Dyn yn cyfaddef llofruddio menyw 18 oed ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd
![Lily Sullivan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/106B8/production/_124765276_lilyclose.jpg)
Roedd dros ddwsin o berthnasau Lily Sullivan yn Llys y Goron Abertawe i weld y diffynnydd yn newid ei ble
Mae dyn 31 oed o Sir Benfro wedi newid ei ble a chyfaddef iddo lofruddio menyw 18 oed yng nghanol tref Penfro y llynedd.
Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan yn ardal Mill Pond y dref yn yr oriau mân ddydd Gwener 17 Rhagfyr.
Roedd Lewis Haines, o Landyfái, i fod i sefyll ei brawf ar 20 Mehefin ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad llai difrifol o ddynladdiad.
Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe ddydd Llun fe newidiodd ei ble i un o fod yn euog o lofruddiaeth.
Ymddangosodd trwy gysylltiad fideo gan gadarnhau ei enw a rhwbio'i ben yn ei ddwylo wrth gyfaddef iddo lofruddio Ms Sullivan.
Roedd dros ddwsin o berthnasau Ms Sullivan yn oriel gyhoeddus y llys.
Bydd Haines yn cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021