Wcráin: Confoi o lorïau â nwyddau dyngarol yn gadael Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Lori
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd tua 20 o lorïau ddydd Sadwrn er mwyn cludo nwyddau i bobl Wcráin.

Mae cyfres o lorïau sy'n llawn nwyddau dyngarol i bobl Wcráin wedi gadael Wrecsam brynhawn Sadwrn.

Gadawodd confoi o tua 20 cerbyd o stad ddiwydiannol y dref yn dilyn ymdrechion cymunedol i gasglu nwyddau ac arian i ddioddefwyr y rhyfel.

Aelodau canolfan Bwylaidd PISC yn y dref oedd yn arwain y fenter, a ddenodd tua 1,000 o wirfoddolwyr.

Dywedodd y criw fod y broses wedi bod yn "heriol" ond yn "bleser" gyda galw i godi mwy o arian er mwyn gallu dosbarthu'r holl nwyddau sydd wedi eu casglu.

Disgrifiad o’r llun,

Anna Buckley sy'n rhedeg elusen PISC a dywedodd bod help y gwirfoddolwyr wedi bod yn anhygoel

"I fod yn onest, mae o wedi bod yn heriol, ond dwi'n falch iawn ac mae'n bleser cael cymorth y criw anhygoel sydd yma," meddai Anna Buckley, sy'n rhedeg PISC.

"Mae pobl yma o gefndiroedd gwahanol ac yn gwneud gwaith bendigedig."

Ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn rhoi eu hamser oedd Andrew Farnhill o Wrecsam.

"Dwi wedi bod yn gwneud dipyn o bopeth - pacio, symud pethau, rhoi pethau mewn bocsys," meddai.

"Dwi yma ers wythnos diwethaf, ac ar un pwynt roedd dros 200 o bobl yma yn pacio. Mae'r bobl sydd wedi gwirfoddoli wedi bod yn anhygoel, yn cyfrannu amser ac egni, o ben bore tan naw o'r gloch y nos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r warws wedi bod yn hynod o brysur wrth i bobl gasglu nwyddau, yn ôl un arall o'r gwirfoddolwyr, Sue Dawson.

Daeth Sue Dawson i helpu o'r Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dweud bod y warws ar adegau yn "wallgof".

Penderfynodd wirfoddoli wedi iddi weld delweddau o'r rhyfel ar ei theledu.

"Yn lle eistedd yn teimlo'n isel a diobaith, ro'n i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol a chorfforol i helpu," meddai.

Un sy'n rhan o'r confoi yw'r gyrrwr lori Konrad Barszcz, sy'n dod o Rzeszow yn nwyrain Gwlad Pwyl.

Mae'r ddinas honno'n eithaf agos at Wcrain, a dywedodd ei fod wedi gweld nifer o ffoaduriaid yn cyrraedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Konrad Barszcz o Wlad Pwyl yn un o'r gyrwyr sy'n rhan o'r confoi

"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer pobl Wcrain," meddai, gan ychwanegu ei fod "ychydig yn nerfus" o deithio mewn confoi am y tro cyntaf.

"Roedd llwyth o bobl yma neithiwr yn llwytho'r lorïau, ac mae'r bobl leol wedi gwneud yn wych. Dwi'n teimlo'n falch."

Mae disgwyl y bydd sawl lori arall yn gadael yr ardal yn y dyddiau nesaf gan fod gan Ms Buckley a'i thîm lawer o focsys yn barod i fynd mewn sawl warws.

Dywedodd mai'r flaenoriaeth nawr yw codi mwy o arian.

"Mae un lori yn costio tua £2,000," meddai. "'Dan ni angen codi tua £50,000 arall i ddanfon be' sydd gennym ni."

Pynciau cysylltiedig