Sut i fentro a byw bywyd ar antur

  • Cyhoeddwyd
Jane HarriesFfynhonnell y llun, Jane harries

Os yw'n teimlo fel petai'r byd a'i nain wedi darganfod bywyd newydd o feicio, nofio gwyllt, mynydda neu redeg yn ystod y cyfnod clo, ond bod angen hwb arnoch chi i ymuno yn yr antur, efallai bod angen i chi gwrdd â Jane Harries.

Jane yw sylfaenydd y cylchgrawn Adventure She sy'n rhannu straeon am ferched o bob cwr o'r byd sy'n gwneud pethau mentrus.

Gyda chydraddoldeb i ferched yn thema i Neges Ewyllys Da yr Urdd 2021, mae'n bwnc amserol sy'n agos at galon Jane, cyfreithwraig o Sir Benfro sydd wedi gweithio i gwmnïau cyfrifo mawr y byd yn arbenigo mewn trethi.

Ffynhonnell y llun, Kate Sanderson
Disgrifiad o’r llun,

Beicio yn y Kimberleys, gogledd orllewin Awstralia

Mae hi wedi teithio a chymryd rhan mewn sawl ras redeg, cerdded a seiclo a chwblhau hanner Ironman ac un o farathonau anodda'r byd yn anialwch y Sahara.

Ac mae eisiau ysbrydoli eraill i fentro yn eu bywydau.

Eisiau 'galluogi' menywod

Mae'n egluro iddi ddechrau'r cylchgrawn yn 2018, pan roedd y drafodaeth am dâl cyfartal i fenywod a dynion yn y newyddion.

Roedd wedi sylwi yn ystod ei chyfnod yn gweithio yn Llundain pa mor ddi-hyder roedd menywod o'u cymharu â dynion, a hynny hyd yn oed mewn cynadleddau oedd wedi eu trefnu yn arbennig i fenywod.

"O'n i wastad yn gweld bod lot o fenywod iau yn nerfus a nad oedden nhw'n rhoi llaw nhw lan i ateb cwestiynau," meddai.

"Ac o'n i'n meddwl os yw'r menywod 'ma sy'n gweithio yn y banciau neu'r cwmnïau ariannol neu gyfreithiol yma yn swil yn yr awyrgylch yna, sy'n awyrgylch ddiogel, beth maen nhw fel yn y gwaith?

Ffynhonnell y llun, Cylchgrawn Adventure She
Disgrifiad o’r llun,

Helen Clark, cyn brif weinidog Seland Newydd fu'n gweithio i'r Cenhedloedd Unedig - sydd hefyd yn fynyddwraig frwd - sydd ar glawr rhifyn Ebrill 2021 Adventure She

"O'n i'n meddwl mae angen galluogi nhw ac ysbrydoli nhw hefyd i fod y gorau mae nhw'n gallu bod a peidio rhoi eu hunain i lawr.

"O'n i'n dwli ar hanes yn yr ysgol ac o'n i'n meddwl faint o fenywod dwi wedi clywed amdanyn nhw mewn hanes? Ac eithrio Jemima Niclas neu Florence Nightingale neu Mari Jones a'i beibl, bach iawn rwy'n ei glywed am fenywod ond mae hanner poblogaeth y byd yn fenywod. Beth yw stori y bobl yna i gyd?

"Ac o'n i'n meddwl mae'n amser inni rhannu straeon mwy o fenywod ac os nad oes pobl eraill yn mynd i wneud hynna, rwy'n mynd i'w wneud e!

'Pam ddim fi?'

"O'n i am eu galluogi nhw ond mewn ffordd hawdd iawn a gyda'r cylchgrawn rwy'n rhannu straeon am deithio, am wahanol bobl yn y byd a gwahanol anturiaethau," meddai Jane.

Jane Harries
Jane Harries
...ges i'r swydd a newidiodd hynna fy mywyd i.

Mae hi'n gobeithio bod y straeon yn difyrru ond hefyd yn dysgu ac ysbrydoli'r darllenwyr i feddwl 'os ydi'r menywod yma'n gallu gwneud hyn, pam ddim nhw?'

"Os mae hi'n gallu mynd a gweithio mewn elusen yn Madagasgar pam nad ydw i'n gwneud hynny? Os yw hi'n gallu mynd a rhwyfo ar draws yr Atlantic, pam 'sa i'n gallu ymuno â'r clwb rhwyfo yn Nhrefdraeth neu ym Mhwllheli?"

Unrhyw beth yn bosib drwy ymdrech

Mae Jane wedi cofleidio antur yn ei bywyd ei hun ar ôl i'w swydd gyntaf dramor "agor y drws" iddi.

"Oherwydd mod i'n gweithio gyda'r Big Four [cwmnïau cyfrifo mwya'r byd] yn Llundain ymgeisies i am swydd yn Hong Kong achos o'n i'n teimlo fel cael antur a ges i'r swydd yna a newidiodd hynna fy mywyd i.

"Oedd Hong Kong fel byw mewn La-La Land. Nagoedd unrhyw un yn byw bywyd normal, oedd e fel byw mewn ryw ffantasi. Yr unig beth o'ch chi ddim yn gwneud digon ohono oedd cysgu: o'ch chi'n partïo gormod, gweithio gormod, gwneud gormod o ymarfer corff - oedd hwnna wedi agor cymaint o ddrysau imi."

