Clymblaid i barhau i reoli Cyngor Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Bydd clymblaid yn parhau i reoli Cyngor Môn er i Blaid Cymru sicrhau digon o gynghorwyr i weinyddu ar ben ei hun.
Yn yr etholiadau diweddar enillodd y blaid 21 o'r 35 sedd, gan sicrhau mwyafrif o gynghorwyr y sir.
Ond yn ystod cyfarfod ddydd Mawrth daeth cadarnhad bydd grŵp o gynghorwyr annibynnol yn parhau i fod â seddi ar y Pwyllgor Gwaith, fel rhan o glymblaid.
O ganlyniad bydd pedwar aelod y Grŵp Annibynnol, o dan arweinyddiaeth Ieuan Williams, yn ymuno â 21 Plaid Cymru.
Mae hyn yn gadael tri aelod Llafur, un Democrat Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol eraill yn y gwrthbleidiau.
'Môn wedi adfer ei enw da'
Yn dilyn ei hail-ethol fel arweinydd, gyda'r Cynghorydd Carwyn Jones i fod yn ddirprwy iddi, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi bod y cyngor wedi "cymryd camau pwysig" yn ystod ei phum mlynedd wrth y llyw.
Dywedodd bod taclo'r argyfwng tai ymysg ei blaenoriaethau ac ychwanegodd: "Erbyn hyn mae Ynys Môn wedi adfer ei enw da ymysg y teulu llywodraeth leol yng Nghymru; gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed o ran llywodraethiant ac mewn meysydd gwasanaeth allweddol.
"Fel bob amser mae croeso i aelodau'r wrthblaid herio'n polisïau ond mae'n rhaid i ni barhau i gynnal y perthnasau gwaith cadarnhaol a chynhyrchiol a sefydlwyd rhwng yr holl aelodau etholedig a byddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod hynny'n digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021