fe fu'n mynd i gyfarfodydd o'r National Front ym Mhen-y-bont yn 2017 wrth iddo ystyried sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau lleol yn Abertawe y flwyddyn honno.

Cysylltiadau eraill â Chymru

Nid Alex Davies yw'r unig aelod o National Action sydd â chysylltiadau â Chymru

Un o'i gyd-sylfaenwyr oedd Ben Raymond, fu'n byw yn y Mwmbwls, a oedd yn gyfrifol am dipyn o'r propaganda hiliol oedd yn cael ei gyhoeddi yn enw'r mudiad. Cafodd ei garcharu y llynedd.

Roedd Mikko Vehvilainen yn aelod o'r Fyddin Brydeinig wedi'i leoli yn y barics ym Mhont Senni ym Mhowys pan oedd yn aelod o National Action. Fe gyfaddefodd ei fod yn berson hiliol, ac roedd ganddo gasgliad o arfau yn ei gartref.

Dywedodd bod ganddo'r nod o droi pentre Llansilin yn Sir Drefaldwyn - lle roedd yn berchen ar dŷ - yn gadarnle i bobl wyn. Cafodd ei garcharu yn 2018.

Roedd Alex Deakin, oedd yn gyfrifol am gangen y mudiad yng nghanolbarth Lloegr, yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Roedd wedi sôn am ddatblygu'r mudiad i fod yn debyg i'r IRA neu'r Viet Cong. Daeth yr heddlu o hyd i lyfrynnau yn ei feddiant oedd yn dangos sut i greu ffrwydron. Cafwyd yn euog o fod yn aelod o National Action.

Roedd Zack Davies o'r Wyddgrug, a gafodd ei garcharu am ymosod ar ddeintydd Sicaidd yn yr Wyddgrug gyda morthwyl a machete yn 2015, hefyd yn aelod o'r mudiad. Cafodd ei garcharu ar ôl ei gael yn euog o geisio llofruddio.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caerwynt, gofynnodd un o'r bargyfreithwyr i Alex Davies, "Rydych chi'n Neo-Natsi, ydych?" a'i ateb oedd "Wrth gwrs".

Bydd Davies yn cael ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey ar 7 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig