Boris Johnson 'yn dal mewn twll', medd Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson mewn partiFfynhonnell y llun, Adroddiad Sue Gray
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad Sur Gray yn manylu ar sut y cafodd staff yn Downing Street bartïon tra bod gweddill y wlad dan glo

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud wrth BBC Cymru bod Boris Johnson yn dal mewn trafferthion yn sgil cyhoeddi adroddiad yr uwch was sifil Sue Gray i bartïon yn Downing Street tra bo'r wlad dan glo.

Dywedodd Mark Drakeford bod Prif Weinidog y DU yn dal yn wynebu ymchwiliad yn Nhŷ'r Cyffredin i asesu a yw wedi dweud celwydd yn y Senedd.

Mae'r adroddiad, medd Mr Drakeford, yn dangos bod partïon yn cael eu cynnal "ar raddfa fawr" yn Downing Street ac mai'r "pobl â'r grym lleiaf fydd yn gorfod ysgwyddo'r bai".

Yn gynharach fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, amddiffyn Mr Johnson, tra'n cydnabod nad oedd unrhyw un o fewn y llywodraeth yn gwadu ei bod yn "stori ddrwg".

Mae'r adroddiad yn nodi achosion o yfed gormodol, staff yn cyfogi, a cham-drin staff glanhau a diogelwch.

Disgrifiad,

Gohebydd San Steffan BBC Cymru, Elliw Gwawr, sy'n crynhoi canfyddiadau'r adroddiad

Dywedodd Mr Drakeford: "Nid oedd rhain yn ddigwyddiadau unigol. Roedden nhw'n digwydd o hyd.

"Doedden nhw ddim yn digwydd ar hap chwaith, fel mae'r prif weinidog wedi awgrymu. Cawson nhw eu trefnu o flaen llaw."

Awgrymodd mai ofer yw gobaith Mr Johnson "bod hyn wedi tynnu llinell dan bethau" gan fod Llywodraeth y DU "sydd wedi ei llethu gan beth sydd wedi digwydd... methu cyflawni pethau sylfaenol llywodraethu'n iawn".

"Dyw e ddim mas o'r twll. Mae yna ymchwiliad yn Nhŷ'r Cyffredin a dywedodd y prif weinidog gelwydd pan aeth yna a dweud bod dim partïon yn Downing Street, ond bod dim rheolau wedi eu torri.

"Mae'n anodd iawn darllen adroddiad Sue Gray a gweld sut y daeth i'r casgliad yna."

'Pwysig cau'r bennod hon'

Dywedodd Simon Hart mai'r hyn sy'n bwysig iddo yw "rydym yn gallu rhoi'r bennod hon y tu ôl i ni a rhoi sicrwydd i ni ein hunain a sicrhau pleidleiswyr... bod y diwylliant hwn wedi newid".

Wrth siarad ar BBC Radio 4, dywedodd fod y prif weinidog wedi ymrwymo i gydweithredu ag ymchwiliad yr heddlu ac wedi ymrwymo i ddilyn ei ganfyddiadau.

"Mae'r holl bethau hynny wedi'u gwneud. Mae pob un o'r pethau hynny yr ymrwymodd iddo wedi'i wneud, gan gynnwys ad-drefnu Downing Street," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o'r etholwyr yn fy rhan i o'r byd - nid pob un - ond mae'r rhan fwyaf sydd wedi ysgrifennu ataf am y pwnc hwn wedi mynnu bod y pethau hynny yn digwydd yn hytrach na gofyn am ymddiswyddiad yn unig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sue Gray na ddylai llawer o ddigwyddiadau "fod wedi cael caniatâd i ddigwydd"

Cafodd staff bartïon yn Downing Street tra bod gweddill y wlad dan glo gyda chymeradwyaeth eu penaethiaid, yn ôl adroddiad Ms Gray.

Dywedodd yr uwch was sifil na ddylai llawer o ddigwyddiadau "fod wedi cael caniatâd i ddigwydd" a bod yn rhaid i uwch arweinwyr "gymryd cyfrifoldeb am y diwylliant hwn".

Cafodd rhybuddion bod partïon yn torri rheolau Covid eu hanwybyddu, meddai'r adroddiad.

'ASau angen tyfu asgwrn cefn'

Dywedodd Virginia Crosbie, AS Ceidwadol Ynys Môn, fod gan y prif weinidog ei "chefnogaeth lawn".

"Rwy'n anhapus gyda'r hyn ddigwyddodd yn Downing Street ond mae llawer wedi newid yn y ffordd y mae'n gweithredu ers y digwyddiadau hyn ac rwy'n teimlo bod y prif weinidog wedi egluro, wedi cymryd cyfrifoldeb llawn ac wedi ymddiheuro'n ddiffuant," meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wrth Dŷ'r Cyffredin: "Mae galw hwn yn adroddiad damniol i'r prif weinidog yn danosodiad.

