Y Jiwbilî: Dug, Duges a'u plant yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dug a Duges Caergrawnt gyda'r Tywysog George a'r Dywysoges CharlotteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dug a Duges Caergrawnt yn cyrraedd Castell Caerdydd gyda'r Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte

Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld â Chastell Caerdydd ddydd Sadwrn fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Blatinwm.

Fe ddaeth y Tywysog William a Kate Middleton â'u dau blentyn hynaf, y Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte, gyda nhw i'r brifddinas.

Dyma oedd ymweliad swyddogol cyntaf y ddau blentyn â Chymru.

Aled Jones a Shân Cothi sy'n cyflwyno'r cyngerdd ac mae Bonnie Tyler, Owain Wyn Evans a rhai o gantorion y West End ymysg y perfformwyr.

Fe wnaeth y gwestai arbennig wylio ymarfer olaf y perfformwyr yng Nghastell Caerdydd a chwrdd â'r criw cynhyrchu i ddysgu mwy am eu gwaith a chael blas ar sut mae'n nhw wedi rhoi'r cynhyrchiad at ei gilydd o ran y goleuo a'r sain.

Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William a Kate Middleton yn cwrdd â pherfformwyr gefn llwyfan, fel Bonnie Tyler ac Owain Wyn Evans

Disgrifiad,

'Dangos y drymiau a ga'l bach o hwyl yn eu cwmni'

Dywedodd Bonnie Tyler bod y Tywysog William wedi ei llongyfarch am dderbyn MBE yn rhestr anrhydeddau'r Jiwbilî Blatinwm.

"Dywedodd wrtha'i 'Wnes i chwarae rhywfaint o eich cerddoriaeth ar y ffordd i lawr fel y bydde'r plant yn gwybod' - onid yw hynny'n hyfryd?

"Dywedais innau wrtho fe fy mod wedi cwrdd â'i fam yma yng Nghaerdydd mewn ysbyty yn yr Wythdegau."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Duges Caergrawnt a'r Dywysoges Charlotte yng Nghastell Caerdydd

Roedd yna gyfle hefyd i sgwrsio ag aelodau'r cyhoedd oedd yn aros i gael cipolwg arnyn nhw yng Nghaerdydd.

Dywedodd Emma Thomas, sy'n byw yng Nghaerdydd: "Cerddodd y Tywysog George ata'i, ysgwyd fy llaw a dweud 'George wyf i'.

"Roedd y Dywysoges Charlotte yn llygadu esgidiau disglair y fenyw a roddodd y blodau i Kate.

"Dywedodd Kate na ddaethon nhw â Louis [eu plentyn ieuengaf] oherwydd y byddai'n rhwygo'r lle'n ddarnau!"

Mae aelodau blaenllaw eraill y teulu brenhinol wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban fel rhan o'r dathliadau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu brenhinol yn sgwrsio ag aelodau'r cyhoedd ddechrau'r prynhawn

'Pawb yn mwynhau sy'n bwysig'

Un o'r perfformwyr fu'n cwrdd â'r teulu brenhinol yw'r diddanwr John Owen Jones, sydd wedi portreadu Jean Valjean yn y sioe Les Miserables.

Dywedodd ar drothwy'r ymweliad: "Mae wastad yn hyfryd i allu perfformio yng Nghymru, ac mae'n fraint i fod yn rhan o'r cyngerdd i ddathlu'r Jiwbilî. Hyd yn oed gyda barnau gwahanol ar y frenhiniaeth, mae'n gyfle da i bobl fwynhau a dathlu.

