Hart: 'Rhowch drefn' ar Gymru cyn darlithio am ddynoliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru y Ceidwadwyr, Simon Hart, wedi dweud wrth Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford i "roi trefn ar ei dŷ ei hun" cyn darlithio Llywodraeth y DU am ddynoliaeth.
Roedd Mr Hart yn ymateb i sylwadau gan Mr Drakeford fod ceisio hedfan ffoaduriaid i Rwanda yn "greulon, annynol ac yn ddiwrnod tywyll i'r DU".
Cafodd taith awyren oedd i fod i fynd â cheiswyr lloches o'r DU i Rwanda ei chanslo funudau cyn esgyn neithiwr yn dilyn her gyfreithiol hwyr.
Mae'r sylwadau "hynod anaddas" yn "amharchus i'r gwaith trawsnewidiol" sy'n digwydd gan weithwyr iechyd bob dydd, meddai Llywodraeth Cymru, ac yn "gwbl annerbyniol".
Dywedodd Mr Hart fod profiad rhai cleifion sy'n defnyddio'r GIG yng Nghymru yn gyfystyr ag annynol.
"A gaf i awgrymu ei fod yn dod i Ysbyty Llwynhelyg ac edrych ar y gofal y mae ei GIG yn ei roi i'm hetholwyr" meddai.
"Maen nhw'n aros am ambiwlans am wyth awr. Ni allant gael apwyntiad meddyg hyd yn oed pan fydd y feddygfa'n dweud bod angen un arnynt.
"Os yw am siarad am ddynoliaeth a chreulondeb rwy'n hapus iawn i siarad yn gyhoeddus ag ef am ei driniaeth o bobl Cymru."
Awgrymodd Mr Hart hefyd y dylai'r prif weinidog gadw at feysydd polisi sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.
"Mae Rwanda yn fater a gadwyd yn ôl [a reolir gan Lywodraeth y DU]" meddai.
"Fy awgrym yw ei fod yn rhoi trefn ar ei dŷ dyngarol ar garreg ei ddrws ei hun."
'Cwbl annerbyniol'
Mae sylwadau Mr Hart yn "hynod anaddas" ac yn "gwbl annerbyniol", meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd bod Mr Hart yn "amharchu'r gwaith trawsnewidiol y mae pobl yn ei dderbyn bob dydd gan y GIG ar draws Cymru a'r DU".
"Mae disgrifio'r GIG yng Nghymru fel annynol a chreulon yn gwbl annerbyniol.
"Dyw sylwadau anghyfrifol fel yma'n gwneud dim i wella'r materion difrifol sy'n ein hwynebu fel gwlad.
"Maent yn pardduo gwaith rhagorol pawb yn ein GIG ac yn gwneud dim i esgusodi polisïau cywilyddus Llywodraeth y DU."
Cadarnhaodd Mr Hart hefyd nad oedd neb wedi ymgynghori â Swyddfa Cymru ynglŷn â phenodiad dadleuol y gŵr busnes o Gymru, David Buttress, fel tsar costau byw newydd Llywodraeth y DU.
Mae Mr Buttress yn gefnogwr amlwg o annibyniaeth i Gymru ac yn feirniad hirsefydlog a lleisiol o Boris Johnson.
Dywedodd Mr Hart na fyddai wedi disgwyl i neb fod wedi ymgynghori ag ef o ystyried y "dwsinau" o benodiadau'r llywodraeth bob dydd, ac fe ganmolodd rinweddau "eglwys eang".
Mae Mr Buttress yn dechrau ei rôl ddi-dâl am chwe mis ym mis Gorffennaf a deellir ei fod yn edrych ar gynllun disgownt ar gyfer y DU gyfan gyda manwerthwyr mawr i rieni sy'n prynu gwisg ysgol yn yr haf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022