Dyfodol 'brawychus' i fwytai yn sgil prinder staff

  • Cyhoeddwyd
Anwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddwl am ddyfodol ei busnes yn "frawychus" yn sgil prinder staffio, medd Anwen Evans

Fe fydd Tregaron yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst - ond mae un busnes lleol yn dal i chwilio am gogydd rhyw flwyddyn ar ôl agor.

"Ma' just ddim y bobl i gael rhagor sy' moyn 'neud y job," medd Anwen Evans, perchennog bwyty a bar y Banc.

Mae llai o bobl yn chwilio am swyddi yn y maes lletygarwch ers y pandemig, medd Ms Evans, ac mae ystyried dyfodol y busnes yn "frawychus".

Mae'r sector lletygarwch yn wynebu "storm berffaith" o gostau cynyddol, argyfwng recriwtio a threthi uwch, yn ôl UK Hospitality Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu dros £2.6 biliwn i fusnesau Cymreig a helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi ers dechrau'r pandemig.

Cefnu ar 'weithio 80 awr yr wythnos'

Mae Ms Evans yn gobeithio y daw cogyddion i'r fei cyn yr Eisteddfod, sy'n cael ei chynnal yn y dref rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.

"Ar y foment fi'n hanner edrych am rywun, hanner meddwl am ryw fath o plan arall hefyd," meddai.

"Fi'n teimlo fel 'na gyd ni 'di 'neud am y ddwy flynedd diwethaf yw addasu, a ni mynd i angen addasu eto ar gyfer yr wythnos yna."

Yn ôl Ms Evans, rhoddodd y pandemig gyfle i weithwyr lletygarwch gamu i ddiwydiannau eraill - a disgwyl gwell telerau o'u swyddi o ganlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Evans wedi bod yn chwilio am gogydd ers rhyw flwyddyn

"Fi'n 'nabod pobl o'n i arfer gweithio gyda sy' 'di troi'n delivery drivers, gweithio mewn ffatrïoedd neu rywbeth hollol wahanol - a ma' 'da nhw'r job security yna nawr.

"Fi'n 'nabod digon o bobl oedd yn gweithio 70, 80 awr yr wythnos, 'sdim syndod bod nhw wedyn ddim eisiau 'neud 'ny rhagor... chi methu beio nhw."

Mae'n rhaid i fusnesau addasu i'r disgwyliadau hyn er mwyn eu denu gweithwyr yn ôl i'r diwydiant, medd Ms Evans.

Cyflogi gweithwyr o dramor

Mae prinder staff hefyd wedi bod yn broblem i un o barciau gwyliau Aberystwyth wnaeth benderfynu cyflogi pum cogydd o India oherwydd diffyg staff lleol.

Dywed Thomas Scarrott, perchennog Parciau Gwyliau Vale, mai dyma oedd yr "unig opsiwn" oedd yn weddill.

Fe wnaeth y busnes gynnal ffair swyddi, ac er iddyn nhw ddisgwyl 100 o ymwelwyr dau o bobl ddaeth i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflogi gweithwyr o dramor yn fwy costus - ond does dim dewis arall, medd Thomas Scarrott

Mae'r busnes wedi "trio a thrio" i gyflogi pobl leol, meddai, gan ychwanegu fod cyflogi pobl o dramor yn fwy costus ac yn cymryd mwy o amser.

"Nid yw'n ffordd o arbed arian... dyma yw'r unig opsiwn sydd gennym ni."

Dywed fod gweithwyr lletygarwch wedi treulio'r pandemig yn dysgu sgiliau newydd ac yn dod o hyd i swyddi newydd gyda gwell oriau.

Pan ddechreuodd gweithwyr i ddychwelyd wrth i'r cyfyngiadau lacio, ychwanegodd Mr Scarrott, fe wnaethon nhw wynebu camdriniaeth "eithaf gwael" gan gwsmeriaid.

'Straen ac oriau anghymdeithasol'

Yn ôl perchennog tafarn yr Horse & Jockey ym Mhont-y-pŵl, fe fydd y busnes yn "cael trafferth go iawn" i gyflogi staff ychwanegol.

"Wrth i ni agosáu at yr haf mae angen mwy o staff arnom ni, gan fod gardd mawr iawn gennym ni. Dwi'n cael trafferth fawr," meddai Sian Shepphard.

"Does neb eisiau gweithio yn y sector lletygarwch rhagor gan fod yna gymaint o straen, oriau anghymdeithasol, a chyflogau isel.

