Tynnu plac sy'n llai na chwrtais i wylanod Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae dirgelwch yn amgylchynu tarddiad plac ar fainc yn Aberystwyth oedd â neges lai na chwrtais i wylanod y dref.
Roedd y plac - a oedd wedi'i sgriwio i fainc yn edrych dros y môr - i bob golwg yn coffáu dyn a oedd yn arfer mwynhau eistedd yno ac yn darllen: "Er cof cariadus am Huw Davies. Arferai eistedd yma a gweiddi **** at y gwylanod."
Aeth llun o'r plac, bostiwyd ar gyfryngau cymdeithasol gan ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth, yn feiral gyda dros 218,000 wedi'i 'hoffi' ar Twitter.
Gyda'i bost o'r llun, dolen allanol ysgrifennodd James Vaughan: "O gryn bellter, y gofeb orau i mi ddod ar ei thraws erioed."
Nid yw'r plac ar y fainc bellach.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion: "Roedd plac anawdurdodedig wedi ei osod, gan berson anhysbys, ar fainc oedd yn bodoli eisoes ar dir Castell Aberystwyth.
"Mae'r plac bellach wedi'i dynnu oddi yno."
'Plac yn ddoniol'
Dywedodd rhai o'r bobl oedd yn cerdded trwy dir castell Aberystwyth - ger lleoliad y fainc - eu bod yn meddwl bod y plac yn ddoniol a bod y gwylanod yn adnabyddus am fod yn bla, yn enwedig i unrhyw un sy'n ceisio mwynhau sglodion neu hufen iâ ar y promenâd.
I ddau weinidog oedd ar ymweliad â'r dref roedd geiriad y plac yn codi gwên.
Dywedodd Kevin Adams sy'n wreiddiol o Lanelli ond bellach yn byw yn Boston yn yr Unol Daleithiau bod y plac yn "Ddiddorol iawn , fi ddim yn siŵr dylen i weud y geiriau a fi yn weinidog so fi ddim yn mynd i weud y geirie ond ma'r boi yn swnio yn foi diddorol iawn."
Dywedodd hefyd bod: "Y gwylanod yn boen a dim ond wedi bod nôl yng Nghymru am gwpwl o wythnose nawr ac o ni ishte ar lan y môr, fi a fy ffrind yn bwyta chips ac odd e'n broblem 'chwel, ac o'dd e teimlo tamaid bach fel y Birds ffilm Hitchock nhw edrych arno ni.
"Ond fi heb gal problem 'da gwylanod Aberystwyth - a fi falch bod fi dod 'mlaen gyda gwylanod Aberystwyth"
A doedd gwylanod direidus ddim yn brofiad dieithr i'w ffrind Gwyn Rhydderch, chwaith.
"Cydymdeimlo yn llwyr achos ma 'na wylanod reit ddireidus ym Mhen Llŷn hefyd de a dwi'n siŵr fydda llawer i ffarmwr yn ei saethu nhw ynde.
"Ma'n siŵr sa nhw'n y mygwth i y byswn inna' isho gweiddi rhywbeth go flodeuog ma' siwr ag felly yn teimlo'r sentiment ynde."
Serch hynny, mae elfen o ddryswch am agweddau o'r stori hon a doedd neb y siaradodd BBC Cymru ag ef yn gwybod pwy oedd Huw Davies na phwy oedd yn gyfrifol am osod y plac tramgwyddus ar y fainc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2016