Grŵp yn cael hawl i herio addysg rhyw gorfodol

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth yn cael gwers addysg rhyw

Mae'r Uchel Lys wedi rhoi'r hawl i grŵp sy'n gwrthwynebu cynlluniau i wneud addysg rhyw yn orfodol, i herio'r cynlluniau yn y llysoedd.

Mae'r bwriad i wneud addysg rhyw a chydberthynas (RSE) yn orfodol mewn ysgolion yn rhan o gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru.

Dywed y grŵp Public Child Protection Wales y bydd rhieni'n cael eu hamddifadu o'r cyfle i dynnu eu plant o'r dosbarthiadau o dan y drefn newydd.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru bydd disgyblion yn dysgu am bynciau sy'n addas ar gyfer eu hoedran.

Gwerthfawrogi amrywiaeth

Mae disgwyl i gwricwlwm newydd Cymru gael ei lansio mewn ysgolion cynradd ym mis Medi eleni, ac mewn ysgolion uwchradd yn 2023.

Ni fydd rhieni'n gallu tynnu eu plant o ddosbarthiadau addysg rhyw a chydberthynas.

Mae côd addysg RSE Cymru'n dweud: "Dros amser, gall dysgwyr ystyried sut y gall cydberthnasau, rhyw, rhywedd, atyniad rhamantus a rhywiol a phrofiadau personol lywio a dylanwadu ar hunaniaeth person a'r hyn sy'n ei wneud yn unigryw.

"Mae angen i ddysgwyr gael eu cefnogi i adnabod a gwerthfawrogi gwahanol fathau o gydberthnasau, gan gynnwys teuluoedd a chyfeillgarwch, yn ogystal â'r amrywiaeth o fewn gwahanol fathau o gydberthnasau, gan gynnwys amrywiaeth LHDTC+, a sut y gall y rhain newid dros amser."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Public Child Protection Wales, sydd wedi cael yr hawl i geisio am adolygiad barnwrol, yn credu y bydd dysgu gorfodol yn cyflwyno plant ifanc iawn i "bynciau sensitif ac anaddas, megis ideoleg rhyw" ac y bydd rhieni'n colli'r hawl "oesol" i dynnu eu plant o'r dosbarthiadau.

Dywedodd Kim Isherwood, un o'r hawlwyr yn yr achos: "Ni ddylai plant gael eu defnyddio ar gyfer arbrofion gwleidyddol ideolegol mewn perthynas â hunaniaeth a rhywedd."

Beth yw barn y llywodraeth?

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd plant ond yn dysgu am bynciau sy'n addas i'w hoedran a'u datblygiad.

O saith oed gall plant ddysgu am "bwysigrwydd trin pawb yn deg, ac o barch ym mhob rhyngweithiad rhyngbersonol all-lein ac ar-lein".

O 11 oed, mae'r côd yn cyfeirio at ddealltwriaeth o "bwysigrwydd cynhwysiant, gan gynnwys cynhwysiant i bobl LHDTC+, ymddygiad anwahaniaethol a gwerth amrywiaeth yn ein hymddygiadau rhyngbersonol a'n cydberthnasau".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth mai'r nod oedd "sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr a'u cymunedau, i'w diogelu a'u cadw'n saff".

Wrth ganiatáu cais y grŵp i herio'r cynlluniau drwy'r llysoedd, dywedodd y barnwr Uchel Lys, Mr Ustus Turner, bod y materion a godwyd ganddynt yn gofyn am "ystyriaeth o faterion cyfansoddiadol cymhleth, gyda'r potensial i fod â chanlyniadau arwyddocaol i rieni a phlant".

Yn ôl y grŵp bydd yr achos yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, ar ddyddiad i'w bennu.