Cefnogwr annibyniaeth i Gymru'n cael swydd Llywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd
David ButtressFfynhonnell y llun, Just Eat
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Buttress yn gyn-brif weithredwr Just Eat

Mae llywodraeth Geidwadol y DU wedi penodi cefnogwr brwd o annibyniaeth i Gymru i feddwl am syniadau i helpu pobl gyda chostau byw cynyddol.

Mae cyn-brif weithredwr Just Eat, David Buttress, wedi cael ei benodi yn tsar busnes costau byw.

Daw er i Mr Buttress feirniadu Boris Johnson mewn digwyddiad o blaid annibyniaeth yn 2020.

Fe alwodd hefyd ar Mr Johnson i ymddiswyddo yn dilyn y sgandal am bartïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo.

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU fod "angen rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu".

Cafodd Mr Buttress ei benodi i'r rôl ddi-dâl gan Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Steve Barclay, ddydd Mawrth.

'Eithafiaeth asgell dde'

Ym mis Ionawr 2020 pan siaradodd Mr Buttress mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan YesCymru, dywedodd: "Mae amser ar ben i San Steffan i mi.

"Gadewch iddyn nhw gael y math o Senedd a llywodraeth y maen nhw eisiau.

"Gadewch iddyn nhw ei llenwi â Boris Johnsons ac eithafiaeth asgell dde - cael yr hyn maen nhw'n ei hoffi - ond nid dyna'r Gymru dwi'n ei hadnabod."

Dywedodd nad yw "San Steffan yn malio" am y Gymru yn yr araith, lle dywedodd fod annibyniaeth yn teimlo fel "ateb" i dlodi plant.

Yn gynharach eleni dywedodd ar Twitter: "Mae'n rhaid i Boris fynd. Allwch chi ddim goroesi beirniadaeth fel hyn."

Mae'r neges bellach wedi cael ei dileu.

Mae sylfaenydd Just Eat, a gafodd ei fagu yng Nghwmbrân, yn bartner yn y cwmni cyfalaf menter 83North, ac yn gadeirydd anweithredol rhanbarth rygbi'r Dreigiau yng Nghasnewydd.

'Cyfnod anodd'

Yn ei chyhoeddiad dywedodd Llywodraeth y DU y bydd Mr Buttress yn gweithio gyda'r sector preifat i "nodi, datblygu a hyrwyddo" mentrau newydd a arweinir gan fusnes sy'n cefnogi pobl gyda chostau byw cynyddol.

Dywedodd Mr Barclay: "Rwy'n falch iawn o gael David Buttress yn rhan o'r bwrdd, gan ddod â chyfoeth o brofiad gydag ef ynghyd ag egni a dyfeisgarwch busnes i fynd hyd yn oed ymhellach mewn ymdrechion i gefnogi teuluoedd Prydeinig trwy gydol y cyfnod anodd hwn."

Dywedodd Mr Buttress: "Mae'r costau byw cynyddol rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, yn y DU ac yn fyd-eang, yn rhoi her a chyfle unigryw i fusnesau a diwydiant wneud ein rhan."

Yn ogystal â siarad mewn digwyddiad YesCymru, cafodd Mr Buttress hefyd ei gyfweld yn 2020 gan Guto Harri,, dolen allanol sydd bellach yn gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10 Stryd Downing ond oedd yn gyflwynydd rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C ar y pryd.

Cynigiodd Mr Buttress ar Twitter ym mis Gorffennaf 2021 i helpu YesCymru am ddim, dolen allanol, ar ôl i'r cyn-gadeirydd Siôn Jobbins roi'r gorau iddi, "efallai fel cadeirydd anweithredol".

Ni chafwyd unrhyw benodiad o'r fath er iddo ddweud fis Medi diwethaf wrth bapur newydd National Wales ei fod wedi siarad ag "un neu ddau" o bobl YesCymru a'i fod yn dal i siarad gyda'r grŵp.

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU: "Mae ganddo record fusnes drawiadol.

"Mae costau byw yn uwch na gwleidyddiaeth. Rydyn ni'n rhoi'r person gorau i mewn ar gyfer y swydd oherwydd mae'n her enfawr ac mae angen rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu."

Gofynnwyd i Mr Buttress, Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU a Rhif 10 Downing Street am sylwadau ar y mater.

Pynciau cysylltiedig