'Symud tua'r golau': Meddylfryd Richard Parks
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd Richard Parks anaf i'w gefn yn 20 oed ni chafodd ei ddewis i dîm dan 21 Cymru ac fe gafodd ei ryddhau gan Gasnewydd. Roedd gyrfa rygbi proffesiynol yn edrych yn amhosib.
Ond i ddefnyddio un o hoff eiriau'r cyn-flaenasgellwr, sydd bellach yn dysgu'r Gymraeg, roedd o'n 'benderfynol' nad oedd hyn am dynnu'r gêm oedd o'n caru oddi arno.
Er y rhwystrau di-ri fe chwaraeodd Richard Parks i Gymru, Y Barbariaid, Pontypridd, Y Rhyfelwyr Celtaidd, Leeds, Perpignan, a'r Dreigiau mewn gyrfa 13 blynedd o hyd.
Mae bellach wedi gwneud enw iddo'i hun fel anturiaethwr o fri sydd gyda sawl record byd i'w enw ac fe ymddangosodd ar raglen Iaith ar Daith ar S4C eleni yn trafod ei her newydd o ddysgu'r iaith Gymraeg.
Er iddo gael cyfnodau tywyll mae Richard yn parhau i "symud tua'r golau". Dyma flas ar yrfa a meddylfryd yr athletwr o Bontypridd sydd wedi siarad gyda Cymru Fyw.
Pryd oedd y tro cyntaf i ti afael mewn pêl rygbi?
Dwi ddim yn cofio! Motocross oedd fy nghariad cyntaf. Yr atgofion hapusaf o fy mhlentyndod cynnar oedd rasio ar y penwythnos. Roeddwn yn arfer rasio gyda South Wales Schoolboy Scramblers. Wnaeth colli cefnogaeth nawdd siop feicio leol ddod a'r rasio i ben ac agor y drws i rygbi pan o'n i'n tua 11.
Fel llawer iawn o fechgyn a merched o liw, ces i fy ystrydebu yn sydyn a fy rhoi ar yr asgell! Ond fe welodd hyfforddwr o'r enw Mostyn Richards allu ynof i a fy symud i fewnwr. Ges i fy newis i dîm Ysgolion Gwent dan 11 a nes i fyth edrych yn ôl.
Roeddwn yn hoffi gwthio fy hunain, ond nes i ddisgyn mewn cariad gyda bod mewn rhan o rywbeth mwy.
Ar ôl blwyddyn yn astudio Cemeg mewn ysgol yn Ne Affrica es di i astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Sut wnes di gydbwyso rygbi ac addysg?
Nes i ddim cael y cydbwysedd yn dda. Nes i weithio'n galed yn gwneud e i weithio am gyfnod ond roeddwn yn ei chael hi'n anodd. Nes i fynd yn rhwystredig o beidio gallu bod fy ngorau ar y cae ac yn y dosbarth. Doedd 'na ddim rhwydwaith i gefnogi athletwyr yn fy safle i ar yr adeg - byddwn yn hyfforddi yn y bore cyn darlithiau cyn brysio o'r brifysgol ar ddiwedd y dydd i gyrraedd ymarfer, fel arfer yn hwyr.
Roeddwn yn teimlo'n ynysig a dweud y gwir - yn tarfu ar fy nau fyd. Torrais fy nghefn yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol yn 20 oed wnaeth orfodi fi beidio chwarae am flwyddyn.
Gyda'r hunanymwybyddiaeth sydd yn dod gydag oed a methiant, mae'n glir i mi mai be' sydd yn fy mrifo i fwyaf yw peidio gwneud fy ngorau. Gallaf gymryd peidio bod yn ddigon da a dydi camgymeriadau ddim yn fy mhoeni i, ond mae gwybod gallaf wedi gwneud yn well yn erchyll i fi. Dyna nes i stryglo gydag e ar y pryd.
Wnaeth yr anaf i dy gefn olygu i ti fethu'r cyfle i gynrychioli Cymru dan 21 a chael dy ryddhau gan Gasnewydd. Sut wnaeth hyn dy effeithio ar y pryd? Sut nes di oroesi?
Roeddwn i wedi digalonni yn llwyr. Fel pob anaf, roedd o'n teimlo yn greulon. Roeddwn mor flin am gael fy rhyddhau. Nes i ddysgu yn fuan fod y gêm broffesiynol yn un creulon - roeddwn wedi cael fy newis i dîm Seithiau Cymru ac wedi cael fy enwi yn chwaraewr ifanc mwyaf cyffrous Casnewydd.
Ond nes i ddim aros yn isel am hir, roeddwn yn caru byw bywyd llawn y brifysgol. Gweithio'n galed a chwarae'n galed. Pan nes i wella, nes i ddechrau chwarae i dîm Meddygol Prifysgol Caerdydd a disgynnais yn ôl mewn cariad gyda'r gêm eto.
Coeliwch neu beidio roedd tri chwaraewr yn y tîm aeth ymlaen i chwarae'n broffesiynol - Darrell Williams, James Bater a fi. Gawson ni gymaint o hwyl. Roeddwn i wedi darganfod bywyd newydd a doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i fyth yn chwarae'r gêm broffesiynol eto.
Ond fe newidiodd pethau yn sydyn ac yn y blynyddoedd yn dilyn nes di ddychwelyd yn gryfach nag erioed. Nes di arwyddo gyda Pontypridd ac ennill Cwpan y Principality yn 2002 cyn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru. A'i dyma dy gyfnod gorau yn dy yrfa?
Roedd tîm Pontypridd yn brin o chwaraewyr felly cysylltodd hyfforddwr tîm Meddygol Prifysgol Caerdydd, Huw Davies, gyda Dennis John, hyfforddwr Pontypridd, a nes i chwarae gêm olaf eu tymor yn erbyn Llanelli. Roeddwn yn eistedd drws nesaf i ddau chwaraewr ifanc arall o Ferthyr yn y stafell newid oedd hefyd wedi cael eu dewis i lenwi mewn - Johnny Bryant a Rob Sidoli! Deunaw mis yn ddiweddarach roedden ni wedi ennill Cwpan y Principality!
Roedd y cyfnod yna yn Ponty yn adeg arbennig yn fy mywyd yn ogystal â bywydau fy rhieni. Roedd e yn fwy na rygbi, ond rygbi oedd popeth.
Os oeddet yn ymrwymo i'r clwb roedd e yn wir yn groesawgar. Roedd hynny, ochr yn ochr â gonestrwydd llethol y chwaraewyr yn creu awyrgylch perfformio oedd yn berffaith ar gyfer chwaraewyr ifanc i flodeuo o gwmpas cewri'r gêm fel Paul John, Dale McIntosh, Steel a Jason Lewis a Lynn Howells.
Fe all e edrych yn farbaraidd nawr, ond roedden ni yn arfer cwffio yn aml yn yr ymarferion. Roedd yr angerdd ar y cae yn drawsnewidiol i fi, doedden ni ddim yn rhoi modfedd i unrhyw un, ond pan roedden ni yn y stafell newid roedden ni yn frodyr. Doedd 'na ddim egos. Mae hwn yn ethos rwyf wedi cario trwy gydol fy mywyd.
Fi'n cofio gwirioni yn gwylio Gareth Barber a Paul John yn mynd ben i ben mewn bleep test. Roedd e'n teimlo fel oes gyfan gyda'r ddau yn gyndyn i stopio oherwydd roedden nhw yn brwydro am y crys rhif 9. Dim ond pan wnaeth Babs llithro a llewygu gwnaeth Johnsey orffen y prawf ac yna llewygu ei hun. Dyw e ddim yn syndod aeth y ddau i ennill Cwpan y Byd gyda Seithiau Cymru a Fiji.
Mae cael fy mhleidleisio gan y cefnogwyr fel y chwaraewyr fydden nhw yn hoffi cael ei weld fel Grog yn un o'r profiadau sydd agosaf at fy nghalon hefyd. Bydd y cariad rwyf yn rhannu gyda fy nghefnogwyr byth yn marw ac roedd cael fy grogio drws nesaf i rai o chwaraewyr gorau Cymru erioed yn fraint enfawr!
Es di ymlaen i chwarae i'r Rhyfelwyr Celtaidd, Leeds, Perpignan a'r Dreigiau ar ôl hynny. Mae dy gyfnod gyda'r Rhyfelwyr yn benodol yn un ddiddorol gan ei fod yn nodi dechreuad y rhanbarthau… roedd arwyr fel Neil Jenkins, Gareth Thomas a Ryan Jones yn y tîm hefyd. Beth yw rhai o dy atgofion o'r cyfnod yma?
