Cofeb yn Fron-goch i gofio'r 'Croke Park Cymreig'
- Cyhoeddwyd
Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio ddydd Sul yn ardal Y Bala i gofio'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y 'Croke Park Cymreig'.
Nod y plac yw cofnodi arwyddocâd dôl oedd yn arfer bod yn gae mabolgampau a phêl-droed Gwyddelig pan roedd cannoedd o Wyddelod yn garcharorion yng ngwersyll rhyfel Fron-goch yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon.
Roedd Michael Collins, aeth ymlaen i fod yn arweinydd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, ymhlith dros 1,800 o Wyddelod a gafodd eu hanfon gan awdurdodau Prydain Fawr i Fron-goch yn 1916.
Croke Park yn Nulyn yw cartref ysbrydol pêl-droed Gwyddelig.
Roedd yna ddau garchar ar safle'r gwersyll - un ar safle'r de yn yr hen ddistylltŷ chwisgi a'r llall ar safle'r gogledd mewn cae cyfagos lle roedd y Gwyddelod yn cysgu mewn cabannau.
Cyn i'r Gwyddelod gael eu hanfon i Fron-goch, rhwng Mehefin a Rhagfyr 1916, cafodd carcharorion Almaenig eu carcharu yn safle'r hen ddistylltŷ - safle Ysgol Bro Tryweryn erbyn heddiw.
Roedd y Gwyddelod yn arfer croesi pont ar afon Tryweryn o'r carchar i ddol Fferm Rhyd-y-defaid ar gyfer pob math o chwaraeon ac ymarfer corff, ac fe gafodd gêm rownd derfynol arwyddocaol ei chwarae yno.
"Oeddan nhw'n cael rasys rhedeg… tipyn o bopeth," meddai Alwyn Jones, un o drigolion Frongoch sy'n ymddiddori yn yr hanes.
"Ond yr un mwyaf enwog oedd y gêm bêl-droed [Gwyddelig] rhwng Kerry a Louth. Dyma'r unig ffeinal oedd wedi cael ei chware y tu allan i Iwerddon erioed!"
Mae Alwyn Jones wedi cydweithio efo'r corff sy'n rheoli pêl-droed Gwyddelig, sef y GAA (Gaelic Athletic Association) i drefnu codi plac ger y cau i nodi'r 'Croke Park Cymreig'.
Mae hefyd wedi agor amgueddfa ar ei dir i adrodd hanes y Gwyddelod yn Fron-goch.
"Dros y blynyddoedd roedd 'na lawer o bobl wedi ymweld â Fron-goch a mi oedden nhw o hyd yn dweud does 'na ddim byd yma i gofio," meddai.
"Wedyn ar ôl y canmlwyddiant yn 2016 mi benderfynais bod yn rhaid cael rhywbeth i'w weld yma.
"Mae 'na Wyddelod yn dod yma, yn digwydd mynd heibio a gweld y fflagie... mae 'na rai ohonyn nhw ddim yn gwybod llawer o'r hanes. Ond mae 'na lawer o Gymry yn dod... ma' nhw â diddordeb, a Saeson o dras Gwyddelig hefyd."
Mae gan Fron-goch le arbennig yn hanes Iwerddon, gan ei fod, yn sgil carchariad y Gwyddelod, wedi ei ddisgrifio fel 'Prifysgol y Chwyldro' a 'man geni yr IRA (Irish Republican Army).
Pan garcharwyd yr holl Wyddelod efo'i gilydd roedden nhw'n gallu trafod a chynllunio dyfodol eu gwlad.
'Dechre rhoi trefn ar y Gwyddelod'
Mae Dewi Davies yn byw yn y pentref ac yn hanesydd lleol.
"Roedd Michael Collins yn swyddog ifanc iawn ar y pryd," meddai'r hanesydd lleol, Dewi Davies, sy'n byw yn Fron-goch. "Yma ddaru o amlygu ei hun fel un o'r arweinwyr, a dweud y gwir.
"Mi ddoth o i amlygrwydd a dechre rhoi trefn ar y Gwyddelod oedd yma. Oedden nhw'n cael gwersi mewn strategaeth filwrol i swyddogion ac i filwyr cyffredin a Michael Collins oedd yn trefnu hynny."
Aeth llawer o'r carcharorion fu yn Fron-goch ymlaen i frwydro yn y Rhyfel am Annibyniaeth yn Iwerddon ac yn y Rhyfel Cartref yn dilyn hynny.
Mae rhai yn dadlau bod pentref Fron-goch a'r ardal wedi bod yn ganolog i ddigwyddiadau sydd wedi effeithio ar ddwy genedl.
Cafodd carcharu'r Gwyddelod yma effaith ar y wlad honno a rhyw filltir dda i fyny Afon Tryweryn o Fron-goch mae argae Llyn Celyn.
O dan ei ddyfroedd oer mae olion pentref Capel Celyn a bellach mae'r slogan Cofiwch Dryweryn yn amlwg i lawer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2016
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2016