Ffynhonnell y llun, Sian Shepphard
Disgrifiad o’r llun,

Un arall sy'n cael trafferth i ddod o hyd i staff yw perchennog tafarn yr Horse & Jockey

"Nawr, mae pawb eisiau treulio amser gyda'u teuluoedd.

"Pam fyset ti'n gweithio mewn cegin chwilboeth drwy'r dydd am £11-12 yr awr pan wyt ti'n gallu ennill yr un tâl am gludo parseli drwy'r dydd?

"Dwi wirioneddol ddim yn gwybod beth fyddai'r datrysiad... nid rhoi mwy o arian i bobl, gan y byddai hynny'n lleihau ar dy elw, ac ar hyn o bryd, does yna ddim elw.

"Mae pris bwyd hefyd yn mynd i fyny, felly dwi wir ddim yn gwybod beth yw'r datrysiad."

'Nifer o gogyddion wedi gadael'

Yn ôl Elle Morgan, sy'n rhedeg The Belle Vue a Through The Looking Glass yn Nhredegar, mae nifer o weithwyr lletygarwch "wedi arfer efo peidio gweithio" yn ystod y pandemig.

"Mae trio dod o hyd i staff yn anodd iawn, iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Elle Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elle Morgan yn rhedeg The Belle Vue a Through The Looking Glass gyda'i phartner

"Mae'n oriau anghymdeithasol, a dwi'n nabod lot o gogyddion wnaeth adael yn ystod y pandemig i weithio i Amazon, y math yna o beth, am eu bod nhw'n ennill yr un cyflog a chogydd ond gydag oriau gwell.

"Dwi'n gwybod fod yna lefydd yng Ngwent sy'n galw allan am gogyddion, ond dydyn nhw methu a dod o hyd i unrhyw un.

"Mae cost bwyd yn cynyddu, a bydd angen cynyddu prisoedd er mwyn cynnig mwy o dâl i gogyddion, sy'n golygu y bydd pobl ond yn mynd allan i fwyta unwaith y mis yn hytrach na dau."

'Agweddau wedi newid'

Dywedodd UK Hospitality Cymru fod agwedd pobl tuag at swyddi lletygarwch wedi newid, gyda hyd at 15% yn llai yn gweithio yn y maes o gymharu â chyn y pandemig.

"Cafodd staff eu rhoi ar ffyrlo a doedden nhw ddim yn gwybod a fyddai yna swydd iddyn nhw ddychwelyd iddi," meddai'r cyfarwyddwr David Chapman.

"Fe aeth llawer o'r bobl hyn adref i'w teuluoedd nhw, a ddwy flynedd yn ddiweddarach maen nhw wedi dod o hyd i wahanol ffyrdd o fyw eu bywyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd at 15% yn llai o bobl yn gweithio yn y sector o gymharu â chyn y pandemig

Cyn y pandemig, roedd y sector lletygarwch yn cyfrannu tua £3.6 biliwn i economi Cymru. Fe rybuddiodd Mr Chapman y byddai cwymp y sector yn niweidio'r economi Cymreig.

"Nid ydy'r buddion economaidd yr un peth [a chyn Covid], felly mae'n fwy nag ergyd ddwbl, mae'n fwy fel ergyd pedwarplyg ar hyn o bryd."

Ychwanegodd nad oedd cynnig tâl uwch yn opsiwn gan fod costau'n cynyddu, cyfraddau busnes yn dychwelyd i 50% a threthi'n codi i 20%.

"Mae pob un ohonom yn trio sicrhau gwell cyflog i'r bobl sy'n gweithio i ni, ond mae am ymdopi gyda'r holl newidiadau a sicrhau fod y busnes yn gallu parhau, ac rydyn ni'n dod o gefndir o drafferth economaidd ddifrifol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector ar ymgyrch recriwtio er mwyn tanlinellu'r amryw o gyfleoedd am ddatblygiad personol a gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector.

"Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi gwneud popeth posib i gefnogi busnesau Cymreig. Rydyn ni wedi darparu dros £2.6 biliwn i fusnesau Cymreig fel rhan o becyn sydd wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi y gallai fod wedi eu colli.

"Fe wnaethon ni hefyd ymestyn ein pecyn o ryddhad ardrethi 100% i fusnesau manwerthu, lletygarwch, a hamdden hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022.

"I gefnogi busnesau dros y 12 mis nesaf, rydyn ni'n darparu pecyn o ryddhad ardrethi gwerth £116m i fusnesau yn y sectorau sydd wedi eu heffeithio mwyaf gan y pandemig.

Pynciau cysylltiedig