'Profiad od' sefyll arholiadau allanol am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai disgyblion - a ddylai fod wedi sefyll arholiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf - yn gwneud hynny am y tro cyntaf eleni oherwydd Covid

"O'dd e'n brofiad od ac o'dd e'n brofiad anghyfarwydd hefyd," meddai Fflur ar ôl ei harholiadau TGAU cyntaf.

Mae hi ymhlith miloedd o ddisgyblion sydd wedi bod yn sefyll arholiadau allanol cyntaf yr haf ers 2019.

Mae Covid wedi parhau i darfu ar addysg dros y misoedd diwethaf, ac roedd ansicrwydd a fydden nhw'n cael eu canslo eto.

"Dechre'r flwyddyn o'dd pawb yn meddwl bydde' Covid outbreak arall a bydden ni ddim yn neud e", meddai'r disgybl 16 oed yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin.

Ond mae Fflur a'i ffrind Gwenllian, 16, yn falch eu bod nhw yn cael y profiad er gwaethaf yr holl heriau.

'Tabŵ'

Disgrifiad o’r llun,

Mae criw o flwyddyn 11 Ysgol Bro Myrddin yn dweud eu bod yn falch o fod wedi gallu sefyll yr arholiadau eleni

"Ma' eitha' lot o tabŵ wedi bod amdanyn nhw eleni," dywedodd Gwenllian.

"Mae'n neis i gael nhw wedi dechre' a siŵr o fod i bob disgybl sy'n 'neud e, mae'n waeth aros amdanyn nhw na 'neud nhw yn y pendraw."

Mae rhai newidiadau wedi'u gwneud i'r arholiadau, gyda chynnwys wedi'i leihau a rhywfaint o wybodaeth wedi ei rhoi o flaen llaw.

"Yn Drama ma' rhai pethe' wedi cael eu tynnu mas," meddai Fflur.

"Yr un peth gyda Daearyddiaeth, ma' rhestr wedi cael ei rhoi o bethau sydd ddim yn mynd i fod yn yr arholiad, 'dwi'n gweld bo hynna'n beth teg bo' nhw wedi rhoi i ni."

Yn 2020 a 2021 fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon, ond penderfynodd Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddiwr arholiadau, Cymwysterau Cymru, fwrw ymlaen gyda chynnal arholiadau allanol eleni.

Y profiad o fod mewn neuadd yn sefyll arholiad sydd wedi bod yn wahanol i Siwan, 16 oed.

"Ry'n ni wedi'n amlwg cael arholiadau bach, fel profion bach yn y dosbarth," meddai.

"Bod o dan amgylchiadau arholiad mewn neuadd - hwnna yw'r peth newydd i ni fel unigolion."

Mae Steffan, 16, yn teimlo bod y profiad o sefyll arholiadau yn bwysig.

"Mae'n nodwedd allweddol sy'n rhaid i ni gael ar gyfer y dyfodol yn y byd gwaith," dywedodd.

'Barod i roi cynnig arni'

Fe gafodd y disgyblion un arholiad barddoniaeth Cymraeg ym mis Ionawr ond "mae hyn yn teimlo'n wahanol", meddai Gwenllian.

Mae'n dod fel mwy o "sioc" gan fod arholiadau y llynedd wedi'u canslo, meddai.

Ond mae'n dweud eu bod wedi cael y gefnogaeth a gwneud y gwaith felly mae angen "addasu iddyn nhw, a chadw fynd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dysgwyr yn awyddus i brofi eu hunain yn yr arholiadau, medd Dr Llinos Jones

I athrawon hefyd, mae gweld y neuadd yn llawn ar gyfer arholiadau unwaith eto yn brofiad rhyfedd.

"Ni wedi bod yn paratoi at bopeth," meddai'r pennaeth Dr Llinos Jones.

"Ond dwi'n meddwl bod disgyblion yn barod am yr arholiadau ac yn barod i roi cynnig arni.

"Dwi'n meddwl bo' nhw wedi ymdrechu'n galetach oherwydd bo' nhw'n teimlo... 'mae'r cyfle gyda ni a ni mo'yn profi'r hyn ry'n ni'n gallu gwneud'."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arholiadau TGAU Tomos eu canslo yn 2020

Disgybl sy'n gwneud Safon Uwch ym Mro Myrddin yw Tomos Roberts, 18. Mae ganddo dri arholiad i ddod - y tri ar yr un diwrnod.

Cafodd ei arholiadau TGAU eu canslo yn 2020 pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf.

"Weden i bo' ni bach o dan anfantais, ond ni 'di bod yn trio ein gorau, yn paratoi," meddai.

Mae'n edrych ymlaen at yr haf - "diwrnod canlyniadau, wedyn croesi bysedd!"

Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd graddau yn fwy hael nag yn 2019 - y tro diwethaf i arholiadau gael eu cynnal.

Yn ôl Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan, mae yna rywfaint o "nerfusrwydd" eleni am sut fydd y drefn yn gweithio ond nod y drefn yw sicrhau cysondeb.

"Fy llinyn mesur i o lwyddiant fydd os yw dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael beth maen nhw'n haeddu am yr ymdrech maen nhw wedi'i roi," meddai.