'Angen cynllun hirdymor i ddenu staff lletygarwch'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae prosiect Cook24 yn hyfforddi pobl i weithio yn y sector, ond mae angen ei ehangu yn ôl arbenigwyr

Mae angen cynllun hirdymor i hyfforddi a denu staff i'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru, yn ôl arbenigwyr o'r sector.

Mae'r arbenigwyr, sy'n cynrychioli bwytai annibynnol Cymru, yn rhybuddio "nad ydyn ni'n gweld diwedd" ar argyfwng y diwydiant.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae cynllun peilot yn cael ei redeg gyda chogyddion lleol i hyfforddi gweithwyr o bob oed, ac mae'n cael ei ariannu trwy gynllun Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Ond mae galw nawr i ymestyn cynlluniau tebyg ar draws Cymru er mwyn llenwi bylchau yn yr hirdymor hefyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu'r diwydiant" a'u bod yn gweithio'n agos gyda busnesau i'w cefnogi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Priestland, perchennog tafarn Y Llew Coch yn Llandybie, wedi gorfod newid oriau agor oherwydd problemau staffio

Mae Huw Priestland yn wynebu sefyllfa bryderus fel perchennog tafarn deuluol Y Llew Coch yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin.

O ddiwedd mis Mehefin, dim ond un cogydd fydd ganddo, gyda nifer o staff wedi gadael ers y cyfnod clo.

"Ni 'di colli eitha' lot o staff, chefs yn enwedig, ma' nhw 'di symud mla'n i jobs arall, so ni 'di gorfod newid ein oriau agor ni i fynd gyda hwnna wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Brennan wedi symud o Loegr i redeg tafarn Y Ceffyl Du yn Yr Hendy, ac mae'r dasg o ddod o hyd i staff wedi bod yn "hunllef"

Yn Yr Hendy ger Pontarddulais, mae Dan Brennan wedi symud o Ddyfnaint yn Lloegr i agor tafarn y Ceffyl Du.

Gyda'r dafarn yn ailagor ar gyfer dathliadau'r Jiwbilî yr wythnos nesaf, mae'n dweud fod dod o hyd i gogydd wedi bod "bron yn amhosib".

"Ro'n i'n meddwl y byddai llawer o gyfleoedd i bobl sydd wedi colli eu swyddi dros Covid - roedden ni'n meddwl y byddai'n hawdd i recriwtio, ond dyna sydd wedi bod fwyaf anodd," dywedodd.

"Dwi wedi gwario cannoedd o bunnoedd ar hysbysebu achos ddaeth dim byd o'r rhai ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Wnes i ond dod o hyd i gogydd yr wythnos hon... ac ry'n ni'n agor wythnos nesa'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiect Cook24 yng Nghaerfyrddin yn hyfforddi a denu pobl i'r sector lletygarwch

Ers rhai misoedd, mae cynllun arbennig wedi dechrau yng nghanol Caerfyrddin er mwyn ceisio ateb y broblem.

Mae Cook24 yn brosiect sy'n cael ei gynnal gan Goleg Sir Gâr yn dilyn cais llwyddiannus am arian trwy gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Y nod yw denu pobl i'r diwydiant a sicrhau eu bod yn aml-sgil wrth fynd i chwilio am swyddi.

Gadael swydd fel meddyg

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri wedi penderfynu cael hoe o weithio fel meddyg a throi at ei angerdd am fwyd a choginio

Fe adawodd Rhodri Davies, 29, o Abertawe, ei swydd fel meddyg. Fe dreuliodd bron i naw mis ar ward Covid yn ystod y pandemig.

"Am y blynyddoedd diwethaf fi 'di bod yn gweithio fel meddyg mewn ysbytai yng Nghaerdydd a Casnewydd ac ar ôl y cwpl o flynyddoedd diwethaf, dwi 'di penderfynu cael ychydig o hoe o'r yrfa," meddai.

"Mae'r GIG o dan lot o straen ar hyn o bryd a ma' lot o bobl yn teimlo'n weddol burned out.

"So o'n i'n meddwl oedd e'n gyfle neis i fi stepo i ffwrdd, gobeithio cael hoe fach ac wedyn falle mynd 'nôl. Ond mae'r cwrs 'ma wedi bod yn grêt i gymryd fy meddwl off pethe' rili."

'Dwi'n teimlo fel fi'

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Abigail gwrs gofal plant gan nad oedd hi'n credu y byddai'n gallu ymdopi mewn cegin brysur

I eraill, fel Abigail Williams, 18, o Gapel Hendre ger Rhydaman, mae gwneud rhywbeth y mae hi'n mwynhau yn help i'w hiechyd meddwl.

"Ar ôl y lockdown, o'n i ddim yn mynd mas," dywedodd.

"Ond nawr fi 'di dod i hwn, fi 'di neud ffrindiau, fi 'di gweithio yn y kitchen a mae e jyst rili yn helpu fi i ddod mas o fy shell a gadael yr anxiety a phopeth."

Wrth iddi obeithio am swydd yn y maes, dywedodd: "Dw i'n teimlo fel fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Mathias - un o'r hyfforddwyr - yn falch fod nifer o'r criw eisoes wedi derbyn swyddi yn y diwydiant

Mae rhai o'r criw eisoes wedi derbyn swyddi, yn ôl un o'r hyfforddwyr, Stuart Mathias.

"Ma' nhw'n datblygu sgiliau sydd yn bwrpasol iddyn nhw i weithio yn y diwydiant, a hefyd mae'n rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu hyder," meddai.

Mae degau o bobl o bob math o gefndiroedd wedi cymryd rhan yn barod, gyda phawb yn dysgu sgiliau coginio, arlwyo, gweini, iechyd a diogelwch a gwaith papur.

"Ma' nhw'n gryfach ar ôl y pum wythnos o ran hyder a sgiliau ac yn barod, ma' rhai o'r grŵp ddechreuon ni 'da, ma' nhw yn gweithio nawr mewn restaurants a pubs a rhai sydd yn y grŵp yma nawr yn gweithio'n rhan amser hefyd," ychwanegodd Mr Mathias.

'Ddim yn gweld diwedd y peth'

Nawr, y galw gan grŵp o berchnogion bwytai annibynnol a gafodd ei sefydlu yn ystod y pandemig yw y dylid ehangu prosiectau tebyg ar draws Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rili angen cynllun i bara yn y tymor hir a dros Gymru i gyd," meddai Shumana Palit

Mae Shumana Palit, sy'n gyd-berchennog ar fusnes Ultracomida, yn aelod o'r grŵp sy'n cynrychioli bwytai annibynnol Cymru.

"Mae e yn broblem fawr ac yn eitha' eang hefyd, a dy'n ni ddim yn gweld diwedd y peth," meddai.

"Mae rili angen cynllun i bara yn y tymor hir a dros Gymru i gyd. Hoffen i weld y llywodraeth yn edrych mewn i hynny a rili ystyried sut allan nhw ehangu i ni gyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r problemau sy'n effeithio ar y diwydiant o ran denu, hyfforddi a chadw staff".

"Ry'n ni'n gweithio'n agos gyda'r diwydiant i gefnogi busnesau - er enghraifft, trwy ymgyrch Gwneuthurwyr Profiadau gafodd ei lansio yn 2021 ac sy'n parhau ar gyfer 2022," meddai.