Rwyf yn dal i'w chael hi'n anodd siarad am Y Rhyfelwyr Celtaidd. Mae'r boen yn dal i'w deimlo heddiw. Oedd, mi roedd o'n dîm anhygoel - un o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd cael Chwaraewr y Gêm yn ein buddugoliaeth yn erbyn y Wasps yn Llundain. Ni oedd yr unig dîm wnaeth drechu'r Wasps, aeth ymlaen i ennill Cwpan Ewrop, y flwyddyn honno.
Gareth Thomas (a Paul John yn Ponty) oedd y capten gorau i mi chwarae gyda. Ni allaf adael i fy hunan meddwl gormod am be' fydden ni wedi gallu ei adeiladu os fyddai'r Rhyfelwyr wedi goroesi. Roedd hi'n fraint bod yn rhan o'r tîm, yn amlwg roedd e'n gyffrous, ond roedd yr arwyddion i'w gweld o'r diwrnod cyntaf.
Rwy'n meddwl roedd e'n gyfnod tywyllach yn fy mywyd. Doeddwn i ddim yn mwynhau chwarae er y dyle fe fod wedi bod yn uchafbwynt gyrfa. Es i mewn i'r tymor ar ôl methu allan ar garfan Cwpan y Byd a chefais fy nal ym mhrosiect hyfforddwr Cymru, Steve Hansen, i fy newid i safle rhif 8.
Fe wnaeth symud i Leeds o'r Rhyfelwyr achub fy ngyrfa ac aildanio fy angerdd at y gêm. Roedd fy amser yn Leeds yn debyg i fy amser gyda Ponty. Roedd gan y clwb ethos tebyg o dan Phil Davies ac mae gan Swydd Efrog le arbennig yn fy nghalon.
Enillais y Powergen Cup gyda Leeds yn Twickenham yn erbyn Bath gyda rheng ôl oedd yn cynnwys tri Chymro - fi, Alix Popham a Scott Morgan. Wnaeth y tri ohonom wedyn golli'r gwpan ar grôl tafarndai yn Headingley!
Roeddwn yn caru fy amser yn Perpignan ac roedd gorffen fy ngyrfa gyda'r Dreigiau yn farddonol ar ôl dechrau yno 13 mlynedd ynghynt. Rwyf wastad yn ddiolchgar i'r Dreigiau am eu gofal ataf drwy'r anaf wnaeth ddod a fy ngyrfa i ben.
Cafodd Y Rhyfelwyr Celtaidd ei chwalu ar ôl blwyddyn yn unig. Sut wyt ti'n meddwl mae rygbi'r rhanbarthau wedi newid dros yr 19 mlynedd ers i chdi fod yno?
O fod wedi treulio pum mlynedd fel aelod o Chwaraeon Cymru mae gen i ddealltwriaeth dda o lywodraethiant chwaraeon. Yn fy marn i, fe wnaeth y ffordd wnaeth yr Undeb ddinistrio gêm y clybiau yng Nghymru i ffafrio'r rhanbarthau dorri ein gêm. Be' sydd yn fwy pryderus nawr yw eu bod hefyd i weld yn cysgu wrth y llyw.
Rwyf yn gwerthfawrogi'r heriau ariannol ac yn gallu derbyn ein bod angen ailstrwythuro'r gêm yng Nghymru er mwyn cystadlu yn fyd eang. Ar yr ochr arall, rydyn ni angen ystyried yr effaith mae'r tîm pêl-droed rhyngwladol wedi cael yn uno ein gwlad a hefyd ei rôl mae'n chwarae yn cyflwyno ein hiaith i genedlaethau newydd.
Mae rygbi Cymru wedi methu wrth geisio deall y cymunedau sydd wedi eu hadeiladu o amgylch y pyllau glo a'r rôl mae clybiau rygbi wedi chwarae yn seilwaith a hunaniaeth y cymunedau hyn. Roedd y clwb rygbi yn fwy na rygbi yn unig.
Ochr yn ochr â'r cefnogwyr, cafodd y chwaraewyr eu trin yn erchyll yn ystod diwedd Y Rhyfelwyr. Nes i adael i chwarae yn Leeds gan addo i beidio dod yn ôl i Gymru. Never say never, Parksy! Wrth gwrs, nes i ddychwelyd i Gymru gyda'r Dreigiau.
Mae llwyddiant y tîm cenedlaethol wedi cuddio'r craciau yn ein gêm am amser hir. Dydw i ddim yn meddwl bod y gêm ranbarthol wedi newid llawer - mae'n fwy disglair, ond yn dal ddim yn fwy cynaliadwy na 19 mlynedd yn ôl.
