Heddlu'n cadarnhau enw menyw fu farw yn Noc Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau enw menyw 52 oed y cafwyd hyd iddi yn farw mewn tŷ yn Sir Benfro wrth i dditectifs barhau i ymchwilio i'r achos.
Cafodd corff Lisa Fraser, oedd yn byw yn Noc Penfro, ei ddarganfod yn y dref, mewn tŷ ar Military Road, fore Gwener.
Mae dyn 41 oed o Hwlffordd yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd teulu Ms Fraser ei bod "yn cyffwrdd yng nghalonnau pawb oedd yn dod i gysylltiad â hi" ac bod ei pherthnasau a'i ffrindiau'n "ei charu a'i thrysori".
"Bydd pawb yn ei cholli," ychwanegodd y datganiad teuluol. "Lisa, rydym yn gobeithio dy fod yn dawnsio mewn llwch aur."
Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i ŵr a theulu Ms Fraser, ac yn parhau i gynnal ymholiadau o ddrws i ddrws yn yr ardal.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth wrth geisio cadarnhau symudiadau'r dyn sydd yn y ddalfa fore Gwener, 13 Mai, yn ôl arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Estelle Hopkin-Davies.
Dywedodd: "Ar ran tîm yr ymchwiliad, hoffwn ddiolch gymuned Doc Penfro am eu cefnogaeth i swyddogion wrth iddyn nhw wneud ymholiadau dros y deuddydd diwethaf.
"Rydych yn debygol o weld presenoldeb heddlu amlycach heddiw wrth i ni barhau i weithio'n ddyfal ar yr achos yma."
Apeliodd hefyd am glywed gan unrhyw un all gynnig "lluniau dashcam, CCTV, cloch drws neu unrhyw gamera arall" o ddydd Gwener 13 Mai yn ardaloedd Neyland rhwng 06:00 a 06:45, a Military Road, Doc Penfro rhwng 07:30 a 08:15.
Dydy'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022