Dyn a'i cafwyd yn ddieuog o ladd ei wraig wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a'i cafwyd yn ddieuog o ladd ei wraig ar ôl cael ei gyhuddo o daflu olew berwedig arni yn eu siop sglodion wedi marw.
Roedd Geoffrey Bran, 73, yn rhedeg y Chipoteria yn Hermon, Sir Gâr gyda'i wraig Mavis, 69.
Bu farw Mavis Bran yn Ysbyty Treforys yn Abertawe chwe diwrnod ar ôl iddi ddioddef llosgiadau i 46% o'i chorff yn y digwyddiad ar 23 Hydref 2018.
Roedd yr erlyniad yn yr achos llys yn honni bod Mr Bran wedi taflu'r olew ar ei wraig yn dilyn ffrae am bysgod oedd wedi'u llosgi.
Ond roedd Mr Bran yn mynnu bod ei wraig wedi llithro a thynnu'r olew dros ei hun, ac fe'i cafwyd yn ddieuog gan reithgor ym mis Tachwedd 2019.
Bu farw Mr Bran yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar 1 Mehefin.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod yn "ŵr cariadus i'r diweddar Mavis, yn dad ffyddlon i Richard, Rhiannon a Rhidian, yn dad-cu oedd yn cael ei garu, tad-yng-nghyfraith a oedd yn cael ei barchu, a hefyd yn frawd annwyl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019