'Llawer o waith i'w wneud gan Boris Johnson' - Andrew RT Davies

  • Cyhoeddwyd
JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Johnson ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 i 148

Mae gan Boris Johnson "lawer o waith i'w wneud nawr" ar ôl y bleidlais o hyder ddydd Llun, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.

Gwrthododd Andrew RT Davies AS â dweud a fyddai wedi pleidleisio i gadw'r prif weinidog pe bai wedi gallu pleidleisio.

Ond ychwanegodd: ''Mae gan y prif weinidog fy nghefnogaeth.''

Datganodd pedwar o bob 10 AS Torïaidd ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Mr Johnson.

Dywedodd Mr Davies, sy'n Aelod o'r Senedd: "Nid oes gennyf bleidlais felly ni allaf roi sefyllfa ddamcaniaethol yn fy meddwl oherwydd dydw i ddim yn gweithio y ffordd yna.

''Mae ganddo lawer o waith i'w wneud nawr yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ac nid yw'r gefnogaeth honno'n cael ei chymryd yn ganiataol fel y mae'r prif weinidog wedi cydnabod ei hun.''

Disgrifiad o’r llun,

"Rwyf am fapio gweledigaeth a chyfeiriad ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiad Senedd 2026," meddai Andrew RT Davies

Dywedodd Mr Davies ei bod hi'n bwysig bod y prif weinidog yn cadw mwyafrif yn y blaid, y Senedd a'r wlad.

Pan ofynnwyd a oedd ganddo gefnogaeth wirioneddol gyda 41% o'r blaid seneddol yn ei erbyn, dywedodd ''mwyafrif yw mwyafrif a chafodd y prif weinidog bleidlais fwyafrifol ddydd Llun.''

Dywedodd hefyd ei fod yn "Geidwadwr treth isel".

''Fi yw'r unig arweinydd Cymreig yn y Senedd sydd wedi mynd i etholiad gan ddweud ein bod ni eisiau gostwng treth incwm,'' meddai.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am refferendwm ar gynlluniau fyddai'n gweld nifer Aelodau o'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96 a newidiadau i'r system bleidleisio.

Dywedodd Mr Davies bod cynnal refferendwm yn "bwysig''.

''Mae'n bwysig bod pobl yn cael dweud eu dweud.''

''Mae'n newid y system bleidleisio ac mae hynny'n ymosodiad sylfaenol ar ddemocratiaeth yma yng Nghymru.''

Mae cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cwotâu rhywedd gorfodol.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod yn anghywir ''gwahardd pobl rhag sefyll fel ymgeiswyr''.

Disgrifiad,

Pobl o Lanfair Caereinion a Gaerwen fu'n dweud eu dweud am bleidlais hyder Boris Johnson

A beth am ei ddyfodol fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru?

"Fe fydd yn cymryd cryn dipyn i symud 19 stôn a hanner o gig eidion Cymreig," meddai.

"Rwyf am fapio gweledigaeth a chyfeiriad ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiad Senedd 2026."

Gwyliwch fwy ar Wales Live am 22:35 BST ar BBC One Wales neu dal i fyny wedyn ar BBC iPlayer.