Ffynhonnell y llun, Jane Harries
Disgrifiad o’r llun,

Cerdded 100 cilomedr i godi arian yn 2003

Clywodd am daith 100km Trailwalker i godi arian a mynd amdani.

"Nag o'n i'n gyfarwydd â gwneud y pethe 'ma ond oherwydd bod byw yn Hong Kong fel ryw ffantasi neu ffârs, 'wedes i 'ie'!"

Bu'n ymarfer am dros chwe mis ac fe lwyddodd i'w gwblhau. A dyna ddechrau ei thaith.

"Beth wnaeth Hong Kong a Trailwalker oedd dangos i fi beth sy'n bosib os ni'n ymgeisio - os ni'n fodlon rhoi'r gwaith mewn i wneud y peth."

Marathon de Sables

Ffynhonnell y llun, jane harries
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n dwli arno fe," meddai Jane am y marathon yn yr anialwch

Bu'n byw a gweithio wedyn yn Seland Newydd ac Awstralia hefyd ac, ar ôl blynyddoedd o fagu hyder, fe benderfynodd wneud Marathon de Sables yn Morocco - sef ras dros 150 milltir yn anialwch y Sahara mewn gwres llethol.

"O'n i'n dwli arno fe," meddai Jane. "Yn yr anialwch, dan y pebyll Berber, o'n i'n meddwl - 'ie dyma'r bywyd!' Oedd e'n hyfryd."

Roedd hi ymhlith yr arafaf, meddai, ond does dim ots am hynny.

"'Sai'n mynd i ennill e, ond 'di hwnna ddim yn golygu bod fi ddim yn gallu 'neud e - fi'n gallu mynd mas 'na a rhoi go i'r peth achos os na ro i go fyddai ddim yn cael y profiad."

Ffynhonnell y llun, Jane Harries
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jane rywfaint o'i hymarfer ar gyfer Marathon de Sables ar draethau Merthyr Mawr a Threfdraeth yn Sir Benfro

Beth am ei chyngor i bobl eraill? I ddechrau mae rhywbeth mor syml â mynd am dro, cerdded y plant i'r ysgol neu fynd â'r ci am dro yn gallu gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl a chorfforol.

Ond mae rhoi amser i ddeall eich hun yn fan cychwyn da hefyd:

"I feddwl yn gyntaf beth yw eich gwerthoedd chi? 'Na'r peth mwyaf pwysig i gyd. Beth yw'r pethe mwyaf pwysig yn eich bywyd? Ac i fyw eich bywyd fel mae'ch enaid eisiau i chi ei fyw."

Tip arall ganddi yw ysgrifennu eich amcanion yn glir a mewn ffordd realistig - smart goals yn Saesneg (specific, measurable, achievable, realistic, timely).

Ffynhonnell y llun, Janes harries
Disgrifiad o’r llun,

Edrych ymlaen i gystadlu ym mhencampwriaeth Ironman

"Os nad ydych chi erioed wedi rhedeg ewch ar y we a ffeindio cynllun couch i 5k. Os chi'n rhedeg 5k yn barod i feddwl am gôl arall - 10k neu hanner marathon.

"Does dim rhaid gwneud marathon neu ultra. Gwneud rhywbeth sy'n ffitio mewn gyda'ch bywyd chi sy'n bwysig: cerdded, seiclo tair gwaith yr wythnos, neu fynd â'r ci - gwnewch be' allwch chi ei wneud."

Yr antur nesaf

Ar ôl 13 mlynedd o waith ac antur dramor roedd hiraeth ar Jane a daeth nôl i Lundain i weithio.

Ffynhonnell y llun, Jane Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane wedi rhannu ei phrofiadau mewn cyflwyniadau

Ond â hithau'n gweithio ar ei liwt ei hun bellach mae wedi sylweddoli nad oes raid iddi fod yn Llundain ac mae wedi dod nôl i fyw yn ei bro enedigol yn Sir Benfro.

"Been there, done that! Fe wnaeth lockdown hala i fi feddwl be' sy'n bwysig mewn bywyd. Pam symud i rywle arall pan galla i ddod lawr fan yma?"

Ffynhonnell y llun, Kerstin Michels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane wedi marchogaeth ers ei bod yn blentyn ac mae'n gobeithio gwneud hynny ar draws Gwlad yr Iâ yn ei hantur nesaf

Mae wrth ei bodd gyda'r cyfleoedd newydd sydd yng Nghymru bellach, gan gynnwys rhai o gyrsiau beicio gorau'r byd.

Ond mae'n ysu hefyd am ei hantur nesaf: mae'n gobeithio mai merlota ar draws Gwlad yr Iâ fydd hynny.

"Dwlen i wneud rhaglen deledu amdano fe a cwrdd â'r ffermwyr a'r cerddorion sy'n byw yna - mae'n debyg bod corau yn beth mawr yn Gwlad yr Iâ achos yn y gaeaf bach iawn o olau dydd sydd yno so maen nhw'n cwrdd lan a canu lot ac mae'r ceffyl yn allweddol i'r wlad.

"Dwi wedi prynu ceffyl... fi'n edrych ymlaen i fynd nôl i farchogaeth a dwlen i wneud teithiau marchogaeth yng Nghymru hefyd."

Hefyd o ddiddordeb: