Doc Penfro: Dyn oedd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Harris wedi'i gyhuddo o lofruddio Lisa Fraser yn Noc Penfro

Mae dyn oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Sir Benfro wedi marw ar ôl i swyddogion carchar ei ganfod wedi'i grogi yn ei gell.

Cafwyd hyd i Matthew Harris, 41 oed o Hwlffordd, yn ei gell ar 27 Mai a bu farw yn yr ysbyty y diwrnod canlynol.

Roedd wedi ei gyhuddo o lofruddio Lisa Fraser, 52 oed o Ddoc Penfro.

Cafodd corff Ms Fraser ei ddarganfod mewn tŷ ar Military Road yn y dref ar 13 Mai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lisa Fraser, oedd yn byw yn Noc Penfro, ei ddarganfod ar 13 Mai

Roedd Mr Harris hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fygythiadau i ladd, lladrata ac achosi difrod troseddol i eiddo yn Neyland.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau ei farwolaeth mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Bellach, mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu dirwyn i ben.