Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto yn cynnal ei hoedfa olaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr oedfa olaf: Adroddiad Tomos Lewis ar Dros Frecwast

Mae'n ddiwedd pennod yn Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto, wedi i'r eglwys gau ei drysau am y tro olaf.

Yn gynharach eleni wrth i nifer yr aelodau ostwng a chyflwr yr adeilad ddirywio fe wnaed y "penderfyniad anodd" i gau yr eglwys.

Cafodd ei ffurfio yn 1907 fel grŵp astudiaethau Beiblaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac wrth i nifer yr ymfudwyr i Ganada godi fe dyfodd yr eglwys.

Yn 1960 cafodd ffenestri lliw yn arddangos cennin Pedr eu gosod yn y drysau, a'r tu allan roedd yna le amlwg i'r arwydd 'Er Gogoniant Duw'.

"Roeddwn i'n gwybod pan fethon ni â chael gweinidog Cymraeg bod hi'n dominô arnon ni wedyn," meddai Hefina Phillips, un o'r aelodau wrth siarad ar Dros Frecwast.

"Erbyn dechrau'r ganrif yma ro'dd pobl yn teimlo bod cenedlaetholdeb wedi tyfu ac mai yng Nghymru oedd eu lle nhw - nid draw fan hyn.

"Sawl gwaith fues i draw yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwneud cyfweliadau radio [i drio cael gweinidog Cymraeg] - 'nes i fy ngorau ond lwyddes i ddim."

Ffynhonnell y llun, Google

Bu'r Parchedig Cerwyn Davies, yn wreiddiol o Sir Benfro, yn weinidog ar yr eglwys o 1979 tan y 90au cynnar.

"Ar y dechrau dechreuodd bobl sylweddoli 'It's now or never'. Os na wnawn ni rywbeth nawr bydd dim eglwys Gymraeg ac ar ôl cael un fe ddechreuodd pobl ddod i'r capel," meddai.

"Erbyn dechrau'r ganrif yma roedd eglwysi yn dechrau colli aelodau adref yng Nghymru ac roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ymfudo o Gymru i Ganada heb gefndir capel, ac yna fe ddechreuodd yr ymfudo slowo lawr - doedd neb yn dod o Gymru a neb yn dod yn aelod.

"Dyna beth ddigwyddodd yn y diwedd a doedd dim gweinidog o Gymru gyda ni."

'Diwrnod trist'

Ond roedd yr oedfa olaf yn ddiwrnod trist i'r rhai oedd yn mynychu'r capel.

Mae Carys Wyn Hughes, yn wreiddiol o Fodorgan ar Ynys Môn, wedi bod yn byw yng Nghanada ers dros 30 mlynedd.

"Roedd hi'n ddiwrnod trist iawn cael yr oedfa olaf," meddai.

"Doedd gen i ddim clem am Ganada pan ddos i yma gyntaf. 'Nes i joio fe a phenderfynu aros a phriodi a chael pump o blant.

"Ro'n i isio cadw fy Nghymraeg a 'nes i ffindio allan am Gapel Dewi Sant - felly tua unwaith y mis ro'n i'n trafaelio lawr i fi gael practisio fy Nghymraeg.

"Do'n i ddim yn 'nabod neb arall yma - so o'dd e'n handi i fi. 'Nes i 'neud ffrindiau - dod yma pan o'n nhw'n cael Cymanfa Ganu neu rywbeth efo Cymraeg. Mae'n rhyfedd iawn bod yma am y tro diwethaf."

Y gobaith yw y bydd y gymuned Gymraeg yn parhau. Fe fydd yr aelodau yn ymuno ag eglwys Saesneg gyfagos - Eglwys Goffa Timothy Eaton.

"Mae' bwysig i bobl o Gymru wybod bod cymdeithas yma iddyn nhw. Mae tipyn o bobl yn dal i ddŵad i Ontario o Gymru - felly mae angen bod yna iddyn nhw hefyd," ychwanegodd Carys Hughes.

Pynciau cysylltiedig