Yn dilyn anaf wnaeth dy orfodi i roi'r gorau i rygbi, fe es di ar daith i ddod y person cyntaf i ddringo'r mynydd uchaf yn saith cyfandir y byd a sefyll ar Begwn y de a'r gogledd o fewn saith mis fel rhan o'r 737 Challenge. Be' wnaeth dy wthio di i wneud yr heriau yma?
Roedd e ynglŷn â symud tua'r golau yn hytrach na'r tywyllwch. Roedd e fel fy mod wedi disgyn oddi ar ymyl dibyn ar ôl i'r anaf ddod a fy ngyrfa i ben. Doeddwn i ddim yn barod, roeddwn yn ofn be' ddaeth nesaf a doeddwn i ddim â'r sgiliau i newid. Roeddwn yn dioddef iselder ac roeddwn mewn lle tywyll iawn.
Fe ddechreuodd y 737 Challenge oherwydd roeddwn i eisiau dysgu sut i ddringo. Roeddwn eisiau profi i fy hunan nad oeddwn i wedi torri. Dringo oedd y peth fwyaf ofnus roeddwn yn gallu meddwl amdano, ac mewn rhai ffyrdd roedd e'n rhoi fi yn ôl mewn rheolaeth dros fy mywyd.
Yn fuan iawn roedd e wedi tyfu i fod yn rhywbeth mwy na fy hunain a nes i ddarganfod fy man hapus unwaith eto - yn rhan o dîm ac yn gwneud mwy o wahaniaeth.
Mae'n anhygoel ble mae ein llwybrau yn gallu ein harwain os rydyn ni'n darganfod y dewrder i gymryd y cam cyntaf.
Pa lwyddiant wyt ti'n fwyaf balch ohono?
Mi fyddai fy nhad yn dweud fy ngweld i yn chwarae i Gymru. Ond rwy'n credu fy mod wedi cyflawni mwy yn yr ail bennod yma o fy mywyd. Bod y person cyntaf o liw a'r Cymro cyntaf i sgïo yn unigol i Begwn y De yn enfawr. Dydi bod y person cyntaf i ddringo'r mynydd uchaf ar saith cyfandir y byd a sefyll ar Begwn y Gogledd a De yn yr un flwyddyn ddim yn rhy ddrwg i fachgen o Ponty chwaith!
Un peth sydd yn glir i fi - mae popeth dwi'n gwneud er mwyn cynrychioli fy ngwlad fel nes i yn gwisgo'r crys coch!
Wedi dweud hynny… y cyflawniad rwyf fwyaf balch ohono yw bod yn Dad.
Dy her ddiweddaraf yw dechrau dysgu'r Gymraeg. Pam dysgu'r iaith a sut mae'n mynd?
Mae dysgu siarad Cymraeg wedi newid fy mywyd. Roedd fy nghymhelliad yn syml - fy mab. Rwyf eisiau iddo gael ei fagu yng Nghymru ble mae mwy o bobl yn gallu gweld ei hunain yn yr iaith.
Rwyf wedi derbyn yr anrheg o weld fy ngwlad trwy chwyddwydr newydd - yn hanesyddol, yn bresennol a hefyd dyfodol beth mae ein plant am etifeddu. Rwyf yn caru siarad Cymraeg, ond wrth gwrs, rwyf ar ddechrau fy nhaith.
Er fy ngwasanaeth a fy malchder, am lawer o fy mywyd - roeddwn yn teimlo fel nad oeddwn yn gallu gweld fy hun yn yr iaith Gymraeg. Roeddwn erioed wedi teimlo ar wahân ac ofn o'r iaith, ond mae fy mhrofiad fel siaradwr newydd yn neilltuo hynny i gyd.
Cefais y fraint o gael y cyfle i ddechrau fy nhaith ar Iaith ar Daith ar S4C. Roedd y bennod yn gymaint o hwyl ac fe gafodd hynny ei ddangos ar gamera, er hynny, roedd o yn frawychus. Roedd y tîm cynhyrchu, gan gynnwys Aran o Say Something in Welsh, yn anhygoel a rhoddwyd yr hyder oedd angen arna'i.
Oes gen ti hoff air?
Cynefin. Mae'n brydferth.
Rwyf hefyd yn hoff o'r ddau air yma - Penderfyniad a Penderfynol.
Hefyd o ddiddordeb: