Disgwyl i Lafur redeg Cyngor Sir y Fflint heb fwyafrif

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pencadlys Cyngor Sir y Fflint yn Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Matt Harrop

Mae disgwyl mai Llafur fydd yn rhedeg Cyngor Sir y Fflint wedi i'r blaid ddod i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd Llafur yn rhedeg y sir fel llywodraeth leiafrifol, ond bydd y Rhyddfrydwyr yn cefnogi cynnig i ail-ethol yr arweinydd - y Cynghorydd Ian Roberts - ynghyd â rhai polisïau.

Enillodd Llafur 31 sedd yn yr etholiadau lleol, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio pedair. Gyda'i gilydd, mae gan y ddwy blaid ychydig dros hanner y siambr 67 sedd.

Dywedodd y ddwy blaid wrth BBC Cymru fod y cytundeb yn sicrhau "gweinyddiaeth sefydlog".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Ian Roberts wedi cynrychioli ei ardal ers yr 1980au

Roedd y cynghorydd annibynnol, Bernie Attridge - cyn-Lafurwr amlwg - wedi gobeithio ffurfio cyngor dan arweiniad y 30 aelod annibynnol gafodd eu hethol yn gynharach yn y mis.

Wrth galon y cytundeb rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol mae ymrwymiad i weithio tuag at well setliad ariannol i'r sir. Mae'r meysydd polisi cyffredin eraill yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Llafur oedd rhedeg y cyngor - a hynny mewn lleiafrif - rhwng 2017 a 2022 hefyd, ac fe weithion nhw gyda Rhyddfrydwyr a chynghorwyr annibynnol bryd hynny.

Bydd arweinyddiaeth y cyngor yn cael ei bennu'n ffurfiol mewn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.

"Fe roddodd pobl Sir y Fflint y canlyniad etholiadol hwn i ni, a dwi'n sicr ddim yn un fyddai'n cwestiynu penderfyniad yr etholwyr," meddai'r Cynghorydd Roberts, a gollodd y cyfle i hawlio mwyafrif drwy golli seddi i annibynwyr y Cynghorydd Attridge yng Nghei Connah yn yr etholiad.

"Ond mae'n rhaid i ni weithio nawr i sicrhau bod y sir yn symud yn ei blaen ac yn parhau i fod yn sir ble mae pobl eisiau gweithio, ble mae'r ysgolion yn dda, ble mae'r gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn dda.

"'Dan ni eisiau cynnal a gwella ar hyn a dwi'n sicr y byddwn yn gallu cyflawni ein blaenoriaethau drwy weithio gyda grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol."

Dywedodd arweinydd y Rhyddfrydwyr yn y sir, Cynghorydd Hilary McGuill, y byddan nhw'n "cefnogi arweinydd Llafur ar y cyngor am ein bod ni'n teimlo y bydd yn weinyddiaeth sefydlog".

Mewn datganiad, ychwanegodd bod y ddwy blaid yn "cytuno bod cael setliad ariannol teg gan Lywodraeth Cymru yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth yn ei blwyddyn gyntaf a hyd nes ein bod yn dod i ddatrysiad cyfiawn".

Mae'r Cynghorydd Roberts wedi arwain y cyngor ers 2019. Cymrodd yr awenau wedi i'r arweinydd blaenorol, Aaron Shotton, ymddiswyddo yn dilyn ffrae chwerw am ddiswyddiad ei ddirprwy, y Cynghorydd Attridge.

Cafodd Mr Shotton ei ddisgyblu'n ddiweddarach am annog ei gynorthwyydd personol i yrru negeseuon rhywiol ei natur iddo.

Pynciau cysylltiedig