"Am 168 diwrnod, mae wedi defnyddio Sue Gray fel tarian ddynol. Yn y ffars hon o system seneddol, mater i ASau Torïaidd bellach yw tyfu asgwrn cefn a dileu'r gwagle moesol hwn o brif weinidog."

Ffynhonnell y llun, Swyddfa'r Cabinet

Cyfeiriodd AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant at y driniaeth wael o staff diogelwch a glanhau, ac mae'n gofyn a oes gan y prif weinidog "ddim synnwyr o gywilydd bod Downing Street oddi tano wedi bod yn garthbwll".

Dywedodd Mr Johnson ei bod yn "hollol warthus o dan unrhyw amgylchiadau i fod yn anghwrtais i bobl sy'n eich helpu chi".

Ychwanegodd y bydd yn sicrhau bod y rhai a gymerodd ran naill ai'n ymddiheuro i'r staff hynny neu'n cael eu disgyblu.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, bod yr adroddiad yn dangos "mewn du a gwyn" beth oedd yn digwydd dan reolaeth Mr Johnson yn Rhif 10.

Ychwanegodd Jane Dodds: "Fo wnaeth y rheolau, wnaeth eu torri nhw ac yna ddywedodd gelwydd wrth y cyhoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff cartref gofal Glan Rhos wedi "colli ffydd" ers i'r partion ddod i'r amlwg, meddai Kim Ombler

Dywedodd perchennog un cartref gofal ar Ynys Môn bod y partïon gafodd eu cynnal yn "ofnadwy", tra bod staff gofal yn gweithio mewn "adeg pryderus ofnadwy".

Dywedodd Kim Ombler o Gartref Glan Rhos ym Mrynsiencyn bod ei staff "wedi colli ffydd" yn sgil yr adroddiad.

"Ma' nhw di cael 'neud fel fynna nhw, a pawb arall yn colli teuluoedd", meddai.

'Symud ymlaen? Rwy'n grac'

Bu farw Phil Smith yn 74 oed fis Ionawr y llynedd, ddyddiau ar ôl dal Covid-19 yn yr ysbyty ble roedd yn cael triniaeth at ganser.

Yn ôl ei ferch, Sam Smith-Higgins - un o sylfaenwyr ymgyrch Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, mae'n anodd dirnad y gwahaniaeth rhwng yr hyn roedd ei theulu'n mynd trwyddo a'r digwyddiadau yn Downing Street.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sam Smith-Higgins bod hi'n anodd symud ymlaen o gofio amgylchiadau dyddiau olaf ei thad

Mae hi'n disgrifio sefyll tu allan i'r ysbyty a chodi llaw at ei thad wrth i'r ddau siarad ar y ffôn. "Dyna'r agosaf imi ddod at ei weld," meddai. "I feddwl bod nhw i gyd yn cael partïon.

"Bu'n rhaid imi eistedd yna'n dawel a danfon neges destun at nyrs i ddarllen fy negeseuon ffarwel i fy nhad a dyma'r pethau sy'n eich cadw'n effro gyda'r nos.

"A does dim ots faint o bobl sy'n dweud bod hi'n bryd symud ymlaen… gallwch chi ddim symud ymlaen o hynna.

"Mae Boris Johnson yn dweud bod hi'n ddrwg ganddo. Grêt. Mae'n ddrwg gen innau hefyd. Rwy'n gynddeiriog. Rwy'n grac ein bod wedi ein siomi'n gyfan gwbl."

Mae Ms Smith-Higgins, sydd o Gwmbrân, yn credu bod rhaid i Mr Johnson ymddiswyddo, ond yn galw hefyd am ymchwiliad penodol i benderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig.

Dadansoddiad ein gohebydd seneddol, Elliw Gwawr

Rai misoedd yn ôl roedd cyhoeddi adroddiad Sue Gray yn cael ei weld fel moment tyngedfennol i'r prif weinidog.

Ond er gwaetha'r holl fanylion a'r feirniadaeth yn yr adroddiad, mae ganddo dal lot o gefnogaeth heddiw.

Mae nifer o aelodau Ceidwadol yn anhapus ac yn anghyfforddus gyda'r hyn ddigwyddodd, ond does 'na neb wedi galw o'r newydd arno i fynd.

Ond mae'n rhaid cofio bod barn yr etholwyr yn bwysig hefyd, a gyda dau is-etholiad fis nesaf fe gawn ni weld os ydyn nhw yn maddau'r prif weinidog hefyd.