Gwyliau Cymreig yn ymrwymo i daclo aflonyddu rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Torf Maes B 2019Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen

Mae gwyliau Cymreig ymhlith dros 100 o ddigwyddiadau drwy'r DU sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thrais ac aflonyddu rhywiol.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, Maes B a gŵyl Sŵn wedi arwyddo siarter Safer Spaces at Festivals, gan ymrwymo i ddilyn cyfres o gamau er mwyn diogelu cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff.

Mae'r camau'n cynnwys cymryd honiadau o aflonyddu rhywiol o ddifri' a gweithredu ar frys, a sicrhau bod gweithdrefnau cadarn mewn lle ar gyfer adrodd achosion.

"Pethau fel 'ma sy'n 'neud y gwahaniaeth, a 'dan ni'n gwybod fod pethau'n gorfod newid," meddai'r artist Malan.

Mae sawl gŵyl boblogaidd fel Reading & Leeds, Latitude a Boardmasters hefyd wedi ymrwymo i'r ymgyrch., dolen allanol

'Strwythurau i'w dilyn'

Un sy'n croesawu'r ymrwymiad ydy Katie Hall, prif leisydd y band Chroma.

"Ti mor ifanc yn mynd i lefydd fel hyn, a fi'n credu bod lot o bobl ifanc yn ffeindio eu hunain mewn gwyliau", meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Felly fi'n meddwl bod e'n amazing bod pobl yn ymrwymo i sicrhau bod 'na safeguarding yn digwydd."

Ffynhonnell y llun, Katie Hall

Mae Ms Hall yn un sydd wedi cael "profiadau gwael" mewn gwyliau, ac mae hi'n pwysleisio pwysigrwydd cael camau clir i'w dilyn.

"Mae'n dda bod 'na ryw fath o guidance i helpu gwyliau mas... ac os oes pethau'n mynd yn anghywir, mae 'na ryw strwythurau wedyn i ddilyn.

Mae parch tuag at ferched o fewn y byd cerddoriaeth wedi gwella yn ddiweddar, meddai, ac mae'r ymgyrch yn gam pellach i'r cyfeiriad cywir.

"Wrth feddwl 'nôl ambell flwyddyn pan 'naeth band fi ddechrau, 'nes i gael lot o brofiadau o'n i'n meddwl o'dd yn anghywir.

"Mae'n mynd i wella profiad pobl sy'n gweithio yn yr ŵyl a phrofiad y bobl sy'n mynd i'r ŵyl hefyd."

'Neb yn siarad amdano fo'

Ffynhonnell y llun, Dion Jones

"Mae'n ddigon hawdd i bobl addo bod nhw'n mynd i newid," meddai'r gantores Malan, "ond tan bod 'na rywbeth yn eu dal nhw i'w gair, 'sa byth newid yn cael ei weld."

Bydd yr ymgyrch yn gwneud byd o les drwy dynnu sylw at y broblem, medd Malan.

"'Di o ddim yn rywbeth o'n i erioed 'di ystyried, a dwi'n meddwl bod hynny'n broblem hefyd... dwi'm yn meddwl achos doedd o ddim yna, ond achos doedd neb yn siarad amdano fo.

"Mae'n neis clywed bod pobl yn ymrwymo i rywbeth mor gadarn, a bod 'na rywbeth clir mewn lle i neud yn siŵr bod pethau fel 'na ddim yn digwydd."

'Pwysig bod yn rhan o'r newid'

Dywedodd Maes B ei fod yn bwysig pwysleisio eu "polisi dim goddefgarwch ar gyfer aflonyddu rhywiol o unrhyw fath" gan eu bod yn ŵyl ar gyfer pobl ifanc.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod unrhyw berson ifanc sy'n profi aflonyddu rhywiol yn gwybod ein bod ni am wrando a'u helpu - mai'r flaenoriaeth yw eu lles a'u diogelwch nhw.

"Mi fydd pob honiad o aflonyddu rhywiol neu ymosodiad yn cael ei gymryd o ddifri' gan drefnwyr yr ŵyl a mi fyddwn ni'n arwain pob dim ac yn blaenoriaethu y goroeswr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd gŵyl Sŵn nad oes lle "i aflonyddu rhywiol o unrhyw fath yn ein cymuned gerddorol".

"Mae'n bwysig bod gwyliau yn rhan o'r newid.

"Dylse gwyliau cerddorol fod yn le saff i bawb allu mwynhau cerddoriaeth, ac felly mae'n bwysig i ni ein bod ni'n cymryd unrhyw honiad o ymosodiad neu aflonyddu rhywiol o ddifri' ac yn arwain y broses gyda'r goroeswyr yn flaenoriaeth."

Drwy arwyddo'r siarter, mae'r gwyliau'n ymrwymo i weithredu ar honiadau o aflonyddu rhywiol a'u cymryd o ddifri', gan hefyd sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar gyfer adrodd achosion yn ystod ac ar ôl yr ŵyl.

Maen nhw hefyd yn ymrwymo i gynnig gwybodaeth iechyd a chysylltiadau i wasanaethau lleol, a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr er mwyn iddyn nhw allu adnabod a delio hefo achosion o aflonyddu rhywiol.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio o'r newydd eleni gan Gymdeithas Gwyliau Annibynnol ar y cyd â Rape Crisis England and Wales, Good Night Out, Safe Gigs for Women, Girls Against ac UN Women.