Cartref nyrsio ger Aberystwyth i gau yn sgil prinder staff

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Neb wedi sôn dim byd' am gau cartref gofal

Bydd cartref nyrsio yng Ngheredigion yn gorfod cau oherwydd trafferthion recriwtio staff.

Yn ôl llefarydd ar ran Cartref Nyrsio Abermad ger Llanfarian, Aberystwyth, roedd prinder gweithwyr cymwys yn golygu nad oedd y cwmni'n gallu staffio'r cartref i'r lefelau priodol.

Dywedodd y llefarydd bod recriwtio wedi bod yn her ers amser hir ac nad ydynt wedi llwyddo i ddenu staff, er eu hymdrechion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud eu bod yn rhoi cymorth i'r preswylwyr ddod o hyd i gartrefi eraill.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Jones yn un o breswylwyr y cartref, a dywedodd ei mab, Aled, bod y newyddion yn "gryn ofid"

I Aled Jones o Lanrhystud roedd y neges yn gryn sioc gan bod ei fam wedi bod yn cael gofal yno ers yn agos i flwyddyn.

"Doeddwn i'n gwybod dim ac roeddwn i yno brynhawn ddoe," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Does neb wedi cysylltu â ni fel teulu a thra roeddwn i, fy chwaer a fy ngwraig yn ymweld â mam brynhawn Mercher 'wedodd neb ddim byd."

"Mae'r cyfan yn gryn ofid i ddweud y gwir - mae mam yn hapus iawn yno ac mae'n fan cyfleus i ni fynd i'w gweld. Ry'n ni'n cael mynd unwaith yr wythnos.

"Mae mam o Aberystwyth ac roedd e'n neis iddi hi gael gofal yn ymyl adref - fe fuon ni'n ffodus iawn i gael lle iddi yna.

"Mae'r newyddion yn sioc fawr - ac fe fydd dod o hyd i le arall a'i symud hi oddi yno yn dipyn o beth. Ni'n pendroni nawr beth ni'n mynd i 'neud," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer cau'r cartref eto ond mae gwaith wedi dechrau i ganfod cartrefi eraill i breswylwyr

Dywedodd llefarydd ar ran y cartref eu bod yn "cynnal adolygiadau rheolaidd" i sicrhau eu bod yn gallu "parhau i ddarparu gofal o safon uchel gyda'r nifer briodol o staff hyfforddedig.

"Mae Abermad wedi wynebu her recriwtio hirdymor a oedd yn golygu na allem staffio'r cartref i'r lefelau priodol," meddai'r llefarydd.

"Er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu staff gofal a nyrsio cymwys i'r cartref, nid ydym wedi llwyddo i ddatrys yr her recriwtio.

"O ganlyniad, ac er diogelwch yr holl breswylwyr sy'n byw yn y cartref, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Cartref Nyrsio Abermad."

'Goblygiadau difrifol'

Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi dweud bod y newydd yn amlygu'r pwysau sydd ar y sector gofal yng Nghymru.

"Heb os, fe fydd y penderfyniad hwn wedi bod yn un anodd i'r cartref, a does dim amheuaeth bod goblygiadau difrifol i golled Abermad fel cartref gofal," dywedodd.

"Mae'n rhaid sicrhau bod trefniadau gofal addas iddynt [y preswylwyr] cyn gynted â phosib, er mwyn ceisio lleihau rywfaint ar y gofid fydd wedi codi o newyddion heddiw. Rwy'n ffyddiog fydd y cartref, y cyngor sir, a'r bwrdd iechyd yn cydweithio'n agos i ddiogelu gofal y preswylwyr.

"Fodd bynnag, mae newyddion heddiw yn amlygu'r pwysau sylweddol sydd ar y sector gofal yng Nghymru, ac yn tanlinellu'r angen am gynllun i gynyddu darpariaeth gofal henoed yng Ngheredigion yn benodol."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod gwaith eisoes wedi dechrau i roi cymorth i breswylwyr ganfod cartrefi addas eraill.

"Mae'r rheiny yr effeithir arnynt yn cael eu cefnogi drwy'r broses," meddent, "ac mae gwaith i sicrhau gofal a lleoliadau amgen eisoes wedi dechrau."

Nid oes dyddiad penodol wedi ei bennu ar gyfer cau'r cartref ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig