Ciarán Eynon yn cipio Cadair Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Ciarán Eynon wrth ei fodd wrth ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2022

Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain ar ôl astudio mathemateg ym Mhrifysgol Warwick a gwneud cwrs meistr Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe ddaeth Ciarán - sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn - yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Prif Lenor Eisteddfod T y llynedd.

Mae'n brofiadol ar lwyfan yr Urdd hefyd ac wedi dod i'r brig yn y cystadlaethau llefaru unigol sawl gwaith.

Roedd yn olygydd cyntaf 'Ffosfforws' yn 2021, sef cyfnodolyn barddoniaeth newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan gylchgrawn Y Stamp.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Landrillo-yn-Rhos, mae Ciarán bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain

Roedd gofyn i ymgeiswyr eleni lunio cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y thema 'Diolch'.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Eurig Salisbury a Peredur Lynch.

'Dawn amlwg o agoriad y darn hyd y diwedd'

Dywedodd y ddau eu bod yn unfrydol mai Ciarán oedd "heb unrhyw amheuaeth, bardd gorau'r gystadleuaeth".

Ymdrin â rhywioldeb ac anallu'r Gymraeg i roi mynegiant i'r rhywioldeb hwnnw y mae'r gerdd.

Yn y feirniadaeth, dywedodd y beirniaid bod gan Ciarán "afael sicr ar iaith, y gallu i amrywio cyweiriau ieithyddol ac ymwybyddiaeth gadarn o seiliau rhythmig mesur y wers rydd.

"Dyma fardd sy'n ymdeimlo 'nad yw'r Gymraeg / yn siarad iaith Ru Paul'. Ond, erbyn diwedd y gerdd, a'r bardd bellach yn arddel ei rywioldeb yn agored, awgrymir nad oes rhaid iddo 'ddeisyfu llwybr amgenach' ac ymwrthod â'r Gymraeg fel cyfrwng creadigol".

Bydd Ciarán - ynghyd â'r cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos - yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Gwyn, Tegwen Bruce-Deans a Ciarán Eynon oedd y tri ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth i ennill y Gadair a wnaed gan Rhodri Owen o Ysbyty Ifan

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gruff Gwyn o Fachen, Caerffili ac yn drydydd oedd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed.

Yn gynharach yn yr wythnos fe gipiodd Osian Wynn Davies y Fedal Ddrama, a Josh Osborne aeth â Medal y Dysgwyr.

Fe gafwyd yr enillydd ieuengaf erioed i brif wobrau'r Urdd, wrth i Shuchen Xie, 12, ennill y Fedal Gyfansoddi.