Dedfrydu tri am yrru car at bobl ar brom Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd un cerddwr ei anafu yn y digwyddiad ar Marine Terrace

Mae tri dyn wedi eu dedfrydu yn dilyn digwyddiad "gwarthus" pan gafodd car ei yrru at gerddwyr ar bromenâd Aberystwyth.

Cafodd un cerddwr ei anafu yn y digwyddiad ar Marine Terrace yn oriau man bore Sadwrn 5 Hydref, 2019.

Dangosodd fideo o'r digwyddiad y car gwyrdd yn gyrru ar gyflymder a rhwng cerbydau eraill tuag at bobl.

Roedd y tri dyn, Richard Allen, 31 o Birmingham, Darren Dragoonis, 35 o Birmingham, a Jack Smith, 27 o Solihull, wedi pledio'n euog i achosi ffrwgwd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ar y pryd

Yn ogystal, fe wnaeth Allen gyfaddef achosi niwed i gell heddlu a thorri amodau mechnïaeth, ac fe gafodd ddedfryd 22 mis wedi ei gohirio am flwyddyn.

Roedd Smith hefyd wedi cyfaddef bod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant, ac fe gafodd ddedfryd 16 mis wedi ei gohirio am flwyddyn.

Cafodd Dragoonis hefyd ddedfryd 16 mis wedi ei gohirio.

Bydd yn rhaid i'r tri wneud 150 awr o waith di-dâl.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees bod y digwyddiad yn un "gwarthus", ar ôl i'r tri gael "croeso" yn Aberystwyth.

"Nawr eich bod chi'n dadau, sut y byddai'n teimlo petai eich plant yn mynd allan i Aberystwyth a gweld rhywbeth fel hyn?", meddai.

Dywedodd y barnwr bod y dynion yn "llawn haeddu mynd i'r carchar", ond eu bod wedi "aeddfedu" ers y digwyddiad.

Bydd yn rhaid cwblhau'r gwaith di-dâl o fewn 12 mis.

Pynciau cysylltiedig