Teulu'n mynd ag ymgyrch 'Cyfraith Jade' i Dŷ'r Cyffredin

  • Cyhoeddwyd
Jade MarshFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jade Ward ei lladd gan Russell Marsh wrth i'w pedwar mab gysgu yn y tŷ

Mae teulu dynes o Sir Y Fflint a gafodd ei lladd gan ei gŵr wedi iddyn nhw wahanu, yn mynd â'u hymgyrch i sicrhau nad oes ganddo lais ym magwraeth eu plant i San Steffan ddydd Mercher.

Cafodd Jade Ward, 27, ei thrywanu a'i thagu gan Russell Marsh yn ei chartref yn Shotton fis Awst 2021 wrth i'w pedwar mab ifanc gysgu.

Cafodd Marsh ddedfryd o garchar am oes ym mis Ebrill a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.

Dywed teulu Ms Ward eu bod wedi mynd ati i ymgyrchu ar ôl dod i wybod bod hawl gan Marsh, dan y ddeddf bresennol, i fod yn rhan o benderfyniadau'n ymwneud â'i blant.

Maen nhw bellach yn pwyso am gyfraith yn enw Jade er mwyn atal Marsh a throseddwyr tebyg rhag cael llais ym magwraeth eu plant.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Russell Marsh yn treulio o leiaf 25 mlynedd yn y carchar am ladd mam ei blant

Fe wnaethon nhw drefnu deiseb ar-lein ddeufis yn ôl yn galw am ddiddymu'n awtomatig hawliau rhieni sydd wedi eu cael yn euog o ladd cymar. Hyd yn hyn mae'r ddeiseb wedi denu bron i 120,000 o lofnodion.

Mae mam Ms Ward, Karen Robinson a'i chwaer Philippa ymhlith y perthnasau sy'n cwrdd ag AS Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, ac aelod cyfiawnder yr wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher i drafod cael y maen i'r wal yn y Senedd.

'Mae'r baich ar y teulu'

Dywed Mr Tami bod cyfrifoldeb rhieni'n parhau fel ag y mae pan fo un rhiant yn lladd y llall, ac mae'n rhaid i berthnasau a gwarchodwyr ymgynghori â'r rhiant yna ar faterion yn cynnwys iechyd, addysg a theithio.

Byddai'n "drawmatig", meddai, i deulu Jade Ward orfod mynd trwy wrandawiadau llys teulu gyda'r dyn a'i lladdodd.

"Bob tro maen nhw'n mynd ar wyliau, neu petai argyfwng iechyd yn ymwneud â'r plant, mae gan y tad, hawl nacáu, mewn gwirionedd.

"Ar hyn o bryd, mae'r baich ar y teulu i brofi pam y dylid diddymu ei gyfrifoldeb rhieni, ond mae Cyfraith Jade yn galw am atal cyfrifoldeb rhieni yn awtomatig dan amgylchiadau fel rhain.

"Dyna sy'n gywir a byddaf yn cefnogi teulu a ffrindiau Jade bob cam o'r ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Jade, Karen Robinson a'i chwaer Philippa'n gobeithio dwyn perswâd at wleidyddion yn San Steffan

Mae Mr Tami wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, yn galw arno i gefnogi Cyfraith Jade.

Wrth lansio'r ymgyrch ddeufis yn ôl fe fynegodd mam Jade, Karen Robinson, awydd i sicrhau bod "rhywbeth da" yn dod o farwolaeth ei merch.

Ychwanegodd: "Os allwn ni helpu teuluoedd eraill fydd, yn anffodus, yn mynd trwy'r un peth... os allwn ni godi'r pwysau erchyll hyn oddi ar deulu arall, yna byddai hynny yn wych."

Pynciau cysylltiedig