Dirwyo dyn am banio am aur yn anghyfreithlon yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
rhywun yn panio am aurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brian Wright yn honni mai arddangos y grefft o banio yr oedd o, pan gafodd ei ffilmio gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae dyn wedi cael dirwy am banio am aur Cymreig yn anghyfreithlon yn ystod ymweliadau ag ardal Dolgellau.

Cafodd Brian Wright o Henley-on-Thames, Sir Rhydychen, ei weld gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn panio am aur yn yng Nghoed y Brenin ar bedwar achlysur rhwng 14 Gorffennaf a 19 Awst 2021.

Ni chaniateir chwilio aur ar dir CNC oherwydd y difrod a allai ei achosi i ecosystem afonydd trwy gloddio graean a thynnu mwynau.

Roedd y dyn 65 oed yn gwadu'r cyhuddiadau gan honni mai dangos i swyddog gorfodaeth CNC sut i banio am aur yr oedd o ar y pryd.

Cafodd ddirwy o £600 gan Lys Ynadon Llandudno, a gorchymyn i dalu dros £2,400 o gostau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ofni bod pobl yn achosi difrod i fywyd gwyllt wrth chwilio am aur yn Afon Wen

Yn dilyn y digwyddiad cyntaf, dywedodd swyddogion CNC wrth Mr Wright na chaniateir panio aur ar dir CNC ac y dylai stopio, neu wynebu camau pellach.

Anwybyddodd y rhybudd, ac fe gafodd ei ddal ar dri achlysur arall cyn iddo gael ei holi gan Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Dafydd Roberts ar ran yr erlyniad bod arwydd yn Afon Wen, ger Dolgellau, yn dweud bod gwaharddiad ar banio am aur, ond bod Mr Wright wedi cael ei ffilmio'n gwneud hynny.

Ond dywedodd Mr Wright ei fod yn credu bod yr arwydd "yn anghywir".

"Dwi'n credu fy mod i'n gwybod sut y dylai'r rheoliadau gael eu dehongli," meddai.

Dywedodd Mr Roberts bod Wright wedi honni iddo gael ei "setio fyny" gan CNC pan wnaethant ei ffilmio, ac nad oedd yn panio am aur ar y pryd.

Clywodd y llys bod Mr Wright yn ceisio hyrwyddo "elfen ddiwylliannol" panio am aur.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei ffilmio yn panio am aur yng Nghoed y Brenin

Dywedodd y barnwr Gwyn Jones fod Mr Wright yn gwrtais ond fod ganddo ddaliadau cryfion, a'i fod wedi dweud wrth CNC na fyddai'n stopio panio "ar fy egwyddorion".

Dywedodd wrth y barnwr fod panio am aur yn "rhan o'r etifeddiaeth ddiwylliannol" a'i fod wedi bod yn "arddangos" y grefft i'r swyddog gorfodaeth.

"Roeddwn i'n dangos ewyllys da," meddai.

Gwrthododd y Barnwr Jones yr awgrym ei fod wedi cael ei "setio fyny".

Cafwyd Wright yn euog o balu neu dynnu gro, tywod a mwynau yn Afon Wen, a defnyddio synhwyrydd metel ar dir CNC.

Ardal cadwraeth

Yn dilyn yr achos dywedodd Dylan Williams, o CNC: "Mae'r lleoliad lle cafodd Mr Wright ei ddal yn panio aur wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n dangos ei werth cadwraeth uchel a'i wendid i unrhyw weithgaredd niweidiol.

"Gall panio aur yn anghyfreithlon gael effaith negyddol ar ecosystem yr afon.

"Gall y broses o gloddio gwely'r afon a glan yr afon arwain at ddifrod i blanhigion neu infertebratau a gall mannau silio pysgod gael eu difrodi. Gellir hefyd newid llif yr afon.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y ddirwy sy'n cael ei dosbarthu yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn panio aur yn anghyfreithlon yng Nghoedwig Coed y Brenin yn y dyfodol, ac ar draws safleoedd arbennig eraill."