Teyrngedau i'r cynghorydd Hag Harris o Lanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd
Y Cynghorydd Hag Harris
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Hag Harris a fu farw ddydd Mawrth

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gynghorydd poblogaidd a oedd wedi cynrychioli pobl Llanbedr Pont Steffan ers degawdau.

Bu farw Hag Harris, 66, ddydd Mawrth.

Roedd Robert George Harris, i roi ei enw bedydd, yn aelod o Gyngor Ceredigion ers ei sefydlu yn 1995 a chyn hynny, yn aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981.

Roedd newydd gael ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiadau ddechrau'r mis - yr unig aelod Llafur ar Gyngor Ceredigion.

Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Tref Llambed, a bu'n faer y dref sawl gwaith.

Ond roedd hefyd yn adnabyddus am ei siop recordiau - Hag's - a gaeodd yn 2016 ar ôl 37 o flynyddoedd.

Dysgu Cymraeg yn rhugl

Yn wreiddiol o Coventry, astudiodd Mr Harris ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Llambed, cyn setlo yn y dref a dysgu Cymraeg yn rhugl.

Bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol am gyfnod, ac roedd yn ddilynwr pêl-droed brwd, gan wasanaethu fel dyfarnwr a swyddog yng nghynghreiriau Cymru.

Roedd yn aelod o gabinet y cyngor sir rhwng 2012 a 2017, ac yn gadeirydd rhwng 2018 a 2019.

Roedd baneri'r cyngor sir yn chwifio ar hanner mast ddydd Mercher, er cof amdano.

Disgrifiad o’r llun,

Siop recordiau Hag's yn Llambed, a gaeodd yn 2016

Mewn teyrnged iddo ar Facebook dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones, ei fod wedi cefnogi Llambed "ble bynnag yr âi".

"Newyddion trist iawn i Lambed heddi gyda marwolaeth annisgwyl Hag Harris. Bydd y dre' yn dawel am hir heb Hag," meddai.

A dywedodd AS Ceredigion, Ben Lake fod Mr Harris wedi gwasanaethu Llambed fel cynghorydd tref a sir am ddegawdau, "gan wneud cyfraniad sylweddol i holl fudiadau a digwyddiadau'r dref".

"Mae'r dref wedi colli un o'i hoff gymeriadau heddiw, ond mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu a ffrindiau agos."

'Llais clir a chadarn'

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion fod y newyddion am ei farwolaeth wedi "dod yn sioc fawr i ni gyd".

"Roedd yn... llais clir a chadarn i'w drigolion ac i'r dref a oedd mor agos at ei galon," meddai.

"Roedd Hag wastad yn barod ei gymwynas ac i gynnig geiriau o gefnogaeth neu ddoethineb ar draws llawr y Siambr; mi welwn eisiau ei gymeriad hoffus.

"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'i gymar yn eu profedigaeth."

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol bod y "gwaith a wnaed gan Hag a'i ymroddiad i'r sir dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy".

Mae'r gadael ei bartner, Eiry.

Pynciau cysylltiedig