Hywel Gwynfryn: Oriel atgofion pen-blwydd 80
- Cyhoeddwyd
Wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed fis Gorffennaf 2022 mae'r darlledwr adnabyddus o Ynys Môn yn hel atgofion gyda Cymru Fyw am rai o luniau mwya' arwyddocaol ei fywyd a'i yrfa ryfeddol mewn saith degawd o ddarlledu.
Y 'boy scout'
Llun ohono i fel boy scout yn Llangefni ydi hwn, yn y Beaver Patrol. Dwn i ddim be ydi o yn y Gymraeg, ond alla' i dal wneud cwlwm sheep shank, sef ffordd o fyrhau rhaff heb ei thorri hi.
Doedd 'na unlle i chi fynd i fwynhau gweithgareddau'r Urdd yn Llangefni ar y pryd felly fan'na oedda ni'n mynd i gwt y boy scouts yn Llangefni, neu i'r Dingle i chwarae cowbois ac Indians a commandos…
Ges i blentyndod ofnadwy o hapus. Ro'n i'n unig blentyn ac yn colli'r ffaith nad oedd gen i ddim brawd ond roedd gen i lot o ffrindiau ac roeddan ni'n diddori ein hunain. Doedd 'na ddim fideo, dim Nintendo, roeddat ti'n gwneud dy hwyl dy hun - roedd hi'n hwyl jest dringo coeden i weld pwy fedrai gyrraedd reit i'r pigyn uchaf.
Unwaith nes i fynd i'r chweched dosbarth ro'n i'n daer awyddus i adael Llangefni a mynd i Gaerdydd. Ro'n i wedi clywed Mam yn sôn lot am Gaerdydd, gan ei bod yn gweithio i'r BBC fel mae'n digwydd, adeg y rhyfel.
Unwaith ro'n i wedi gosod fy nghalon ar fynd i Gaerdydd a mynd yno, ro'n i'n mynd yn ôl i Langefni ar y dechrau i weld ffrindiau ac ati. Ond mae bywyd pawb yn newid ac roedd Llangefni yn newid; roedd ffrindiau wedi gadael dros y blynyddoedd, colli teulu. Nid yn unig ro'n i wedi gadael Llangefni ond roedd Llangefni wedi fy ngadael i.
Cyfle: Hob y Deri Dando a Heddiw
Mae hwn yn lun reit hanesyddol yn fy ngyrfa i; fe gafodd hwn ei dynnu ar y dydd Sadwrn cyn i mi gychwyn fel darlledwr proffesiynol efo rhaglen cylchgrawn ddyddiol Heddiw ar y dydd Llun. Roeddan ni yn canu deuawd Hang Down Your Head Tom Dooley a finna wedi cyfieithu'r geiriau Cymraeg.
Derek Boot sydd ar y bas - a ninna yn fêts mawr yn yr ysgol. Roeddan ni'n perfformio mewn cyngherddau yno a phwy ddaeth yno i wylio un diwrnod ond Meredydd Evans. Roedd wedi dod yn ôl o America ac roedd o ar fin sefydlu adran adloniant ysgafn gyda'r BBC ac wedi dechrau chwilio am dalent.
Welodd o ni'n canu a mi gofiodd hynny. Felly pan wnaethon ni fynd lawr i Gaerdydd i'r coleg ddaeth o mewn cysylltiad efo ni a dyna sut ddaethon ni gael cyfle i fod ar Hob y Deri Dando, a finna'n dechrau efo Heddiw wedyn ar y dydd Llun efo John Roberts Williams - cyn-olygydd ffantastig Y Cymro.
Dwi bob amser yn dweud bod gen i ddau fentor cynnar - Merêd oedd yn ddisgyblwr reit llym a John Roberts Williams oedd yn dadol iawn; felly roedd y naill yn cicio fy nhin a'r llall yn fy nghanmol i, felly cyfuniad perffaith.
Gair i gall ar ddechrau gyrfa
Ar ôl ychydig, roedd pobl yn dod ata' i ac yn dweud "'Da chi ar y telefision". Ro'n i'n dechrau mynd yn berson adnabyddus… ac roedd angen delio gyda hynny.
Dwi'n cofio bod yn Heddiw rhyw noson yn cael colur. Mi ddaru'r ferch golur, oedd wedi gweithio yn y byd teledu a byd sinema, ddweud: "Ga'i jest deud gair bach wrtha' chi..."
Roedd hi'n siarad efo rhywun oedd newydd ddechrau a dyma hi'n deud, yn Saesneg: "Two things - number one, you're made for this business I can tell, the camera likes you, you like the camera… you have a career.
