Dod â hanes llong ofod Star Wars yn fyw yn Noc Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei hadnabod fel y "fastest hunk of junk in the galaxy", sy'n gallu cwblhau'r Kessel Run enwog mewn "llai na 12 parsec".
Y llong ofod enwog hon o gyfres ffilmiau Star Wars oedd yr olaf i gael ei hadeiladu yn Iard Longau Frenhinol Penfro.
Nawr, bydd arddangosfa newydd yn Noc Penfro yn adrodd hanes adeiladu Millennium Falcon Han Solo yn y dref yn 1979.
Bydd modd cerdded drwy'r arddangosfa fydd yn adrodd y stori gyda ffotograffau, ffilm, modelau a gwisgoedd.
Roedd y prosiect i adeiladu'r llong ofod mor gyfrinachol fel bod enw ffug wedi ei greu ar ei gyfer, sef The Magic Roundabout.
Ond yn y pen draw fe glywodd y gymuned leol yn Sir Benfro am y newyddion bod "UFO" yn cael ei adeiladu ar y safle.
Aeth criw o BBC Cymru ar ymweliad â chriw Macron Fabrications oedd yn wynebu'r her o adeiladau'r llong ofod anferthol. Fel arfer roedd y peirianwyr yn gweithio i gwmnïau olew a chemegau petrol.
Cymrodd dri mis i'w hadeiladu, cyn i'r cyfan gael ei symud i stiwdios Elstree ar gyfer cynhyrchu ffilm The Empire Strikes Back, a enillodd Oscar.
Mae'r llong i'w gweld yn y golygfeydd ar ddechrau'r ffilm ar y blaned Hoth, pan mae'r Rebel Alliance dan ymosodiad.
'Anghrediniaeth a balchder'
Nawr mae grant o £8,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi galluogi pobl leol i adrodd hanes adeiladu'r llong gyflymaf yn yr alaeth yn Noc Penfro.
Mae gwaith ar arddangosfa'r Millennium Falcon yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser dan lygaid barcud yr arbenigwr Star Wars lleol, Mark Williams.
"Gosododd George Lucas safon newydd mewn adrodd straeon a gwneud ffilmiau gyda Star Wars ac roedd y stori bod y Millennium Falcon yn cael ei hadeiladu yn Noc Penfro yn newyddion mawr ar y pryd," meddai.
"Roedd y byd i gyd yn gwybod amdano, ac wedyn fe bylodd y stori i chwedl.
"Mae'r syniad o dref yng ngorllewin Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r stori anhygoel hon drwy fod y man lle cafodd un o'r llongau gofod mwyaf eiconig yn hanes ffuglen wyddonol ei hadeiladu, yn creu cymysgedd o anghrediniaeth a balchder."
Mewn cyfweliad ecsgliwsif â BBC Cymru, cyfaddefodd Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm ac EVP, Lynwen Brennan, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, nad oedd hi'n gwybod am y cysylltiad rhwng ei sir enedigol a Star Wars tan rhyw 10 mlynedd yn ôl.
"Mae mor wych darganfod bod y cysylltiad cyffredin yna yn bodoli. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i'r grym fod yn gryf gyda Sir Benfro!
"Un o'r pethau dwi'n ei garu am hyn yw ei fod yn teimlo mor Star Wars! Bod criw cyfrinachol o wrthryfelwyr, wrthi mewn warws yn Noc Penfro, ac yn gwneud gwaith anhygoel!
"Mae yna rywbeth sy'n ddilys iawn am hynny a'r ffaith i'r Falcon gael ei hadeiladu mewn iard longau go iawn gan y crefftwyr anhygoel hyn.
"Rwy'n meddwl bod hynny'n yn rhan o'r ffaith pam fod Star Wars wedi dal y dychymyg a pharhau cyhyd oherwydd ei fod yn teimlo'n real.
"Mae cymaint o fanylder yn y golygfeydd, y propiau, y llongau, ac oherwydd eu bod yn cael eu hadeiladu gan grefftwyr anhygoel, dyna sy'n dod drosodd ar y sgrin.
"Dyna pam mae pobl yn gallu plymio i'r byd hwn a cholli eu hunain yn y byd hwn."
Seren ffilm i ymweld
Magwyd Lynwen Brennan ym Mhenalun, cyn gwneud ei marc gyda'r cwmni y tu ôl i ffilmiau Star Wars. Mae'n dweud ei bod hi'n bendant yn bwriadu ymweld â'r arddangosfa pan fydd hi gartref yng Nghymru.
"Byddaf yn siŵr o ymweld. Byddaf adref ddiwedd mis Mehefin a byddaf yn bendant yn ymweld.
"Rwy' wrth fy modd â'r ffaith ei fod yn y dref lle ganwyd fy mam, ac mae gen i lawer o deulu yn Noc Penfro o hyd, felly mae gen i gysylltiad enfawr.
"Sir Benfro yw fy nghartref o hyd."
Prynwyd Lucasfilm gan Disney am $4bn yn 2012, ac mae eisoes wedi adennill ei arian.
Mae tair ffilm Star Wars newydd, penodau VII-IX, eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn y sinema, ac mae nifer o gyfresi sydd wedi deillio o Star Wars wedi denu miliynau o danysgrifwyr i blatfform Disney+.
Pan ofynnwyd iddi a allai unrhyw brosiectau Star Wars yn y dyfodol gael eu ffilmio yng Nghymru, dywedodd Lynwen Brennan fod y cwmni eisoes wedi cael profiadau da yma.
"Rydyn ni newydd orffen saethu Willow yng Nghymru, ac roedd hynny'n brofiad gwych.
"A hynny am ddau beth, oherwydd yr amrywiaeth o dirweddau trawiadol y mae ein gwneuthurwyr ffilm wedi bod yn eu darganfod a'r llwyfannau gwych.
"Fe wnaethon ni saethu yn Dragon Studios. Rwy'n sicr yn gwybod y bydda' i'n gwthio am hynny."
Bydd yr arddangosfa newydd yn Noc Penfro yn agor i'r cyhoedd ar 23 Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2017