Timau Cymru'n darganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Daniel DaviesFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith

Mae timau'r Cymru Premier wedi darganfod eu gwrthwynebwyr ar gyfer rowndiau cychwynnol y cystadlaethau Ewropeaidd.

Fe fydd y pencampwyr Y Seintiau Newydd yn wynebu Linfield o Ogledd Iwerddon yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Bydd y cymal cyntaf yn Neuadd y Parc ar 5 neu 6 Gorffennaf, a'r ail gymal yn Windsor Park, Belfast, wythnos yn ddiweddarach.

Sligo Rovers o Weriniaeth Iwerddon fydd gwrthwynebwyr Y Bala yng Nghyngres Europa.

Yn yr un gystadleuaeth fe fydd Y Drenewydd yn herio HB Torshavn o Ynysoedd y Ffaro.

Fe fydd y cymalau cyntaf yng Nghyngres Europa ar 7 Gorffennaf, a'r ail gymal wythnos yn ddiweddarach.