"However, I have to say this for your own good - if you carry on behaving as you are and thinking you're the great I am then you might have to build a studio just to contain your ego."
Be' oedd hi'n ddweud oedd 'Rwyt ti'n aelod o dîm boi - ti ydi'r gadwyn olaf yn y tsiaen ond rhan o gadwyn wyt ti. Mae pawb wedi paratoi - yr ymchwilydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, boi golau, boi sain, yr ysgrifenyddes, mae pawb yn aelod o'r tîm.' A dwi wedi cofio hynny erioed gobeithio a wedi trio byhafio fel aelod o dîm heb feddwl mai fi 'di Ronaldo a bod neb arall yn bwysig.
Cyfarfod Muhammad Ali
Roedd Caradog Prichard yn ffrindiau mawr efo John Roberts Williams, golygydd Heddiw, dau newyddiadurwr wrth gwrs, a Mati Prichard, gwraig Caradog, oedd ein fficsar ni yn Llundain.
Roedd Mati wedi ffonio John i ddweud bod Cassius Clay, fel oedd o bryd hynny, yn Llundain ar gyfer ffeit Henry Cooper yn 1966 ac y galla' hi gael caniatâd i mi dreulio amser efo Muhammad Ali.
Dwi wedi mynd i fyny ato yn fama, ac yn pwyso ar y rhaff i gyflwyno fy hun a chadarnhau'r trefniadau… ac yn gofyn yn ffurfiol iddo fo os ga'i dri neu bedwar munud nes ymlaen i holi'r dyn mawr. Ac mi ddudodd o 'iawn'.
Yn ei 'stafell newid o wedyn ges i sgwrs ac ro'n i wedi dod â llyfr o gerddi Syr Thomas Parry-Williams efo fi. Felly pan o'n i'n ei holi dyma fi'n dweud bod y cerddi yma wedi eu sgwennu yn yr iaith Gymraeg gan y bardd mwya' yn fyw yn fy nhŷb i, Syr Thomas Parry-Williams.
A'i lein o oedd "I know the guy".
Caryl a fi
Mae Caryl fel chwaer, ond ddim ym mhocedi ein gilydd. 'Da ni fel brawd a chwaer - byth yn gweld ein gilydd ond pan ydyn ni'n cyfarfod, yn cael lot o hwyl.
Ddaethon ni at ein gilydd i sgwennu pantomeim i Dafydd Hywel, a wedyn nes i sgwennu Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig efo hi - un o'r ffilmiau cynta' ar S4C ar ddechrau 80au - a wedyn cydweithio ar bethau eraill yn fwy diweddar.
Nes i sgwennu geiriau i Bando, y grŵp roedd hi ynddo yn yr 80au - Wstibe, cân am bersonoliaeth teledu yn y cyfnod ond wnai ddim ei enwi fo… boi oedd yn ffansio ei hun yn fawr iawn.
A hefyd Shampŵ. Ges i alwad ffôn gan Caryl: "Hyw, 'da ni gân yn fyr i'r LP yma…" a ma'n rhaid ei bod hi'n andros o brysur achos doedd neb yn sgwennu stwff i Caryl - roedd hi mor dalentog roedd hi'n gerddor ac yn sgwennu geiriau.
Pan ges i'r alwad ro'n i'n mynd i gael gwneud fy ngwallt mewn siop yng Nghaerdydd, un o'r rhai unisex cynta', dynion a merched yn yr un lle i wneud eu gwallt. Es i yna a tra'n eistedd lawr mi welwn i'r boi ifanc yma yn gwneud gwallt y ferch yma, a'i blows 'chydig bach ar agor rhag i'r sebon fynd lawr ei dillad a'r dŵr yn mynd i lawr y gwegil ac i'r ddesgil... roedd o'n handi iawn bod y ddau air yna'n odli…
Y cwbl ydi'r gân ydi disgrifiad o foi yn trin gwallt merch ifanc… ychydig iawn o bobl sy'n gwybod mai fi sydd wedi sgwennu'r caneuon… a wnaeth Caryl alw'r LP yn Shampŵ.
Byw gyda llwyth yr Iban
Dwi wedi cael tripiau ffilmio anhygoel ond faswn i'n dweud mai ohonyn nhw i gyd, hon oedd taith y teithiau.
Ro'n i yn Sarowak, reit wrth ymyl Borneo. Roeddan ni wedi mynd i fyny'r Afon Skrang mewn canŵ, neu be oedd o mewn gwirionedd oedd coeden wedi ei siapio fel canŵ, nes ddaru ni gyrraedd pentref cyntefig llwyth yr Iban.
