Caerffili: 'Hwb i'r iaith' wrth i ŵyl Ffiliffest ddychwelyd

  • Cyhoeddwyd
ffilffest

Ar ôl "cyfnod heriol" mae trefnwyr gŵyl Ffiliffest yng Nghaerffili yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn rhoi hwb i'r iaith yn lleol.

Dyw'r ŵyl ddim wedi cael ei chynnal wyneb yn wyneb ers dwy flynedd oherwydd y pandemig.

Ond, bydd yn dychwelyd eleni gyda pherfformiadau gan fandiau poblogaidd a disgyblion ysgolion lleol.

Dywedodd Lowri Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Caerffili, wrth Newyddion S4C bod yr ŵyl yn hollbwysig i'r iaith yn lleol.

"Mae e'n allweddol i blant a phobl ifanc yn yr ardal i gymryd rhan mewn cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol, cwrdd â phlant eraill sy'n siarad Cymraeg yn lleol a dysgu mwy am eu diwylliant a'n treftadaeth ni yn lleol," dywedodd Lowri.

"Ond hefyd mae e'n ddigwyddiad i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd eisiau dysgu am y Gymraeg."

Roedd yna ymgais yn absenoldeb yr ŵyl i gynnal digwyddiadau dros y we, ond mae'r criw yn falch o allu bod yng nghwmni ei gilydd unwaith eto.

"Mae wedi bod yn heriol," ychwanegodd Lowri.

"Fel nifer o fudiadau eraill buon ni'n darparu cyfleoedd yn rhithiol ond dy'n nhw ddim yr un peth â cwrdd â rhywun mewn digwyddiad wyneb yn wyneb ond mi oedd teuluoedd yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd yna i ddefnyddio'r Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd disgyblion Ysgol y Castell yn perfformio yn yr ŵyl ac mae 'na gryn edrych ymlaen

Yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell, mae'r plant wedi bod yn ymarfer dawnsio gwerin ar gyfer perfformio yn Ffiliffest.

Yn ôl y dirprwy, Gareth Hughes, roedd y cyfnodau clo wedi cael effaith ar iaith y plant.

"Yn sicr mae na effaith wedi bod... mae hi wedi bod yn frwydr i gael y plant i ailgydio yn yr iaith yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar ond trwy prosiectau yn yr ysgol ry'n ni wedi mynd ati i ailafael ynddi."

Doedd yr iaith ddim mor weledol yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai.

"Mae cymuned yr ysgol mor bwysig i ni yn Ysgol y Castell ac ry'n ni wedi colli cyfleoedd i gael rhieni drwy'r drysau ac i fynd â'r iaith tu allan i glwyd yr ysgol. Ry'n ni isie' datblygu dysgwyr sydd yn cadw'r iaith yn fyw... nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth ond yn y gymuned ac mae Ffiliffest yn gyfle gwych i wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen wedi ei chyffroi wrth i'r ysgol baratoi i berfformio yn yr ŵyl

Mae'r plant hefyd yn edrych ymlaen. Yn ôl Gwen mae digwyddiadau fel Ffiliffest yn bwysig.

"Does dim llawer o gyfle i siarad Cymraeg tu fas yr ysgol so mae'n hwyl i allu 'neud e lle mae llawer o bobl yn."

Mae Sam, un arall o'r disgyblion, yn cytuno.

"Mae'n gyfle gwych i siarad Cymraeg tu fas yr ysgol ac yn ffenest siop i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg."

Mae gwaith cynnal a chadw yn y Castell yn golygu fod yr ŵyl yn digwydd ar gaeau chwarae Owain Glyndŵr eleni.

Yn ôl David Roberts sy'n gynghorydd tref, mae gallu cynnal digwyddiadau unwaith eto yn hwb yn lleol.

"Be sy'n neis yw fod pobl yn dod o'r gogledd ac o'r gorllewin i weld y bandiau ac yn cymysgu gyda ni yng Nghaerffili," dywedodd.

"Mae'r profiadau mae pawb yn mynd i'w cael o'r dre' mynd i fod fel oedden nhw dair blynedd 'nôl."

Fe fydd Candelas, Eadyth a Plu ymhlith yr artistiaid ac mae Lowri Jones yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod plant yn clywed perfformwyr Cymraeg.

"Mae'n bwysig cynnig profiadau sy'n berthnasol iddyn nhw, sydd o ddiddordeb iddyn nhw a dangos fod y Gymraeg yn iaith hyfyw yn lleol," dywedodd.

"[Mae'n bwysig] bod nhw'n gallu mwynhau a dilyn diddordebau trwy gyfrwng y Gymraeg a gweld enghreifftiau o bobl ifanc eraill sydd wedi gallu datblygu gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg fel bod gyda nhw wedyn yr uchelgais i wneud yr un peth"

Pynciau cysylltiedig