Boris Johnson yn ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bleidlais ei chynnal rhwng 18:00 a 20:00 nos Lun

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth a hynny o 211 i 148.

Mae yna 359 o aelodau seneddol Ceidwadol, ac roedd angen 180 er mwyn sicrhau mwyafrif.

Pwyllgor 1922 sef pwyllgor o Geidwadwyr meinciau cefn a fu'n cyfrif y pleidleisiau ac fe wnaed y cyhoeddiad gan gadeirydd y pwyllgor hwnnw, Syr Graham Brady.

Wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Johsnson fod y canlyniad yn un "eithriadol o dda, yn un terfynol a phendant" sy'n caniatáu'r blaid i "symud 'mlaen".

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Sir Keir Starmer, fod y blaid Geidwadol yn "rhanedig" er i'r prif weinidog oroesi'r bleidlais o hyder.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, bod ei "enw da yn deilchion" a dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, bod "awdurdod Boris Johnson wedi ei rwygo".

Er mwyn sicrhau pleidlais yn y lle cyntaf roedd angen i 54 o ASau Ceidwadol anfon llythyr yn galw am hynny.

Dyw hi ddim yn glir faint yn union o ASau wnaeth hynny, ac fe allai fod yn llawer uwch na'r 54 oedd ei angen.

Anfodlonrwydd ar ôl i Boris Johnson dderbyn dirwy am dorri rheolau Covid yn ystod y pandemig oedd wrth wraidd y bleidlais.

Roedd hynny wedi cynyddu ar ôl cyhoeddi adroddiad Sue Gray - adroddiad i ymddygiad gweision sifil a'u harweinyddion gwleidyddol ar ôl i nifer o bartïon gael eu cynnal yn ystod cyfnod y pandemig.

Cefnogaeth ASau Cymreig i Boris Johnson

Wedi'r bleidlais, dywedodd Simon Hart - ysgrifennydd Cymru ac un o'r Ceidwadwyr wnaeth ddatgan ei gefnogaeth yn gynharach ddydd Llun - fod gan Mr Johnson "lawer i'w brofi" ar ôl "pennod anodd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Boris Johnson "lawer i'w brofi" yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, ond mae'n dweud bod ganddo gefnogaeth

"Pan gafodd e ei ethol fel arweinydd yn 2019 fe gafodd e 51% o'r bleidlais a mae e newydd gael [tua] 60% o'r bleidlais heno," dywedodd.

"Felly mae nifer sylweddol eisiau iddo aros nag sydd eisiau iddo fynd.

"Wrth gwrs, mae ganddo lawer i'w brofi - mae gennym ni gyd lawer i'w brofi - mae wedi bod yn bennod anodd."

Dywedodd bod angen i Mr Johnson weithio i gyflawni'r hyn a addawodd yn 2019 gan fod cyfle ganddo i wneud hynny nawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Cairns, cyn Ysgrifennydd Cymru, wedi trydar ei gefnogaeth i Mr Johnson

Roedd pedwar AS Ceidwadol arall o Gymru sef David TC Davies (Sir Fynwy), Alun Cairns (Pen-y-bont), Simon Baynes (De Clwyd) a Craig Williams (Maldwyn) hefyd wedi lleisio eu cefnogaeth i Boris Johnson.

Yn gynharach ar y Post Prynhawn dywedodd David TC Davies ei bod yn bwysig cael sefydlogrwydd.

"Beth sy'n bwysig nawr yw cael sefydlogrwydd," meddai.

"Mae'r prif weinidog wedi cael pleidlais o fwyafrif fawr gan y cyhoedd tua dwy flynedd yn ôl - os mae'r cyhoedd wedi cael digon o Boris ma nhw'n gallu mynegi eu barn mewn etholiad cyffredinol mewn dwy flynedd."

Dadansoddiad Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru

Mae Boris Johsnon yn saff am nawr, ac mae ei gefnogwyr yn dadlau ei fod wedi ennill yn gyfforddus. Ac er nad ydy o yn gallu wynebu her arall am flwyddyn dan y rheolau presennol, dyw hon ddim yn broblem sydd yn mynd i ddiflannu.

Mae 41% o'i blaid eisiau iddo fynd, mwy nag oedd llawer wedi ei ddychmygu.

Mae Boris Johnson nawr yn wynebu dau is-etholiad anodd iawn ar 23 Mehefin yn Wakefield a Tiverton a Honiton.

Os yw'r Ceidwadwyr yn colli'r seddi yna fel mae nifer yn darogan, yna dim ond cynyddu fydd y pwysau ar ei arweinyddiaeth.

Felly, mae o'n parhau fel arwienydd am y tro, ond mae o wedi'i niweidio'n sylweddol heno.

Y tro diwethaf i brif weinidog Ceidwadol wynebu pleidlais ar eu harweinyddiaeth oedd Thesera May.

O ran cyfran y bleidlais, roedd y 59% a gafodd Mr Johnson yn is na'r 63% a gafodd Theresa May yn 2018.

Er iddi ennill y bleidlais, fe ymddiswyddodd chwe mis yn ddiweddarach.