3 Llun: Lluniau pwysicaf Welsh Whisperer
- Cyhoeddwyd
Y canwr a'r cyflwynydd Welsh Whisperer sy'n dewis y tri llun sy'n agos at ei galon. Ni'n beilo nawr!
Dyma lun o ddyn o'r enw Gwyn Howatson, un o fois y JCB o Ddyffryn Clwyd. 'Sai'n perthyn i Gwyn a doeddwn i ddim yn ei 'nabod pan dynnwyd y llun yma mewn ras aredig yn Sarn Mellteyrn, Pen Llŷn tua 2017.
Wnes i ddewis y llun oherwydd mae'n cynrhychioli'r peth rwy'n hoffi fwyaf am y sefyllfa dwi'n ffeindio fy hun ynddo, sef cael teithio'r wlad yn llawn-amser a chyfarfod pobl dda o bob cornel o Gymru.
Erbyn hyn mae Gwyn a nifer tebyg iddo wedi dod yn ffrindiau 'da i fi, ac yn siŵr o fod yn y rhes flaen pan fyddai ar ei batsh!
Ar ôl peidio gallu priodi yn iawn yn ystod y cyfnod clo roedd yn wych cael priodi Angharad o'r diwedd yn 2022, a chael rhannu'r diwrnod gyda ein merch Begw.
Diwrnod a noson arbennig o dda yn Llanberis, pentref genedigol Angharad. Daeth y cheque book mas, sai'n dweud mwy!
Mae canu mewn sioeau amaethyddol mawr yn fraint ac yn rhywbeth 'dwi wedi bod yn ffodus iawn i wneud dros y blynyddoedd.
Yn fwy na dim ond cael canu o flaen torf fawr, sydd ddim bob tro yn digwydd yn y byd adloniant Cymraeg, mae mor galonogol pan mae cannoedd yn bloeddio geiriau dy ganeuon yn Gymraeg.
Wnes i ddewis y llun yma hefyd oherwydd faint dwi'n edmygu trefnwyr nosweithiau fel hyn. Does dim llawer o nawdd i'r digwyddiadau yma a bendant dim ar raddfa rhai o'r gwyliau mawr, ond maen nhw'n llwyddo i greu nosweithiau o adloniant heb eu hail yn rhai o'r ardaloedd sydd yn asgwrn cefn i ddiwylliant a iaith Cymru, cefn gwlad.
Hefyd o ddiddordeb: