Beth fyddai gwerth cyrraedd Cwpan y Byd i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rubin Colwill yn edrych ymlaen at wythnos dyngedfennol i dîm cenedlaethol Cymru

Mi allai pêl droed Cymru fod £8m ar ei hennill pe bai'r tîm cenedlaethol yn llwyddo i gyrraedd grwpiau Cwpan y Byd yn Qatar eleni.

Pe baen nhw'n gwneud cystal â'r perfformiad yn Ewro 2016, fe allai hynny godi i £38m, os nad yn fwy.

Dyna y mae Newyddion S4C wedi ei ddarganfod mewn cyfweliad gydag ymgynghorydd i UFEA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Felly, gyda thîm Cymru'n wynebu gêm bwysig ddydd Sul, mae 'na dipyn yn y fantol.

"Mae 'na ffi cyfranogi pan yn cystadlu mewn cystadlaethau fel Cwpan y Byd a'r Ewros," meddai Llŷr Roberts, sy'n ymgynghorydd i UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Newyddion S4C.

"Er enghraifft, ar gyfer Cwpan y Byd y tro 'ma yn 2022 'dan ni'n gwybod os dach chi'n cyfranogi ac yn cyrraedd y grwpiau gewch chi ffi o jyst dros £8m.

Disgrifiad o’r llun,

Llŷr Roberts: 'Mae na gyfleoedd economaidd yn bendant'

"Yn amlwg mae'r ffi hynny'n mynd lan wrth bod chi'n dod drwy'r camau allweddol, mewn i'r rownd 16, y chwarteri, semis a'r ffeinal, ac mae posib ennill rhywbeth sy'n cyfateb i £38m os 'dach chi'n edrych ar y ffigyrau i gyd wedyn," ychwanegodd.

Er hynny, mae'n rhaid cofio bod 'na gostau o gymryd rhan. Mi fyddai'n rhaid talu am deithio, gwestai, llefydd ymarfer a staff.

Ond mae'r manteision, i bob golwg, yn anferthol.

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, mae cyrraedd Cwpan y Byd yn "gweddnewid cenedl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymrodd Noel Mooney yr awenau fel Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngorffennaf 2021

"Mae 'na 211 o wledydd all chwarae yn hon... mae'n anferth, mae 'na bentrefi yn Asia, Affrica a De America a phobl wedi hoelio'u sylw ar un set deledu yn gwylio Cymru'n chwarae.

"Fel Gwyddel, 'dw i'n cofio Iwerddon yn cyrraedd Cwpan y Byd yn 1990, Nessun Dorma, Gazza... mi wnaeth hi weddnewid y genedl, nid o safbwynt pêl-droed yn unig ond o safbwynt economaidd.

"Mi roddodd hyder i'r wlad mewn ffordd na allai dim byd arall fod wedi gwneud."

'Cyfle fan hyn i Gymru'

Mae Llŷr Roberts yn cytuno: "Mae 'na gyfle fan hyn i Gymru... y Gymdeithas ac i Gymru ddatblygu brand," dywedodd.

"Hynny yw, cyfle i'r Gymdeithas wthio'r ochr pêl-droed, gwneud cysylltiadau newydd gyda chwmnïau newydd, ond hefyd i Gymru, i annog twristiaeth, annog mwy o bobl i ddod mewn i Gymru a gwario arian yng Nghymru, felly mae na gyfleoedd economaidd yn bendant."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Profwyd llwyddiant ysgubol i'r tîm cenedlaethol yn ystod Ewro 2016

Ond yn ôl yr hanesydd pêl-droed, Meilyr Emrys, fe allai fod effaith tu hwnt i hynny hefyd.

"Yn y blynyddoedd diwetha' 'ma mae'r llwyddiant mae'r tîm cenedlaethol wedi'i gael ar y maes chwarae ochr yn ochr efo gwaith y Gymdeithas Bêl-droed wedi sicrhau bod 'na lot mwy o ddiddordeb erbyn hyn mewn pêl-droed yng Nghymru ac yn benodol yn y tîm cenedlaethol," dywedodd.

"Yn bendant, fysa' cael chwara' ar y llwyfan rhyngwladol mwya', sef Cwpan y Byd, yn hyrwyddo'r syniad ein bod ni'n genedl arbennig ein hunain efo'n hunaniaeth a'n hiaith ein hunain, bod hynny'n gysylltiedig ac yn ganolog i lwyddiant ein tîm pêl droed ni."

Mae'n bosib mai cwestiwn di-ben-draw ydy gofyn beth yw gwerth cyrraedd Cwpan y Byd... efallai y byddwn ni, ymhen wythnos, yn dechrau dod yn gyfarwydd â'r ateb.