CBDC yn ymchwilio i gyswllt â chwmni â'i wreiddiau yn Rwsia

  • Cyhoeddwyd
FAWFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymchwilio i'w pherthynas gyda chwmni ystadegau sydd â chysylltiadau gyda Rwsia.

Daw hynny wedi i Newyddion S4C gael cadarnhad bod cynghreiriau pêl-droed y Ffindir a Gwlad Pwyl wedi penderfynu gorffen defnyddio cwmni InStat - sydd â'i wreiddiau yn Rwsia - yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Dywed InStat eu bod nhw "fel gweddill y byd, yn pryderu'n fawr am ymosodiad Rwsia ar Wcráin" ac nad oes gan eu cwmni "unrhyw gysylltiad â llywodraeth Rwsia".

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, fe alwodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, Tom Giffard, ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i droi cefn ar ddefnyddio'r cwmni yn sgil rhyfel Wcráin.

"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i'r Gymdeithas Bêl-droed dorri ei chontract gydag InStat gan bod gwreiddiau'r cwmni yn Rwsia ac mae cynghreiriau eraill wedi canfod bod cysylltiadau gan y cwmni yno o hyd," dywedodd.

"Fe allai Cymru chwarae Wcráin fis nesaf. Byddwn i'n hoffi eu croesawu yma gyda chydwybod clir a gan wybod nad oes contract gan y gymdeithas â'r cwmni yma o hyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tom Giffard AS wedi galw ar y gymdeithas i dorri cysylltiadau gyda'r cwmni ystadegau

Mae nifer o gwmnïau masnachol, gan gynnwys McDonald's, Amazon ac Apple wedi rhoi'r gorau i weithredu yn Rwsia yn sgil y rhyfel.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydden nhw'n canslo cytundebau cyhoeddus gyda chwmnïau o Rwsia.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru yr un datganiad fis yn ddiweddarach.

Yn y byd chwaraeon hefyd, mae camau wedi eu cymryd yn erbyn timau a chwaraewyr o Rwsia yn sgil y rhyfel.

Cafodd tîm pêl-droed Rwsia ei wahardd rhag chwarae yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd, ac mae chwaraewyr tenis o'r wlad hefyd wedi eu gwahardd rhag cystadlu yng nghystadleuaeth Wimbledon eleni.

Y bwriad yw rhoi pwysau ar Vladimir Putin i ddod â gweithredu milwrol yn Wcráin i ben.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cynghrair bêl-droed y Ffindir na fyddan nhw'n parhau gyda'u perthynas ag InStat wedi i'r contract presennol ddod i ben ddiwedd y tymor.

"Oherwydd y sefyllfa yn Wcráin. Er yn dechnegol bod y cwmni ddim yn un Rwsiaidd, mae ganddi gysylltiadau agos a'r wlad o hyd", meddai.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cynghrair Gwlad Pwyl eu bod nhw wedi torri eu cytundeb ag InStat ddechrau mis Mawrth, yng nghanol y tymor pêl-droed.

'Dim perthynas â llywodraeth Rwsia'

Dywedodd llefarydd ar ran InStat eu bod nhw'n ystyried camau cyfreithiol yn erbyn cynghrair Gwlad Pwyl.

Mewn datganiad, ychwanegodd llefarydd bod uwch-reolwyr y cwmni "yn hollol wrthwynebus i ymosodiad Rwsia ar Wcráin".

Er bod eu sylfaenydd a'r prif weithredwr yn dod o Rwsia, maen nhw'n dweud ei fod bellach wedi symud i'r Unol Daleithiau ac nad oes unrhyw berthynas ganddo â llywodraeth Rwsia, a does dim sancsiynau yn ei erbyn.

Dywed eu bod nhw wedi dirwyn chwaer gwmni o Rwsia i ben oherwydd y rhyfel. Maen nhw'n cydnabod eu bod nhw'n dal i gyflogi rhai contractwyr yn Rwsia.

Mae hefyd yn pwysleisio eu bod nhw'n cyflogi 42 o bobl yn Wcráin ac wedi bod yn cynnig cymorth iddyn nhw a'u teuluoedd.

Fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw'n defnyddio cwmni InStat ar y lefel ddomestig a rhyngwladol a'u bod nhw ar hyn o bryd yn ymchwilio i'w perthynas gyda'r cwmni.