"Mae'n gyflawniad arbennig i'r Frenhines gyrraedd 70 mlynedd ar ei gorsedd. Fi'n cofio dathlu'r Jiwbilî arian pan roeddwn i'n blentyn yn 1977. Mae'n arbennig bod pawb yn gallu dathlu'r achlysur yma nawr ar ôl y cwpl o flynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n braf gallu dathlu'r achlysur ar ôl y cyfod clo,' medd John Owen Jones

"Ddydd Sadwrn byddai'n rhan o'r perfformiad theatr gerdd, lle fyddwn ni'n canu'r caneuon mwyaf poblogaidd o Gymru. Byddai'n canu 'Delilah' ar ddiwedd y cyngerdd. Dylse hwnna fod yn hwyl.

"Fi'n credu'r peth mwyaf pwysig amdano yw bod pawb yn mwynhau eu hunain ac yn mwynhau'r gerddoriaeth hefyd.

"Byddai hefyd yn perfformio gyda Chôr Meibion Pendyrys. Dwi'n edrych ymlaen at hwnna hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Torf yn aros am gipolwg o'r gwestai arbennig tu allan i Gastell Caerdydd

Richard Perry o Bort Talbot yw cynhyrchydd y cyngerdd. Mae'n dweud ei fod yn "hynod o gyffrous".

"Ni wedi bod yn edrych ymlaen am fisoedd at y cyngerdd ac wedyn roeddwn ni'n hynod o gyffrous pan wnaethon ni glywed bod y Dug a Duges Caergrawnt yn dod i ymweld â ni. Yna wnaethon ni glywed bod Bonnie Tyler wedi derbyn yr MBE - felly mae popeth wedi dod at ei gilydd yn arbennig o dda.

"Mae'r côr plant wedi bod yn ymarfer am chwe wythnos. Mae'r côr yn cynnwys ysgolion a grwpiau ar draws De Cymru. Mae cwmni dawnsio Rubicon hefyd yn dod lawr, felly bydd gweithdy gyda nhw.

"Felly rydyn ni wir yn gyffrous am y rhan mawr mae'r gymuned yn ei chwarae yn y cyngerdd a hefyd y ffaith bod amrywiaeth o bobl ar y llwyfan - o bobl ifanc i gorau meibion. Felly rydyn ni'n dangos agweddau gwahanol o'n traddodiadau.

"Un o'r pethau roeddwn ni eisiau gwneud pan roeddwn ni'n cynllunio'r sioe oedd cael pobl o bob oedran i fod yn rhan o'r sioe, ac i roi cyfle i bobl ifanc.

"I ni, o'n ni wir eisiau dathlu popeth Cymreig a beth mae bywyd wedi bod fel dros y 70 mlynedd diwethaf.

"Mae'r ffaith fod pobol dalentog Cymru gyda llwyfan fel hyn, sydd yn cydfynd â'r jiwbilî, mae'n gwneud fi'n falch iawn."

'Llawn cyffro'

Un arall sy'n cymryd rhan ydi Millie Davies, 21, o Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Andrew Perry
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Millie Davies ei bod yn llawn cyffro

"Dwi i mor gyffrous ac yn nerfus! Dwi'n ddiolchgar iawn i'r tîm o Live Under the Stars sydd wedi rhoi'r cyfle yma i mi gymryd rhan yn y cyngerdd.

"Dwi di bod yn gweithio gyda nhw ers rhai blynyddoedd. Un o fy swyddi proffesiynol cyntaf oedd gyda Richard Perry a John Manders a maen nhw yn wych yn hyrwyddo talent newydd a pherfformwyr Cymreig.

"Ma' wastad wedi bod ar fy bucket list i gwrdd efo'r teulu brenhinol. Mae Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn ddigwyddiad unwaith mewn oes ac mae'n syfrdanol bo fi yn cael cyfle i berfformio a bod yn rhan o'r dathliadau.

"Dyma fydd y tro cyntaf i fi gwrdd â'r teulu brenhinol - rwy'n edrych ymlaen i weld Dug a Duges Caergrawnt - wi ddim siŵr sut rwy fod i ymddwyn o amgylch y teulu brenhinol! Ma' mor gyffrous."

Pynciau cysylltiedig