Pam ydyn ni'n cymryd llai o sylw o rai rhyfeloedd yn y byd?

  • Cyhoeddwyd
rhun dafyddFfynhonnell y llun, Rhundafydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhun Dafydd

Yn anffodus mae wastad rhyfeloedd neu frwydro yn digwydd rhywle yn y byd. Rydyn ni'n clywed am rai rhyfeloedd yn gyson, ond mae rhai eraill yn llithro drwy'r rhwyd ac yn cael fawr ddim o sylw.

Pam fod hyn yn digwydd? Rhun Dafydd yw cadeirydd Cymdeithas y Cymod, mudiad sy'n ymgyrchu am heddwch ac sy'n credu mewn dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro o amgylch y byd. Yma mae Rhun yn rhannu ei farn am y sylw mae gwahanol ryfeloedd yn ei gael gan wledydd y gorllewin.

Cyn dechrau trochi mewn i ddeall sut ydym o bosib yn dehongli rhyfeloedd yn wahanol mae'n rhaid nodi difrifoldeb y sefyllfa yn Wcráin ar hyn o bryd. Ac wrth i'r wythnosau bellach droi'n fisoedd ni ddylwn anghofio'r dioddefaint mae pobl gyffredin Wcráin yn parhau i'w wynebu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Valdimir Putin yn arfer bod yn swyddog KGB, ac fe gafodd ei ethol fel Arlywydd Rwsia am y tro cyntaf yn 2000

Yn anffodus, nid yn Wcráin yn unig mae yna ryfel ar ddigwydd ar hyn o bryd ond mewn lleoliad ym mhob cornel y byd, o Ethiopia i Syria i Afghanistan, mae pobl ddiniwed yn dioddef o ganlyniad i drais a therfysg.

Y rhyfel yn Yemen

Yn ôl yr UN mae dros 377,000 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r rhyfel yn Yemen, rhwng y clymblaid sydd o dan arweiniad y Saudi sy'n cefnogi llywodraeth swyddogol y wlad, a'r grŵp a elwir Houthis. Er ein bod yn ymwybodol o'r rhyfel yno dros y saith mlynedd d'wethaf, mae'n llai tebygol ein bod yn deall yr hyn sydd wir yn digwydd yn yr Yemen.

Ond pam nad ydym yn dueddol o glywed mwy am y rhyfeloedd yma? Gellir dadlau nad yw ein cyfryngau confensiynol yn rhoi sylw teg i bob rhyfel.

Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi bod ym mhenawdau'r wasg yn ddyddiol ers i Putin benderfynu ymosod, ond nid yw'r un peth yn wir am bob rhyfel. Mae'n rhaid ymchwilio yn ddyfnach i gael gwybod gwir effaith gwrthdaro mewn mannau eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa yn Kharkiv wythnos yma wrth i Rwsia dargedu blociau o fflats yn y ddinas.

A ddylid edrych ar sut ydym yn derbyn newyddion mwy eang er mwyn sicrhau nad ydym yn derbyn gwybodaeth ar beth sy'n digwydd yn y byd o un persbectif o hyd?

Nid yw'n gyfrinach bod y rhyfel yn Wcráin yn effeithio'n negyddol ar economi'r byd wrth i sancsiynau gael eu rhoi ar Rwsia, ac yn benodol ar ei sectorau olew a nwy. Mae hwn yn amlwg am effeithio yn fwy arnom ni oherwydd ei fod yn taro'n pocedi ni'n uniongyrchol, gyda'r rhyfel yn dylanwadu ar brisiau nwyddau pob dydd.

Mae'r ddwy wlad (Rwsia ac Wcráin) hefyd yn rhai o brif gynhyrchwyr gwenith y byd ac mae nifer o arbenigwyr yn y maes yn poeni bod diffyg allforion grawn am yrru newyn byd-eang ar lefelau trychinebus, yn enwedig yn ardaloedd tlota'r byd. Y pryder ydy y gall hyn achosi mwy o farwolaethau a rhagor o ryfeloedd yn y pendraw.

Y diwydiant arfau

Yn 2021 Prydain oedd y pedwerydd gwariwr mwyaf yn y diwydiant arfau, gyda nifer o'r arfau'n cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd yn y dwyrain canol. A oes ongl o gydwybod genedlaethol yn ein gwneud i beidio â bod eisiau talu gymaint o sylw i'r hyn sy'n digwydd mewn ardaloedd eraill oherwydd rôl y diwydiant arfau ym Mhrydain?

Ffynhonnell y llun, Future Publishing
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr tu allan i'r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd yn ystod ffair gwerthu arfau yn y ddinas, 2018

Mae dylanwad hyn yn treiddio i Gymru, wrth i beilotiaid Saudi sy'n terfysgu pobl yr Yemen gael eu hyfforddi yn y Fali, Ynys Môn. A ddylen ni ddechrau edrych ar sut allwn greu economi mwy cydwybodol a chynaliadwy yn lle?

Mae geiriau Iwan Llwyd felly o'i gerdd Sgrifen yn y Tywod am ryfel Irac yn y 90au yr un mor wir heddiw - "fod olew yn dewach na gwaed"...hynny yw, pam bod trachwant ariannol yn bwysicach na bywydau dinasyddion y byd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym mhrifddinas Yemen, Sana'a, wrth i blant aros am fwyd oedd yn cael ei ddarparu. Mae newyn wedi bod yn y wlad ers 2006.

Ffactor arall, sy'n weddol amlwg am ein bod yn dueddol o gymryd mwy o sylw o'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin oherwydd ei agosatrwydd i ni yng Nghymru, sy'n gwneud y gwrthdaro yn llawer mwy amrwd.

Dyma'r rhyfel mwyaf yn Ewrop ers dros 20 mlynedd ac mae'n ddealladwy fod pobl yn teimlo'n fwy mewn peryg, yn enwedig wrth ystyried bygythiad Putin yn ymwneud ag arfau niwclear.

Hiliaeth yn ffactor?

A beth am sut rydym fel gwlad orllewinol yn portreadu gweddill y byd? Oes yna hiliaeth yn isymwybod pobl wyn sy'n golygu bod gennym fwy o drugaredd dros bobl Wcráin oherwydd lliw eu croen? Dylem deimlo tosturi dros bob un unigolyn sy'n dioddef o ganlyniad i ryfel gan edrych ar y byd fel dinesydd byd-eang.

Mae'n rhaid cymryd i ystyriaeth ein tueddiad wrth drin a thrafod unrhyw ryfel er mwyn sicrhau ein bod yn ddiduedd wrth edrych am gymod a heddwch. Rydym fel cymdeithas yn gwthio am greu byd sy'n dilyn y llwybr di-drais gan amlygu bod rhaid newid y drefn, gan mai proses nid canlyniad yw heddwch.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig