Ble nesaf i'r Ceidwadwyr yn ardal hollbwysig y gogledd ddwyrain?
- Cyhoeddwyd
Roedd yn "ganlyniad trychinebus", meddai Hugh Iriving.
Cyn etholiadau lleol mis Mai roedd yn un o saith cynghorydd Ceidwadol ym Mhrestatyn.
Nawr ef yw'r unig un ar ôl, a hynny o drwch blewyn.
Gyda mwyafrif o dim ond un bleidlais, fe gadwodd ei sedd ar Gyngor Sir Ddinbych.
Oni bai am ei brofiad fel cynghorydd am 30 mlynedd, efallai y byddai ei blaid wedi diflannu o wleidyddiaeth lleol y dre' yn llwyr.
Fe waeth pleidleiswyr oedd wedi ei gefnogi yn y gorffennol droi eu cefnau ar y blaid, meddai.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i chi fod yn blwmp ac yn blaen am hyn," meddai.
"Doedden nhw ddim yn hapus am lawer o'r newyddion ac adroddiadau o'r hyn y byddwn i'n ei alw'n gamymddwyn yn San Steffan."
'Ardal allweddol'
Fe wnaeth y camymddwyn - partïon yn Downing Street a dorrodd rheolau Covid - gostio'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddrud.
Yn y de collwyd seddi ym Mro Morgannwg a chollwyd reolaeth ar Sir Fynwy.
Yma yn Sir Ddinbych, fe lithron nhw o'r lle cyntaf i'r pedwerydd safle.
Mae Prestatyn a'r Rhyl yn etholaeth Dyffryn Clwyd. Fe gipiodd y Ceidwadwyr seddi'r Senedd a San Steffan o Lafur yn y ddau etholiad diwethaf.
Mae'n orliwio i ddweud na fydd Syr Keir Starmer yn cyrraedd Downing Street os nad yw ei blaid yn ennill y sedd yn ôl.
Ond mae hon yn ardal allweddol.
Dyna pam, wythnos cyn i'w blaid wneud mor wael, daeth Boris Johnson i weini hufen iâ tra'n ymgyrchu mewn parc carafannau yn Y Rhyl.
Yn amlwg, fe wnaeth y partïon bylu apêl ymweliadau o'r fath.
Fel llawer o lefydd eraill, roedd pobl wedi siomi gan yr hyn a glywon nhw ar y newyddion.
Dywedodd Allison Ward, sy'n gweithio yn The Deli on the Hill ar Stryd Fawr Prestatyn: "Mae pobl yn dod mewn i brynu caws ac yn cael y sgyrsiau yma ac maen nhw'n ddig. Maen nhw'n siomedig.
"A hefyd mae pobl yn hoffi teimlo nad ydyn nhw'n dwp."
Mae'r Cynghorydd Irving yn gobeithio bod pleidleiswyr wedi datgan eu rhwystredigaeth, gan adael digon o amser i'r Ceidwadwyr adfer cefnogaeth cyn y prawf mawr etholiadol nesaf.
Mae'n rhaid bod uwch swyddogion y blaid yn gobeithio ei fod yn iawn.
Yn sicr, dywedodd un fenyw ar y stryd fawr wrtha i bod y cyfryngau wedi gwneud gormod o ffwdan am Partygate.
Trobwynt?
Ond mae Llafur yn credu bod y canlyniad yn drobwynt mewn ymgyrch hir i adennill tiriogaeth yn y gogledd-ddwyrain.
Mae un o gynghorwyr Llafur newydd Prestatyn, Jason McLellan, bellach yn arwain Cyngor Sir Ddinbych ar ôl i'r weinyddiaeth Annibynnol-Geidwadol flaenorol gael ei disodli.
Ef oedd ymgeisydd Llafur ar gyfer y Senedd yn Nyffryn Clwyd y llynedd, gan golli o 300 pleidlais i'r Ceidwadwyr.
Yn hytrach na dibynnu ar Partygate i egluro'r newid yn ffawd Llafur, mae'n well ganddo ganmol eu maniffesto yn lleol a'r "neges gadarnhaol" ar garreg y drws ac ar Facebook.
Ond nid dim ond ymddygiad Boris Johnson sydd dan sylw. Felly hefyd record Llafur Cymru.
Mae'r bwrdd iechyd lleol, Betsi Cadwaladr, wedi wynebu llu o broblemau.
Dywedodd Gill German, cynghorydd arall o Brestatyn sydd bellach ar gabinet yr awdurdod lleol: "Achos ein bod wedi mynd allan a chael y sgyrsiau hynny - ac roedd rhai ohonynt yn gadarn - ac fe wnaethon ni ateb pobl, rhoddodd pobl eu hymddiriedaeth ynom i gyflawni'r hyn yr oeddent wedi gweld Mark Drakeford yn ei wneud ar lefel Llywodraeth Cymru."
Nid Llafur yw'r unig rai sydd eisiau siarad am Mark Drakeford.
Maen nhw'n argyhoeddedig bod y Prif Weinidog yn helpu yn etholiadol, ond mae arweinydd y Torïaid yn y Senedd yn dweud bod rhaid i'w blaid wneud mwy i roi'r bai ar Mr Drakeford am fethiannau y gwasanaeth iechyd.
Dywed Andrew RT Davies fod angen atgoffa pleidleiswyr nad yw'r gwleidyddion sy'n gyfrifol am broblemau ysbyty lleol Sir Ddinbych yn gweithio yn Llundain.
"Yr hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud yw cyflwyno'r achos yn llawer mwy ymosodol i bobl, pan na allwch gael gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, dyw hynny ddim oherwydd y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan," meddai.
"Mae hynny oherwydd y llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd."
'Wedi tanio injan datganoli'
Mae'r colledion yn yr etholiadau lleol wedi adfywio dadl ynghylch Cymreictod y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Mr Davies yn dweud bod angen iddyn nhw "adeiladu ar frand Cymreig cryf".
Ond mae'n wfftio adroddiad diweddar yn y Daily Telegraph wnaeth awgrymu bod rhywun yn y Ceidwadwyr Cymreig eisiau eu trochi mewn Dŵr Glas Clir a gwahanu rhag y blaid Brydeinig.
Dŵr Coch Clir oedd ymadrodd Rhodri Morgan - a gafodd ei fathu gan ei ymgynghorydd ar y pryd, Mark Drakeford - i wahaniaethu rhwng Llafur Cymru a Tony Blair.
Ond mae Mr Davies yn dweud bod gan Dorïaid Cymru ddigon o ryddid yn barod er mwyn cynnig polisïau unigryw.
Fis diwethaf, er enghraifft, fe alwodd ar Lywodraeth y DU i roi cyfran deg o gyllid HS2 i Gymru.
O ran Llafur yn cyhuddo Llywodraeth y DU o danseilio'r Senedd, mae Mr Davies yn dweud bod dwy Ddeddf Cymru - deddfau a drosglwyddodd fwy o bŵer i Fae Caerdydd - yn dangos "ein bod wedi tanio injan datganoli".
Johnson 'ar brawf'
Yn y pen draw, mae'n siŵr taw dim ond hyn a hyn gall y Ceidwadwyr Cymreig ei wneud i amddiffyn eu hunain rhag problemau gwleidyddol sy'n deillio o San Steffan.
Dywedodd Mr Davies fod gan y prif weinidog ei gefnogaeth lawn, ond mae'n rhaid i'w lywodraeth yn awr fwrw ymlaen a chyflawni ei haddewidion.
I wneud hynny, mae aelodau seneddol Ceidwadol wedi penderfynu cadw Boris Johnson yn Rhif 10, er mewn sefyllfa lawer gwannach.
Mae'r cynghorydd Mr Irving yn crynhoi'r sefyllfa fel hyn: "Rwy'n fodlon â hynny am y tro. Ond rwy'n credu ei fod ar brawf. Does dim amheuaeth am hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Mai 2022
- Cyhoeddwyd6 Mai 2022