Roedd tua 30-40 ohonyn nhw yn byw mewn tŷ hir a thu allan i'r tŷ hir roedd yna benglogau oedd yn perthyn i elynion llwyth yr Iban dros y blynyddoedd os nad y canrifoedd…. Roedd eu cyndeidiau yn llythrennol, hen daid - ddim yn bell iawn yn ôl - yn ganibaliaid - roedden nhw'n rhyfelgar iawn. Be' oedd y ffilm oedd wythnos yn hanes pentref yr Iban a finne yn gwneud bob dim oedden nhw'n ei wneud.
Dwi'n cofio mynd allan i hela efo blow pipe - sef ffon bambŵ a'r canol wedi ei losgi felly roedd o fwy fel peipen. Roedden nhw'n gwenwyno blaen y dart mewn coeden oedd yn arbennig o wenwynig, sticio hwn i fewn a'i droi a rhoi'r darten mewn cadach o gwmpas y gwregys.
Roeddan ni'n bwyta eu bwyd - Duw a ŵyr be' oedden ni'n ei fwyta - a cysgu ar y llawr ar matting… doedd neb yn gwybod lle oeddan ni pan ti'n meddwl am y peth rŵan.
Dipyn o glown
Roeddan ni yn Florida yn ffilmio a nes i dreulio wythnos efo syrcas Barnum a Bailey - ar y pryd syrcas mwya' enwog America, os nad y byd.
Ges i fy hyfforddi sut i fynd ar trapîs a cherdded weiren, a'r uchafbwynt oedd dysgu sut i fod yn glown a dysgu routine clown a'i berfformio mewn sioe fyw. Roedd gen i sgididau mawr clown am fy nhraed ac ro'n i'n smalio baglu, roedd yna gar yn mynd heibio ac ro'n i'n neidio mewn a'r car yn chwalu.
Ac mi ddywedodd y prif glown wrtha i: "Anytime you want a job kid you've got a job as a clown in this circus!"
Anja ac Anfonaf Angel
Llun ydi hwn sy'n dangos pwysigrwydd cefnogaeth teuluol. Roedd Anja yn gefnogol - un oedd yn y busnes ei hun ac yn deall nad oedd teithio i bellafoedd byd ddim yn hwyl i gyd. Roeddat ti ffwrdd o gartref ac â hiraeth yn aml iawn.
A wnaeth Anfonaf Angel ddilyn o hynny, pan o'n i'n ffilmio yn Tokyo. Do'n i methu mynd i gysgu ac yn clywed sŵn y ddinas yn dod trwy'r ffenestri… ges i deimlad o bresenoldeb yn y 'stafell... a nes i gofio bod Anja wedi dweud wrtha' i 'Dwi'n gwybod dy fod di'n mynd i ffwrdd a dwi 'di trefnu bydd angel ar ben y gwely ac un ar droed y gwely i edrych ar dy ôl di', rhywbeth bach neis iawn mae cypla yn ddeud i'w gilydd… a ro'n i'n gweld o fel symbyliaeth i gân, a hi ydi fy angel i.
Ac er mod i wedi ei cholli hi yn gorfforol dwi'n teimlo mod i'n troi ati a be' dwi'n ddweud yn aml, a mi ydan ni'n ei ddeud o fel teulu, 'Be' fasa Mam yn deud a be' fasa Mam yn neud?' A mae'n dda bod gen ti hynny - mae hi'n dal yn rhan o'r bywyd.
Anya fach
Anya fach, neu Shwshi fel da ni'n ei galw hi, ydi hon efo fy wyres. Fe ddaru hi ganu'r gân Anfonaf Angel ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol - fersiwn syml iawn, ac roedd hwnna yn foment reit emosiynol pan ti'n meddwl am eiriau'r gân… a hi'n canu i'w mam.
Dwi'n unig blentyn ond dwi heb fod yn unig achos mae gen i homar o deulu mawr. Fel mae Huw [y mab] yn ddeud, "'Da'n ni'n dîm, Dad". Ac rydyn ni'n gweithredu fel tîm, 'da ni'n gwylio cefnau'n gilydd a dwi'n rhan o'r tîm iddyn nhw.
Un peth dwi'n ddweud pan mae pobl yn gofyn 'Sut 'nathoch chi fagu saith o blant?' - mewn dwy briodas wrth gwrs. Ac oes, mae dwy briodas ond un teulu.
Sut ydw i'n edrych nôl rŵan mod i'n 80? Rhywbeth i eistedd arni ydi carreg filltir cyn symud yn dy flaen… i fi mae'r daith yn mynd yn ei blaen.
Mynd yn iau wrth fynd yn hŷn… fel ddudodd Syr Thomas Parry-Wiilliams… mae o i gyd yn y meddwl.
Hefyd o ddiddordeb: